Gwrthod arian parod yn 'annheg' i bobl ag anableddau dysgu
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau sy'n gwrthod arian parod yn "gwahaniaethu" yn erbyn pobl ag anableddau dysgu, medd rhai teuluoedd.
Roedd Siôn o Amlwch yn "dorcalonnus" ar ôl methu â phrynu pryd o fwyd i'w fam gan nad oedd ganddo gerdyn, ac roedd y busnes yn gwrthod arian parod.
"'Di o ddim yn deg... mae Siôn rŵan yn limited i lle mae'n mynd i wario'i bres," medd ei fam.
Mae nifer o bobl ag anableddau dysgu yn dibynnu ar arian parod gan nad oes ganddynt fynediad at gerdyn banc, neu mae rhywun arall yn rheoli eu harian.
Yn ôl Mencap Cymru, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers i nifer o fusnesau gefnu ar arian parod yn ystod y pandemig.
Mae dros 1,200 o bobl wedi llofnodi deiseb yr elusen yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddiogelu'r opsiwn i dalu ag arian parod.
Dywedodd y llywodraeth fod arian parod yn dal i fod yn bwysig i fusnesau, a'u bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod y cyfle i dalu ag arian parod yn parhau.
'Mae cardiau'n galed i Siôn ddallt'
Mae Janet Jones yn rheoli arian ei mab Siôn, 37.
Gydag arian parod "mae Siôn yn gwybod faint o bres sydd ganddo am y diwrnod, neu'r wythnos - i fynd i dorri ei wallt, neu brynu diod neu frechdan yn y siop," meddai.
"Ond mae cardiau'n galed i Siôn ddallt... efo cerdyn, dwyt ti ddim yn gwybod be' ti'n gwario. Ti'n tapio a dyna fo."
Pan aeth Siôn a'i fam i Gaerdydd ym mis Mawrth, roedd Siôn yn awyddus i dalu am bryd o fwyd i'w fam.
Ond ar ôl cyrraedd y bwyty fe welon nhw nad oedd y busnes yn derbyn arian parod.
"'Nes i dalu," medd Janet Jones o Amlwch, "ac wedyn o'dd Siôn yn teimlo'n wael, achos o'dd o eisiau talu am fy mwyd i am change."
Fe ddywedodd Ms Jones ei bod hi'n deall pam y gallai dulliau talu electronig fod yn fuddiol i fusnesau.
"Ond dydi o ddim yn deg - mae'n gwahaniaethu yn erbyn pobl."
'Lot mwy o siopau cashless'
Fe ddywedodd mam arall bod ei mab eisoes yn osgoi siopau sy'n gwrthod arian parod.
"Mae 'na lot mwy o siopau mawr yn 'neud y cashless 'ma. Mae o'n ypsetio ni," meddai Janet Jones o Langefni.
Mae ei mab Nathan, 27, yn byw mewn tŷ â chymorth ac yn defnyddio arian parod er mwyn talu am nwyddau bob dydd.
"Mae'r busnesau jyst 'di penderfynu - cerdyn.
"[Hoffwn i] iddyn nhw ofyn i bobl fel Nathan, 'be' 'da chi isio 'neud?' Dim jyst 'neud o a phenderfynu dyna'r peth gorau.
"Tydi o'm yn siwtio pawb, a definitely ddim yn siwtio rhywun fath â Nathan, 'na phobl 'run fath â Nathan."
Yn ôl gweithiwr achos Mencap ar Ynys Môn, mae'r sefyllfa'n bygwth hyder pobl sy'n agored i niwed.
"Maen nhw just yn gorfod mynd adre'," medd Kate Young.
"Weithiau mae'n really anodd i bobl sydd efo anabledd dysgu neu awtistiaeth i fynd allan, mynd i gaffi.
"Dydyn nhw ddim eisiau rhywun yn dweud 'na' - mae hynny'n embarrassing falle, ac maen nhw'n teimlo fel second-class citizens weithiau."
Ychwanegodd cyfarwyddwr Mencap Cymru bod yna ddiffyg dealltwriaeth ymysg busnesau am bwysigrwydd arian parod i bobl sy'n agored i niwed.
"'Dw i'n credu eu bod nhw'n meddwl fod gan bawb gerdyn debyd neu gerdyn credyd, ac felly mae'n hawdd iddyn nhw dalu," medd Wayne Crocker.
"Yn amlwg yn ystod Covid doedd nifer o fusnesau ddim yn caniatáu arian parod... ond mae'r arfer hynny wedi parhau, ac o ganlyniad mae llawer o bobl yn cael eu gadael ar ôl.
"Rydyn ni'n credu bod yna wahaniaethu ac anghyfiawnder yn digwydd, ac felly ry'n ni am i Lywodraeth Cymru ystyried beth allen nhw ei wneud i annog busnesau i dderbyn arian parod yn ogystal â chardiau banc."
'Talu ag arian parod yn parhau'
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn canolbwyntio ar gynhwysiant digidol a'u bod yn gweithio'n galed i sicrhau fod y gallu i dalu ag arian parod yn parhau.
"Tra'n bod ni'n cydnabod cynnydd yn nefnydd dulliau talu digidol, mae'n bwysig cofio bod mynediad at arian parod yn parhau'n hanfodol i nifer o unigolion a busnesau. Rydyn ni'n gweithio gyda LINK i sicrhau fod pobl yn dal i gael mynediad at arian parod.
"Rydyn ni wedi gofyn i fanciau masnachol gynnal eu presenoldeb mewn cymunedau lleol.
"Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am reoleiddio banciau, ac mae ganddi'r pŵer i sicrhau fod y gwasanaethau allweddol hyn ar gael i bobl a busnesau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019