Chwyddiant yn waeth na Covid i dafarndai gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o dafarndai gwledig Cymru wedi disgrifio'r misoedd diwethaf fel rhai "anodd" a "gwaeth" na chyfnod Covid, wrth i gostau barhau i gynyddu.
Yn ôl perchennog tafarn o Benuwch, ger Tregaron mae niferoedd ar eu lawr a phobl yn meddwl yn wahanol am y ffordd maen nhw'n gwario'u harian.
Gyda chostau rhedeg tafarn hefyd ar gynnydd, mae rhai yn y sector yn cwestiynu eu dyfodol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru am gefnogaeth.
"Mae'r numbers yn dwindleo lawr a dyw pobl ddim yn gwario lot o arian," meddai Katie Parry-Evans, perchennog The Hungry Ram yng Ngheredigion.
"Ma' prisiau bwyd a drinks, cwrw a phopeth yn mynd reit, reit lan so mae'n rhaid i ni raiseo prices ni. Sai'n gwybod sut mae'r dyfodol yn mynd i fynd i fi."
Wedi bod yn berchennog ar y dafarn ers 2017, mae'n dweud nad yw'n benderfyniad hawdd gofyn i'w cwsmeriaid ffyddlon dalu fwy.
"Mae e'n horrible" meddai.
"Mae cwpwl o gwsmeriaid wedi dweud 'Chi wedi rhoi'r prices reit lan'. A fi jyst fel, 'wel, mae'n rhaid i fi wneud living a teulu ni'.
"Mae'n anodd achos maen nhw'n complaino, dim ond cwpwl o gwsmeriaid, ond mae prices yn mynd lan i bawb. Mae'n anodd, mae e yn anodd."
'Canslo shiffts'
Yn ôl Katie, mae'r newid i arferion gwario pobl wedi effeithio ar y dafarn a'r staff.
"Ni wedi canslo shifts fel y pot wash neu gweud wrth waitress ni s'dim point dod mewn achos fi just gallu neud e ben fy hunan…sai'n lico 'neud e, ond mae'n rhaid i fi 'neud e.
Ni yn 'neud rota a ni yn gweud ar y rota 'chi provisionally mewn'...Ma' staff fi yn good a very, very supportive achos maen nhw'n gwybod sut mae'r situation yn mynd nawr."
Mewn arolwg diweddar gan Gymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain, dywedodd 86% o dafarndai eu bod yn ystyried cwtogi eu horiau agor dros y gaeaf.
Dywedodd 85% eu bod yn ystyried cau'n gyfan gwbl am un neu ddau ddiwrnod yr wythnos.
Un sydd wedi penderfynu gwneud hynny yw tafarn Y Mari Glyn yn Llanllwni.
"Ni jyst ar agor nawr ar ddydd Mercher ac yn ystod y penwythnos," meddai Helen Rees y perchennog.
"Ein nod ni pan ddelon ni 'ma oedd i fod ar agor saith dydd yr wythnos. Dechreuon ni off fel 'na ond o'n ni'n gallu gweld wedyn 'ny bod ddim lot o bobl yn dod mewn, yn enwedig yn y dydd."
'Waeth' na chyfnod Covid
Yn ôl Helen, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd, 'yn waeth 'na beth o'n nhw yn ystod Covid' yn sgil costau cynyddol.
"Ar y foment, rhwng gwresogi'r lle a trydan, mae e'n costi fwy na beth yw e i renti'r lle. A fel 'na mae e'n mynd nawr, ma' biliau yn mynd yn fwy uchel bob mis a ma' jyst rhaid i ni neud cutbacks….
"Ma' rhaid neud penderfyniade o beidio colli arian wrth ddim agor y drws."
Mae hi'n galw ar Lywodraeth Cymru am gymorth i'r sector.
"Ni 'di trial gofyn i'r llywodraeth am help ond s'dim byd i ga'l… O leiaf o'dd help o'r Llywodraeth yn ystod Covid ond s'dim byd i ga'l i ni ar y foment."
Ym Mhenuwch, mae perchennog The Hungry Ram hefyd yn galw am gymorth, ac yn dweud eu bod yn ystyried buddsoddi mewn paneli solar i geisio lleihau ei biliau ynni.
"Ni'n employo fel fifteen staff, ni'n rhoi lot o arian mewn i'r local businesses fel y bwtshwr a vegetable supplier," meddai Katie Parry-Evans.
"Bydde fe'n neis os bydde'r llywodraeth yn rhoi bach o gefnogaeth i ni."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd pob busnes yn elwa o'u pecyn cymorth sy'n werth mwy na £460m dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, gan roi hwb i'r rheiny sy'n ei chael yn anodd ymdopi ag effeithiau chwyddiant uchel a chostau ynni cynyddol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2022