Cwpan FA Lloegr: Wrecsam 4-1 Farnborough

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mullin yn sgorio ei gôl gyntaf o dair ar ddechrau'r ail hanner

Mae Wrecsam trwodd i drydedd rownd Cwpan FA Lloegr am y tro cyntaf ers tymor 2014/15 wedi iddyn nhw drechu Farnborough ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.

Ar ôl hanner cyntaf ddi-sgôr aeth Wrecsam ar y blaen ar ddechrau'r ail gyda gôl gan Paul Mullin.

Ond fe wnaeth yr ymwelwyr daro 'nôl wedi awr o chwarae gyda chic rydd gan Oliver Pendlebury.

Gyda chwarter awr yn weddill aeth y Cymry yn ôl ar y blaen gydag ergyd wych o du allan i'r cwrs cosbi gan Elliot Lee, cyn i Mullin ychwanegu ei ail.

Llwyddodd Mullin i gwblhau ei hat-tric yn y munudau olaf, gan sicrhau'r fuddugoliaeth i Wrecsam.

Bydd timau mwyaf cynghreiriau Lloegr yn dod i mewn i'r gystadleuaeth yn y drydedd rownd, gan olygu y gallai Wrecsam wynebu enw mawr o'r Uwch Gynghrair.

Fe fydd yr enwau'n dod allan o'r het ar gyfer y drydedd rownd nos Lun.