Effaith pêl-droed ar y Cymry a Qatar
- Cyhoeddwyd
Mae hi'r gêm fwyaf poblogaidd yn y byd, a gall pêl-droed helpu newid meddylfryd pobl mewn gwahanol wledydd.
Dyna farn pennaeth cysylltiadau cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth sôn am effaith dilyn Cymru ar hunaniaeth rhai cefnogwyr a'r dilema o gystadlu yng Nghwpan y Byd mewn gwlad sy'n cael ei beirniadu am ei record hawliau dynol.
Mae Ian Gwyn Hughes yn rhan o'r tîm sydd wedi ei ganmol am ddod â'r Gymraeg a'r ymdeimlad o Gymreictod yn fwy amlwg o fewn y gêm yn ddiweddar.
Ac mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru bu'n sôn sut mae dilyn Cymru dramor yn gallu dylanwadu ar farn cefnogwyr am eu gwlad nhw eu hunain.
Yn wahanol i gemau eraill fel rygbi er enghraifft, sy'n tueddu i fod yn aml yn erbyn gwledydd fel Ffrainc, Iwerddon, Lloegr a'r Eidal, mae timau pêl-droed yn chwarae yn erbyn ystod fwy eang o wledydd, yn cynnwys gwledydd llai a rhai sydd wedi eu ffurfio - neu gael rhyddid ac ail-ffurfio - yn gymharol ddiweddar.
Dros y blynyddoedd diweddar mae Cymru wedi chwarae yn erbyn Moldova, Albania, Estonia, Gweriniaeth Siec, Georgia ac Azerbaijan sydd yn gallu dylanwadu'r Cymry sy'n mynd yno i gefnogi.
Dywedodd Ian: "Mae cefnogwyr Cymru yn mynd i Moldova, ma' nhw'n mynd i Estonia, Georgia - gwledydd bach - a phan mae pobl yn dod 'nôl a ma' nhw'n clywed pobl yn dweud 'ti methu 'neud hyn yng Nghymru, ti methu gwneud hyn, ti methu gwneud llall' maen nhw'n gwybod' 'wel actually ti yn' - achos gwledydd fel Estonia, Gwlad yr Iâ...
"A dyna yda ni'n dweud wrth y chwaraewyr - eu bod nhw'n cynrychioli Cymru ifanc fodern hyderus sydd yn deud 'ia' yn hytrach na deud 'na'.
"A dyna dwi'n meddwl 'da ni wedi creu o fewn y stadiwm... dwi'm yn deud bod be' sy'n digwydd o fewn y stadiwm yn adlewyrchu Cymru gyfan, ond o fewn y stadiwm o fewn ei gemau ni dwi'n meddwl dyna ydi'r naws - dy fod di yno mewn ffordd bositif hyderus i gynrychioli dy wlad."
Ac mae'r cyn-ohebydd a sylwebydd BBC, sy'n gweithio gyda'r gymdeithas ers dros 10 mlynedd bellach, hefyd yn meddwl y gallai cynnal Cwpan y Byd yn Qatar gael effaith bositif.
Mae mynd â'r bencampwriaeth i'r Dwyrain Canol wedi dod dan y lach ers y cyhoeddiad cyntaf un nôl yn 2010, yn rhannol oherwydd y perygl o chwarae mewn gwlad mor boeth - arweiniodd at y penderfyniad dadleuol i symud y digwyddiad i'r gaeaf.
Ond daeth beirniadaeth gyson wedi hynny hefyd yn sgil record hawliau dynol Qatar - yn cynnwys agweddau tuag at fenywod, pobl hoyw a rhyddid barn.
Mae hawliau gweithwyr tramor hefyd wedi dod o dan y chwyddwydr, gydag adroddiadau bod dros 6,000 o bobl wedi cael eu lladd wrth adeiladu'r stadiymau lle fydd y gemau yn cael eu cynnal.
Dywedodd Ian Gwyn Hughes eu bod wedi bod yn trafod sefyllfa hawliau dynol yn Qatar gyda phobl yn y Dwyrain Canol a'r gobaith oedd bod cynnal Cwpan y Byd yn mynd i fod yn rhan o'r broses o newid yno.
"Y teimlad ydi gan fod Cwpan y Byd yno dyma'r ffordd i falle ddod â sylw pawb a phopeth at yr hyn sydd yn digwydd yno a gobeithio fod o'n arwain at welliannau yno yn y dyfodol," meddai.
"Dydy hwn (Cwpan y Byd) ddim yn jest un peth sy'n mynd i ddigwydd (yn Qatar) a dyna hi... maen nhw'n bwriadu trio cynnal gemau Olympaidd yno ac yn y blaen ac maen nhw'n gweld hwn fel rhyw fath o daith - a dwi ddim yn meddwl bod unrhyw ddigwyddiad yn mynd i newid pethau sydd falle wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, canrifoedd, dros nos o ran diwylliant y wlad neu'r ardal allan yno...
"Mae o yn rhywbeth wrth gwrs fydd rhaid i ni ymdrin ag o, fydd y chwaraewyr yn siarad amdano fo a fydd y rheolwr yn siarad amdano fo a dwi'n siŵr fydd o'n gwestiwn fydd yn cael ei ofyn gan bob gwlad."
Hefyd o ddiddordeb: