Ymddiheuriad wedi i stelciwr gael manylion dioddefwr
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder anfon manylion personol am ddioddefwr at ei stelciwr yn y carchar.
Mae'r weinyddiaeth wedi ymddiheuro i Rhianon Bragg am y camgymeriad.
Yn 2019 cafodd Ms Bragg ei dal yn erbyn ei hewyllys gan ei chyn-bartner am wyth awr yn ei chartref yng ngogledd Cymru - roedd gwn yn ei feddiant.
Yn 2020 cafodd Gareth Wyn Jones ei garcharu am bedair blynedd a hanner.
Yn y flwyddyn newydd, bydd gwrandawiad parôl i drafod y posibilrwydd o'i ryddhau.
Fel rhan o'r broses parôl, fe wnaeth swyddogion diogelu'r cyhoedd lunio ffeil o ddogfennau am yr achos.
Roedden nhw'n cynnwys adroddiadau cyfrinachol gan seicolegydd clinigol - adroddiadau a oedd yn rhoi manylion am effaith y troseddau ar y ddioddefwraig a'i phlant.
Mae Ms Bragg yn ofni y gallai'r wybodaeth, na ddylid ei rhannu, ac a gyflwynwyd i Jones, 58, fod yn arf yn ei herbyn.
"Mae'n ofnadwy," meddai. "Maen nhw wedi rhoi arfau i ddyn peryglus."
Dywed bod cael gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd wedi dod â'r trawma a ddioddefodd drwy law Jones yn fyw eto.
'Dim ffydd yn y system'
Fe ddaeth hi â'r berthynas bum mlynedd gyda'r mecanig i ben yn 2019 - perthynas y mae hi wedi'i disgrifio yn y gorffennol fel un fygythiol a oedd yn cael ei rheoli gan ei chyn-bartner.
Wedi i'r berthynas ddod i ben fe wnaeth y bygythiadau a'r aflonyddu barhau ac ar 15 Awst 2019 fe aeth Jones i'w chartref ger Caernarfon gyda gwn saethu.
Fe ddaliodd Ms Bragg yn gaeth tan iddo adael iddi fynd i apwyntiad meddyg - ac fe gafodd ei arestio yn y maes parcio.
Cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar.
Fe wnaeth ei phrofiad ysgogi Ms Bragg i alw am wella'r ffordd y mae'r heddlu a'r system gyfiawnder yn delio gyda thrais yn y cartref - gan gynnwys mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau atal.
"Does gen i ddim ffydd yn y system gyfiawnder," meddai.
"Maen nhw wedi cael gwared o unrhyw hawliau oedd gen i. Fel dioddefwyr diniwed roeddwn i'n credu y byddwn i a fy mhlant yn cael ein gwarchod."
Ychwanegodd ei bod hi'n credu bod preifatrwydd ei stelciwr yn cael ei warchod yn fwy na'i phreifatrwydd hi.
"Rwy'n teimlo nad yw fy hawliau mor bwysig â rhai fo," ychwanegodd.
Dywed Ms Bragg ei bod hi'n benderfynol o ddwyn sylw at y camgymeriad sydd wedi cael ei wneud gan swyddogion cyfiawnder - rhag ofn i'r un peth ddigwydd i eraill sy'n mynd drwy brofiad tebyg.
'Camgymeriad annerbyniol'
Mae hi wedi cael cefnogaeth nifer o wleidyddion lleol - yn eu plith Siân Gwenllian AS.
Dywed AS Arfon bod y camgymeriad wnaed gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn "gwbl annerbyniol".
"Mae rhannu gwybodaeth sensitif a chyfrinachol gyda throseddwr yn gwbl ddifrifol ac yn rhywbeth na ddylai fod wedi digwydd," meddai.
"Mae angen sicrhau nad oes hyd yn oed rhagor o bwysau yn cael ei roi ar ddioddefwyr a hynny oherwydd anallu'r system."
Wrth ymateb dywedodd swyddog o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae'r llywodraeth wedi gwneud nifer o newidiadau arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i warchod y sawl sydd wedi dioddef stelcian ac ry'n ni'n ymddiheuro'n fawr am y camgymeriad annerbyniol hwn a'r gofid y mae wedi ei achosi i Ms Bragg.
"Ry'n yn cymryd y math hwn o gamgymeriad yn gwbl o ddifrif ac mae ymchwiliad ar y gweill i ganfod beth ddigwyddodd."
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021