Oedi yng Nghaerdydd ar ôl i drên daro gwifrau
- Cyhoeddwyd
Bu trafferthion i deithwyr trên yng Nghaerdydd ddydd Gwener ar ôl i drên daro gwifrau oedd wedi cael eu difrodi.
Mae heddlu a pheirianwyr yn ymchwilio i'r difrod a ddigwyddodd ger gorsaf Llandaf.
Dywed Trafnidiaeth Cymru bod gwaith wedi cael ei wneud i drwsio'r gwifrau ond bod disgwyl i'r oedi barhau gydol ddydd Gwener.
Cafodd trenau rhwng Caerdydd a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful eu dargyfeirio, a 30 gwasanaeth eu canslo.
Doedd dim gwasanaethau yn galw yn Llandaf, Cathays nac yn y gorsafoedd rhwng Radur a Coryton.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymddiheuro am yr oedi ac yn awgrymu bod teithwyr yn edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.