Gwahardd meddyg dros dro a rannodd honiadau ffug am Covid
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg preifat ym Mhowys wnaeth rannu honiadau ffug am driniaethau Covid ar-lein wedi cael ei gwahardd rhag gweithio am gyfnod.
Mae Dr Sarah Myhill wedi ei gwahardd am naw mis yn dilyn gwrandawiad Gwasanaeth Tribiwnlys yr Ymarferwyr Meddygol.
Yn ystod Mawrth a Mai 2020, fe wnaeth Dr Myhill uwchlwytho cyfres o fideos i YouTube a chyhoeddi erthyglau ar-lein.
Daeth y tribiwnlys i gasgliad fod y deunydd yn "tanseilio iechyd cyhoeddus" ac y gallai arwain y cyhoedd i "anwybyddu negeseuon iechyd cyhoeddus eraill".
'Gallai achosi niwed difrifol'
Roedd y negeseuon yn hyrwyddo cymryd fitaminau a sylweddau eraill mewn dosau uchel er mwyn atal bygythiad Covid, heb dystiolaeth y byddan nhw'n gweithio.
Daeth y tribiwnlys i ddeall y gallai rhai o'i hawgrymiadau achosi "niwed difrifol" a "gwenwyndra a allai arwain at farwolaeth".
Mewn un cyflwyniad ar-lein, dywedodd Sarah Myhill fod yr hyn yr oedd yn disgrifio fel "ymyriadau maethlon, diogel" yn golygu fod brechiadau "yn amherthnasol".
Clywodd y panel nad oedd y sylweddau yr oedd yn eu hyrwyddo yn ddiogel yn fyd-eang a bod ganddyn nhw botensial i achosi risg iechyd difrifol. Nid oedd tystiolaeth chwaith i awgrymu y byddan nhw'n gweithio'n effeithiol.
Fe wnaeth Dr Myhill danseilio'r angen i wisgo gorchuddion wyneb hefyd.
Daeth y tribiwnlys i gasgliad "nad yw [Dr Myhill] yn ymarfer meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gallai annog sicrwydd ffug yn ei chleifion a allai feddwl na fydden nhw'n dal Covid-19 neu heintiau eraill os y bydden nhw'n dilyn ei chyngor".
Clywodd y panel sut y gwnaeth Sarah Myhill werthu'r sylweddau yr oedd hi'n eu hyrwyddo drwy ei gwefan.
Fe glywon nhw hefyd fod Dr Myhill wedi peryglu claf oedd, o bosib, wedi torri asgwrn yn eu clun, trwy beidio â sicrhau eu bod wedi eu cludo i'r ysbyty. Fe ddaethon i gasgliad fod hynny wedi amharu ar ei haddasrwydd i weithio, o ganlyniad.
Roedd 30 o ymchwiliadau eraill wedi eu gwneud i Dr Myhill gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, glywodd y tribiwnlys, ond ni wnaeth un ohonyn nhw arwain at ganlyniad o gamymddwyn.
Fe gafodd Dr Myhill ei gwahardd yn syth wrth i'r tribiwnlys gloi: "O ystyried amgylchiadau'r achos hwn, mae'n angenrheidiol i warchod aelodau'r cyhoedd ac yn y budd cyhoeddus i wneud gorchymyn yn atal cofrestriad Dr Myhill dros dro ar unwaith, i gynnal a chynnal safonau proffesiynol a chynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn."
Doedd Dr Myhill ddim yn bresennol yn y gwrandawiad.