Mentro i redeg tafarn Y Glôb ar adeg heriol

  • Cyhoeddwyd
Non Edwards yn gwenu gyda diod yn ei llawFfynhonnell y llun, Non Edwards

Mewn cyfnod o ansicrwydd i'r diwydiant lletygarwch mae Non Edwards, 24, wedi mynd yn erbyn y llif a mentro i fyd busnes - mae hi'n rhedeg un o dafarndai myfyrwyr mwyaf eiconig gogledd Cymru ers dechrau'r flwyddyn.

Dechreuodd Non gyd-redeg tafarn Y Glôb ym Mangor Uchaf yn ystod mis Ionawr 2022 gyda Gerallt Williams, y landlord ers dros chwarter canrif.

Daeth Non i Fangor i astudio gradd meistr a chael gwaith achlysurol yn Y Glôb i helpu gyda'i biliau; roedd yn gam naturiol iddi gymryd cam ymhellach i'r busnes, meddai.

"Dwi'n gweithio mewn lletygarwch ers pan o'n i tua 13 a dwi'n cofio sgwrsio efo Ger a 'nes i benderfynu mai dyma oni isho 'i neud.

"Mis Hydref wedyn wnes i jyst gofyn os oedd o ffansi partner busnes a diolch i Dduw 'nath o gytuno a 'dani wrthi ers mis Ionawr," meddai Non mewn sgwrs ar Dros Ginio, Radio Cymru.

Gwasgfa

Mae'r 10 mis cyntaf wedi bod yn rhai llwyddiannus ar y cyfan, meddai Non, ond Covid a chostau byw yw'r ddau brif her sydd wedi eu hwynebu, ac mae ganddi hi ei phryderon ynglŷn a'r cyfnod nesaf sydd ar y gorwel hefyd.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn y Glôb wedi bod yn ganolbwynt i fyfyrwyr Cymraeg Bangor ers cenedlaethau

"Yn dilyn Covid oeddan ni'n gweld bod na lai o bobl yn dod i mewn i'r pyb, mae na lot o bobl yn dod am Wythnos y Glas ac yn mynd nôl adra i astudio wedyn.

"Ac yn amlwg mae costau bob dim wedi codi a dydan ni dim yn licio rhoi ein costau ni yn uwch o gwbl - ond mae honna wedi bod yn her, trio balansio bob dim.

"'Dy'n ni'n gweld bod y trend mynd allan am beint ar nos Fercher, nos Fawrth, ella jyst yn ddistaw, 'dani ddim yn gweld hynna dim mwy..."

Dywedodd Non bod llawer o fyfyrwyr sydd eisoes wedi dychwelyd i Fangor wedi dweud wrthi yn barod eu bod nhw'n brin o arian - a hynny ond ychydig wythnosau ers i'r brifysgol ail-gychwyn.

Ac o ran y busnes "mae costau nwy, trydan, bwyd, cynnyrch staffio - bob dim, yn codi," meddai.

"Mae hi'n anodd iawn i fusnesau lletygarwch, yn enwedig rhai bach fel ni."

Ar ben hyn, mae TAW (Treth ar Werth) a'r cynnydd yng nghost casgenni cwrw yn bryder.

Mae wedi golygu meddwl am ffyrdd newydd o ddenu cwsmeriaid ac felly mae'r dafarn bellach yn cynnig bwyd ac yn cynnal digwyddiadau gan gynnwys gigs, arddangosfeydd a gofod i weithiau artistiaid lleol.

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams
Disgrifiad o’r llun,

Myfyrwyr Bangor yn y Glôb yn 2015 cyn bod sôn am bandemig na'r wasgfa ariannol bresennol

"Be' ti'n ei weld rŵan ydi bod pobl yn llai tebygol o fynd allan am beint ar eu liwt eu hunain. Mi o'n i'n meddwl am sut fedrwn ni ddenu pobl yn ôl, ac mae hi'n amlwg bod cynnal digwyddiadau fel gigs wedi perswadio pobl i ddod yma am noson allan.

"Doedd yna ddim bwyd yn cael ei gynnig yma ers blynyddoedd er bod y gegin ar gael i ni, felly dwi wedi mynd ati i ddatblygu bwydlen newydd ac mae gennyn ni gogydd newydd hefyd."

Hanes hir i'r dafarn

Mae tafarn Y Glôb yn adnabyddus i nifer o fyfyrwyr Cymraeg sydd wedi astudio yng Nghymru ac yn fan cyfarfod cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor ers cenedlaethau.

Roedd y perchennog presennol, Ger, yn gweithio y tu ôl i'r bar yn ystod y 1980au pan roedd y dafarn dan berchnogaeth y chwedlonol Wil a Mags, cyn iddo fo gymryd yr awennau ei hun yn 1994.

Ffynhonnell y llun, Gerallt Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cwsmeriaid selog y Glôb yn y nawdegau pan ddaeth Gerallt Williams yn rheolwr - a phan oedd pobl yn cael smocio mewn tafarn

Gan fod y dafarn yn rhan mor annatod o Fangor Uchaf mae Non yn teimlo ei bod hi'n bwysig iawn bod y dafarn yn cefnogi'r gymuned leol.

"Er ei bod hi'n ardal sydd llawn myfyrwyr, mae yna gymdeithas yn byw ym Mangor Uchaf, hefyd," meddai ac mae am wedl y dafarn yn cael ei defnyddio fel gofod cymunedol ar gyfer y gymuned leol; "...wedi'r cyfan, nhw sydd ar ôl wedi i'r myfyrwyr ddychwelyd adref am Ddolig a'r haf!"

Ymchwil busnes

Cyn penderfynu mynd ati i gyd-redeg Y Glôb, dywedodd Non, sydd o Gricieth yn wreiddiol, ei bod hi wedi chwarae gyda syniadau busnes eraill yn y maes lletygarwch.

Bu'n gwneud ymchwil i'r math o gefnogaeth ariannol oedd ar gael i rhywun oedd yn dymuno dechrau menter newydd, ond roedd yn teimlo nad oedd llawer ar gael a fyddai o gymorth iddi.

"Mae llawer o'r hyn sydd allan yna yn gaddo mwy na be' sy'n cael ei roi," meddai.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Gerallt Williams tu ôl i'r bar yn 2018, flwyddyn cyn iddo ddathlu chwarter canrif o redeg y dafarn

Roedd Y Glôb yn cynnig ei hun fel menter fyddai'n galluogi Non i gael profiad o redeg busnes, ac roedd y ffaith fod y dafarn eisoes wedi'i sefydlu yn gwneud y cam yna'n haws.

Byddai Non yn cynghori unrhyw berson ifanc sy'n awyddus i ddatblygu syniad busnes i roi'r syniad gerbron teulu a ffrindiau yn gyntaf.

Mae hyn yn eich helpu i ateb cwestiynau ac ystyried elfennau o'r syniad busnes mewn ffordd ychydig yn wahanol, meddai.

Pynciau cysylltiedig