'Dymuno gwellhad llawn a buan' i ddau gefnogwr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Hofrennydd yn cyrraedd Stadiwm Essity nos Sadwrn wedi ymladd yn ystod gêm rhwng Y Fflint a Chaernarfon

Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi dymuno "gwellhad llawn a buan" i ddau o'u cefnogwyr a gafodd eu hanafu yn dilyn anhrefn ymhlith y dorf yn eu gêm Uwchgynghrair Cymru oddi cartref yn erbyn Y Fflint nos Sadwrn.

Fe gafodd un o'r unigolion anaf difrifol, yn ôl datganiad Heddlu'r Gogledd nos Sadwrn.

Bu'n rhaid dod â'r gêm yn Stadiwm Essity i stop wedi llai na 20 munud o chwarae gyda'r tîm cartref ddwy gôl i ddim ar y blaen - gêm allweddol i ddau dîm sy'n brwydro i aros ym mhrif adran pêl-droed Cymru.

Mae CPD Y Fflint wedi dweud eu bod "yn condemnio'n llwyr ymddygiad gwarthus gan leiafrif o unigolion".

Mewn datganiad yn hwyr nos Sadwrn, dywedodd CPD Caernarfon: "Hoffwn ni ddiolch i'r parafeddygon, gweithwyr Ambiwlans San Ioan a ffisiotherapyddion y ddau glwb a ruthrodd i roi cymorth i ddau o'n cefnogwyr oedd wedi cael anaf yng ngêm heno yn Y Fflint.

"Mae ein meddyliau ar hyn o bryd gyda'r ddau gefnogwr ac rydym yn dymuno gwellhad llawn a buan iddyn nhw."

'Diwrnod trist i bêl-droed Cymru'

Roedd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C, ac fe dywedodd cadeirydd CPD Y Fflint, Darryl Williams ar raglen Sgorio eu bod wedi galw'r heddlu a bod y golygfeydd, yn dilyn "trais a ddaeth o nunlle".

Dywedodd un o gyflwynwyr y rhaglen, Sioned Dafydd ar Twitter ei bod "ddim eisiau gwneud sylw ar y golygfeydd ofnadwy a welson ni yng ngêm Y Fflint a Chaernarfon ddoe".

Ond fe roedd eisiau datgan "pa mor ddiolchgar ydw i am gydweithwyr arbennig a wnaeth yn siŵr bod ni oll yn saff ac yn iawn mewn sefyllfa oedd yn frawychus i bawb yn y stadiwm".

Ychwanegodd: "Diwrnod trist i bêl-droed Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd ambiwlans brys ei anfon i'r stadiwm, ynghyd â hofrennydd a dau gerbyd ymateb cyflym

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r stadiwm am 17:40, gan anfon dau gerbyd ymateb cyflym ac ambiwlans argyfwng.

Ychwanegodd: "Cafodd un claf ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Aintree am driniaeth bellach."

Dywed Cynghrair JD bod y gêm wedi ei hatal yn y 16eg munud ac fe adawodd y chwaraewyr y cae "yn dilyn sgyrsiau gyda rhanddeiliaid a chyngor gan yr heddlu".

Bydd yna fwy o fanylion maes o law ynghylch penderfyniad o ran dyddiad newydd posib ar gyfer y gêm.

Roedd swyddogion Heddlu'r Gogledd a Heddlu Trafnidiaeth Cymru ar ddyletswydd yng ngorsaf reilffordd Y Fflint i "atal anhrefn pellach" wedi'r gêm.

Fe gyhoeddodd yr heddlu orchymyn 24 awr i wasgaru pobl yn Y Fflint sydd mewn grym tan 18:30 nos Sul.

Mae'n rhoi'r hawl i swyddogion atal grwpiau rhag ymgynnull neu i ddychwelyd, ac i arestio unrhyw un nad sy'n cydymffurfio.

Mae'r llu hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn dyst i'r ymladd yn y stadiwm.

Pynciau cysylltiedig