Ynys Twsgr: Hanes 'ynys llongddrylliad' mewn arddangosfa
- Cyhoeddwyd
Mae'n cael ei adnabod fel ynys llongddrylliad - Ynys Twsgr oddi ar arfordir de Cymru.
Mae arddangosfa gelf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn edrych ar Ynys Twsgr, a rhannau twyllodrus eraill o arfordir de a gorllewin Cymru.
Mae lluniau'r arddangosfa yn canolbwyntio ar yr ynys garegog ger Aberogwr sydd wedi cipio dwsinau o fywydau dros y canrifoedd.
Ond mae hefyd yn rhoi sylw i longddrylliadau yng Nghefn Sidan ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin a thraeth Trwyn yr As, Bro Morgannwg.
'Cyfoeth o straeon'
Dyma waith y ffotograffydd a'r arlunydd, Peter Britton. Mae'n dweud ei fod wedi'i gyfareddu gan Ynys Twsgr.
"Dechreuodd y prosiect yn wreiddiol fel gwaith ymchwil ar Ynys Twsgr," meddai.
"Mae'n llawn llongddrylliadau a doeddwn i erioed wedi bod yno o'r blaen.
"Roeddwn i eisiau ymchwilio i'r safle o safbwynt y rheiny oedd wedi colli eu bywydau ar y môr," meddai.
"Ar ôl bod yno dwi'n sylweddoli fod yna gyfoeth o straeon ar draws arfordir De a Gorllewin Cymru.
"Felly, mae'r prosiect yn cynnwys rheiny ac yn cwmpasu 12 lleoliad gwahanol o longddrylliadau."
Mae cofnodion yn dangos sut y mae Ynys Twsgr wedi bod yn beryglus i longau ers canrifoedd.
Fis Ionawr 1883, cafodd llongddrylliad SS James Grey ei ddarganfod. Boddodd y criw o 25 ar ôl taro'r graig.
Yn Hydref 1886, fe adawodd y llong Malleny Gaerdydd am Rio de Janeiro gyda glo. Fe darodd Twsgr ac roedd y criw o 20 ar goll.
Ar 29 Mawrth 1882 tarodd pacedlong Ffrengig Liban y garreg. Llwyddwyd i achub wyth o'r criw bryd hynny ond collodd tri eu bywydau.
Mae modd gweld llongddrylliad Liban ar yr Ynys.
Y llongddrylliad arall sydd yn y golwg yw Steepholm a aeth i drafferthion mewn tywydd garw ar 2 Hydref 1968. Fe wnaeth y criw o saith oroesi.
"Mae'r llongddrylliadau wedi dod yn rhan o'r garreg," meddai Mr Britton.
"Maen nhw wedi ymgorffori mewn i'r tirlun. Tra bo'r prosiect yma'n ymwneud â'r tirlun, mae hefyd yn ymwneud â phobl.
"Chi ddim yn gallu gweld y bobl yn y lluniau ond mae'r cof ohonyn nhw'n parhau ac mae'r gwaith yn goffadwriaeth i'r bobl sydd wedi colli eu bywydau ar y môr."
Ychwanegodd: "Mae Ynys Twsgr yn fan twyllodrus a'r ffaith bo' gweddillion esgyrnog yno, mae'n lle hynod ac mi allwch chi deimlo pa mor iasoer ac erchyll ydy pan chi'n sefyll ar y garreg."
Mae'r arddangosfa Llongau Rhithiol a'r Llanw i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Mae hefyd yn canolbwyntio ar longddrylliadau yng Nghefn Sidan yn Sir Gaerfyrddin a chwedl Gwŷr y Bwelli Bach.
Credir bod rhai pentrefwyr cyfagos yn cael eu hadnabod fel llongddryllwyr a bydden mynd allan mewn amodau stormus i oleuo bannau a choelcerthi ar fynydd Pen-bre er mwyn twyllo capten y llongau i gredu fod yr ardal yn ddiogel.
"Yn ôl y chwedl leol," meddai Peter, "yn ystod y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif roedd 'na grŵp o bobl o'r enw Gwŷr Y Bwelli Bach.
"Fe fydden nhw'n cynnau tannau yn ystod amodau stormus a denu cychod i'r lan.
"A phan fyddai'r llongau'n dryllio ar y creigiau ac yn glanio ar dywod enfawr Cefn Sidan, byddai dynion yn plymio'r cychod a dwyn cargo.
"Bydden nhw'n cymryd unrhyw beth y gallen nhw ei gael.
"Yn 1833 mi wnaeth llong The Brothers of Liverpool, oedd yn hwylio o Frasil i Lerpwl, daro'r creigiau, ac mae sôn iddyn nhw golli 4,000 o groen byfflo a bwndeli o gotwm."
Ychwanegodd fod gan "Gefn Sidan hanes diddorol iawn a llawer o longddrylliadau".
Un o'r llongddrylliadau mwyaf perthnasol yw y La Jeune Emma a ddrylliwyd yn 1828.
Roedd hi'n teithio o India'r Gorllewin i Ffrainc.
Aeth oddi ar ei chwrs yn sgil tywydd gwael, sefyllfa arweiniodd at longddrylliad.
Boddodd 13 o'r 19 o bobl oedd ar ei bwrdd gan gynnwys nith 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte.
Ei henw oedd Adeline Coquelin ac mae hi wedi ei chladdu yn eglwys St llltyd ym Mhen-bre.
Mae'r arddangosfa hefyd yn canolbwyntio ar waith pwysig yr RNLI a phwysigrwydd y goleudai ar hyn ein harfordir.
Mae Peter yn canolbwyntio ar oleudy Whitford ar Benrhyn Gŵyr.
"Mi wnaeth lleoliad Cwm Ivy, sy'n gartref i oleudy Whitford, hoelio fy sylw.
"Nid yn unig oherwydd hyfrydwch strwythurol ond hefyd gan fy mod i'n teimlo y byddai wedi chwarae rhan bwysig yn sefyll fel goleufa o ddiogelwch."
Ar gyfer y prosiect celf mi wnaeth Peter ddefnyddio dwr y môr o bob safle er mwyn datblygu'r lluniau.
Yn ôl Peter mae ei waith yn goffa o ba mor frawychus yw ein moroedd a "pha mor fregus ydan ni o fewn ein tirlun dyfrllyd."