Cwpan y Byd: Joe Allen yn gobeithio gallu wynebu'r UDA

  • Cyhoeddwyd
Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joe Allen yn siarad yn ystod sesiwn i'r wasg Ddydd Llun

Mae Joe Allen yn gobeithio bod yn holliach ar gyfer gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd, er nad yw wedi chwarae ers 17 Medi oherwydd anaf i linyn y gar.

Bydd Cymru'n wynebu'r Unol Daleithiau yn Qatar ddydd Llun nesaf, mewn grŵp sydd hefyd yn cynnwys Lloegr ac Iran.

Mae Allen, 32, yn ffigwr hynod ddylanwadol i Gymru ond mae pryder wedi bod am ei ffitrwydd wrth iddyn nhw baratoi i chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

"Dwi'n gobeithio bod yn ffit ar gyfer y gêm gyntaf. Does dim llawer o amser, ond mae hon yn wythnos bwysig i mi," meddai.

"Mae'n gwella, diolch byth. Dwi wedi bod yn trio cael fy hun yn ffit ar gyfer Cwpan y Byd.

"Rydw i wir eisiau profi fy ffitrwydd. Bydd yn rhaid i ni weld sut aiff yr wythnos hon, ond rwy'n teimlo'n hyderus ac yn gyfforddus na fydd yn ormod o broblem."

Siambr ocsigen

Mewn ymgais i wynebu'r Unol Daleithiau a chwarae yn ei Gwpan y Byd cyntaf, dywedodd ei fod wedi mynd i drafferth mawr er mwyn gwella.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Chwaraeon Radio Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Chwaraeon Radio Cymru

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Ar y dechrau, roeddwn i braidd yn anlwcus o ran gwybod beth yn union oedd y broblem ond, diolch byth, fe wnaethon ni ddarganfod pa mor ddrwg oedd yr anaf.

"Ers hynny, rydym wedi llunio cynllun adfer a gweithio'n galed. Rwy'n ddiolchgar fy mod wedi cael cymaint o help gan bawb yn Abertawe a Chymru.

"Rwyf wedi bod i Lerpwl i weld arbenigwr ac wedi cael siambr ocsigen hyperbarig yn fy nhŷ. Rwyf wedi taflu popeth ato.

"Erbyn hyn, mae pethau'n mynd yn dda a gobeithio y bydda i'n barod ar gyfer dechrau'r twrnamaint."