'Gorfod mynd at ddeintydd preifat - dim dewis arall'
- Cyhoeddwyd
Does dim posib gwybod beth yw gwir raddfa argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd.
Mae pryderon bod gormod o bobl yng Nghymru ddim yn gallu cael mynediad at ddeintydd sy'n cynnig triniaeth fel rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol mae diffyg eglurder am nifer y cleifion sy'n aros i weld deintydd.
Dywed un teulu o Rydaman nad oedd eu mab wedi gweld deintydd am bedair blynedd wedi i'w practis GIG lleol gau.
'Wedi gorfod mynd yn breifat'
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher dywedodd Rhian Davies o Rydaman: "Cyn y pandemig doedd y mab ddim wedi gweld deintydd ers rhyw ddwy flynedd ac yn dilyn y pandemig geisiais i gael apwyntiad iddo ond o'n i jyst methu cael un oherwydd doedd e ddim yn argyfwng - ddim yn emergency.
"Ond wedyn ym mis Mai 2022 caeodd y ddeintyddfa yn ddirybudd - o'dd yn golygu bod unman ac fe gynigiwyd tri phractis arall drwy lythyr ond o'n nhw'n bell - yn Llanelli, Gorseinon a Killay. Ro'n nhw ryw 14 milltir bant.
"Ro'dd yr holl beth yn heriol iawn. O'n i'n ffonio a dim ateb ac ro'dd rhaid disgwyl i'r admissions officer ffonio nôl ond o'dd e ddim yn 'neud a phan o'n nhw'n ffonio ni nôl ro'n nhw'n cyfeirio ni at wasanaeth preifat - rhywbeth ro'n i ddim wedi disgwyl ar y pryd.
"Mae'r rhestrau lleol mor hir. Chi'n cwympo rhwng dwy stôl. Os nad oes deintydd 'da chi - chi ddim yn gallu cael triniaeth.
"Ni wedi cofrestru nawr gyda deintydd preifat gan dalu £60 i ddechrau ac yna £30.40 y mis, Mae dau ohonom wedi cael triniaeth bellach a hynny ar gost o £450.
"Fi jyst ffili credu pa mor anodd oedd e i ni gofrestru a pha mor ddrud oedd e.
"Fi'n falch bod archwiliad achos bo fi'n gwybod faint o broblem yw e yn lleol fan hyn... ac mae diffyg dealltwriaeth o faint y broblem."
Peryg o greu system dair haen?
Yn ôl cadeirydd y pwyllgor Iechyd a gofal, Russell George AS, mae'n bryd diwygio'r system ac mae'n rhaid mynd i'r afael â nifer y cleifion sydd angen gofal deintyddol.
"Mae llawer o bobl yn sôn am system ddwy haen, lle mae'r rhai sy'n gallu fforddio talu am driniaeth breifat yn gwneud hynny," meddai.
"Ond a ydym mewn gwirionedd mewn perygl o greu system dair haen?
"Mewn system o'r faith, mae'r bobl sy'n methu cofrestru gyda deintydd y GIG, ond sydd hefyd yn methu fforddio talu am driniaeth breifat, yn cael eu gadael heb fynediad at driniaeth o gwbl, a gallant ond droi at wasanaethau deintyddol brys.
"Mae'r argyfwng costau byw yn debygol o waethygu'r broblem hon, ac arwain at fwy o anghydraddoldebau o ran sut mae pobl yn cael mynediad at ofal deintyddol."
Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio a yw'r lefelau cyllid presennol yn ddigonol i ymdrin â'r ôl-groniad, ac i ystyried creu un rhestr aros ganolog ledled Cymru, gyda byrddau iechyd i weithredu eu rhestrau aros canolog dros dro eu hunain erbyn diwedd 2023.
Cyllid ychwanegol
Fis diwethaf fe ddywedodd un deintydd amlwg bod deintyddiaeth drwy'r GIG yng Nghymru "ar y dibyn", a "ddim yn gweithio fel mae pethau yn sefyll".
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw wedi addo £2m o gyllid ychwanegol fydd yn sicrhau 112,000 o apwyntiadau "ychwanegol".
Ond beirniadu cyhoeddiad y llywodraeth mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA), gan gyhuddo'r llywodraeth o "daflu llwch i'r llygaid", "gwneud datganiadau camarweiniol" a bod yn "amharod i fuddsoddi a dod â'r nifer sy'n gadael y gweithlu gwladol i stop".
Mae Llywodraeth Cymru yn gwadu hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd29 Awst 2021