'Chwilio am Stori': Gohebydd Ifanc y BBC

  • Cyhoeddwyd
BBC

Mae Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC yn gyfle i bobl ifanc 11-18 oed yn y DU rannu syniad gwreiddiol am stori gyda'r BBC.

Bydd y straeon buddugol yn cael eu cynhyrchu gyda chymorth newyddiadurwyr, cynhyrchwyr a gwneuthurwyr rhaglenni'r BBC i'w darlledu ar y teledu, ar y radio, ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Pa fath o straeon ydyn ni'n chwilio amdanyn nhw?

Dim ond un categori stori sydd: Fi a Fy Myd

Yn ddelfrydol, bydd y syniad am stori yn wreiddiol: rhywbeth sydd heb gael llawer o sylw o'r blaen, neu a all helpu i ddod ag ongl newydd ac unigryw i bwnc.

Gall fod yn stori bersonol, neu'n rhywbeth sy'n gysylltiedig â phrofiad teulu, ffrindiau neu gymuned, neu'n brofiad sy'n arbennig o berthnasol i bobl ifanc.

Rhai enillwyr blaenorol:

Sut mae rhoi cynnig arni?

Defnyddia'r FFURFLEN YMA i anfon amlinelliad atom o syniad y stori - gei di ysgrifennu neu recordio dy gais fel clip fideo neu sain byr.

Rhaid i ti gyflwyno dy syniad erbyn dydd Gwener 31 Mawrth 2023 am 23:59.

Paid â phoeni am yr arddull na'r fformat ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim am gael yr adroddiad gorffenedig, dim ond amlinelliad o'r hyn sydd gen ti dan sylw a pham y dylai'r stori gael ei hadrodd i gynulleidfa ehangach.

Cofia ein bod yn chwilio am syniadau gwreiddiol am fater neu brofiad personol sydd heb gael llawer o sylw o'r blaen, neu sydd ddim fel arfer yn ymddangos ar y BBC.

Gall unigolyn neu grŵp o bobl ifanc gyflwyno ceisiadau.

Mae angen caniatâd rhiant/gwarcheidwad er mwyn ymgeisio.

Mae'r rheolau ar gyfer y gystadleuaeth yma.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd sy'n dweud wrthyt ti sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth am y cais yma.

Pynciau cysylltiedig