'Allwch chi ddim anwybyddu' pwysigrwydd mab enwocaf Arberth

  • Cyhoeddwyd
arberth
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd murluniau i bêl-droedwyr Cymru i'w gweld mewn trefi eraill cyn hir

Ar furiau tafarn y Farmers Arms yn Arberth, mae murlun trawiadol wedi ymddangos yn ystod y dyddiau diwethaf.

Murlun ydyw o un o feibion enwocaf y dref - Joe Allen - fydd gydag ychydig o lwc yn serennu i Gymru yng Nghwpan y Byd.

Menter Iaith Sir Benfro a Mentrau Iaith Cymru sydd wedi ei drefnu, i hyrwyddo Cymreictod a Chwpan y Byd.

Fe fydd murluniau eraill i'w gweld o gwmpas Cymru cyn bo hir yn ymwneud â phêl-droed.

Ar hyn o bryd, mae dilynwyr Joe Allen yn gweddïo y bydd y dewin 32 oed yng nghanol cae yn holliach ar ôl iddo anafu llinyn y gar mewn gêm i Abertawe yn erbyn Hull.

Mae'r murlun wedi ei greu gan yr artist graffiti Lloyd Jenkins ac yn portreadu chwaraewr sydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Des i lan â'r syniad o greu murluniau fel hyn a rhoi sawl un fach dros Gymru, a dyma'r un sydd gyda ni yma yn Sir Benfro", meddai Dafydd Vaughan sy'n swyddog gyda Menter Sir Benfro.

"Mae'n braf cael murlun fel hyn yn Arberth."

Ar ôl mynychu'r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Gynradd Arberth, fe wnaeth Joe Allen ei farc fel disgybl yn Ysgol y Preseli wrth chwarae hefyd i academi Abertawe.

Mae cyn-bennaeth Ysgol y Preseli, Mike Davies, yn cofio gweld ei ddoniau am y tro cyntaf ar ddiwrnod pontio.

"Odd e wedi dod lan fel rhan o'r rhaglen bontio o Ysgol Gynradd Arberth, ac roedd yna glwstwr o ddisgyblion yn chwarae ar y cyrtiau tenis.

"Dyma aelod o'r chweched dosbarth yn rhedeg lan i'n swyddfa i yn dweud 'syr, syr, mae eisiau chi ddod lawr i'r cyrtiau tenis nawr oherwydd mae chwaraewr 'da ni fan hyn o Arberth sydd just yn mynd o gwmpas pawb gyda'r bêl 'ma, mae'n rhaid i chi weld e!'

"Dyna'r atgof gyntaf. Lawr a fi i weld e' ar y cyrtiau tenis a cyflwyno fy hunan iddo fe. Dyna'r tro cyntaf i fi ddod ar draws Joe Allen."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mike Davies fod Joe Allen yn un o dri chwaraewr allweddol i obeithion Cymru

Mae'n cofio Joe yn gwneud cryn argraff hefyd mewn twrnament yn Llydaw.

"Pan ddaeth e lan i Ysgol y Preseli, roedd e eisoes wedi bod yn ymarfer gydag Abertawe, felly roedd yna gysylltiad uniongyrchol rhwng Joe, y teulu ac Abertawe yn barod.

"Yn ffodus iawn, rhoiodd Abertawe ganiatâd iddo chwarae i'r ysgol mewn cystadleuaeth allan yn Llydaw, lle roedden ni yn chwarae yn erbyn rhai o dimau mawr Ewrop.

"Fe aeth e allan fan'na am bythefnos ac mae'n rhaid i fi ddweud roedd finnau a Mr Des Davies, oedd wedi trefnu'r daith, yn boblogaidd iawn gyda'r sgowtiaid oedd wedi dod o glybiau eraill.

"Roedd ei berfformiadau ar y llwyfan rhyngwladol, mor ifanc â 12 oed, yn adlewyrchu yn union beth mae e wedi gwneud nawr gyda'r tîm cenedlaethol."

Disgrifiad o’r llun,

Murlun yn Arberth i nodi llwyddiant pêl-droediwr enwocaf y dref

Mae Mike Davies wedi ymddeol erbyn hyn fel Pennaeth Ysgol y Preseli, ond mae'n parhau i sylwebu i Sgorio. Mae'n gweld Joe Allen fel chwaraewr allweddol i Gymru.

"Mae wastad son am Gareth Bale ac Aaron Ramsey a Joe Allen fel triawd.

"Mae'n hanfodol bwysig i obeithion Cymru bod y tri ohonyn nhw yn holliach ar gyfer y gystadleuaeth.

"Gallwch chi ddim ac anwybyddu pwysigrwydd Joe. Mae'r ffordd mae'n chwarae'r gêm yn atal y tîm arall rhag sgorio.

"Dwi'n edmygu'r hyn mae'r tîm wedi cyflawni, a Robert Page wedi cyflawni, ond yn bennaf wrth gwrs cyfraniad y gŵr bach o Sir Benfro, Joe Allen."

Disgrifiad o’r llun,

Rhydian Wyn: Croeso arbennig i aelodau'r Wal Goch yn Doha

Roedd y cyfreithiwr, Rhydian Wyn, yn gyd-ddisgybl gyda Joe Allen yn Ysgol y Preseli. Erbyn hyn, mae'n gyfreithiwr yn Doha, Qatar.

Mae e hefyd yn gobeithio bydd ei gyfaill yn holliach.

"Ni gyd fel cefnogwyr Cymru a fi'n bersonol yn gobeithio yn arw y bydd e'n holliach erbyn y gêm gyntaf yna yn erbyn yr Unol Daleithiau.

"Mae'n allweddol i'r ffordd ni'n chwarae. Mae'n rhoi'r sylfaen yna yng nghanol y cae i alluogi'r chwaraewyr mwy creadigol i ymosod.

'Cyffro wedi cynyddu'

"Bob tro mae Joe ar goll o'r tîm 'da ni ddim yn edrych mor gadarn yn y canol. Croesi popeth y bydd e'n holliach.

"Mae'r cyffro wedi cynyddu yn aruthrol dros yr wythnosau diwethaf. Mae'r haf yn Qatar yn medru bod bach yn araf achos bod y tywydd mor dwym.

"Dros yr wythnosau diwethaf, mae lot o fwrlwm. Ni'n gweld lot mwy o bobl yn dod mewn i'r wlad - gweithwyr FIFA ac yn y blaen.

"Am achlysur bydd hi! Bydd tua 4,000 i 5,000 o gefnogwyr yn dod mas yma.

"Bydd croeso arbennig i holl gefnogwyr y Wal Goch yn Doha."