Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 5-0 Solihull
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Wrecsam ennill yn rhwydd brynhawn Llun yn erbyn Solihull Moors ond maen nhw'n aros yn ail yn y Gynghrair Genedlaethol gan fod Notts County wedi ennill ddydd Llun hefyd.
Roedd yr hanner cyntaf yn gymharol dawel ar y Cae Ras a dim ond gôl Ollie Palmer ar ôl 42 munud oedd yn rhannu'r ddau dîm.
Ond yn ystod yr ail hanner fe lifodd goliau Wrecsam.
Roedd Paul Mullin, fel arfer yn brysur yn y rhwydi - tair gôl heddiw ar ol 51, 77 a 79 munud ac fe sgoriodd Aaron Hayden ar ôl 72 munud.
Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd eto ymhen yr wythnos ond yn Solihull y tro nesaf.