David Brooks: Croesawu 'un o chwaraewyr gorau Cymru' yn ôl

  • Cyhoeddwyd
David Brooks yn chwarae yn erbyn Man UnitedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Brooks am bron i awr yn erbyn Man United ar 20 Mai, cyn i'r Cymro Kieffer Moore gymryd ei le

Mae'r rheolwr Robert Page yn dweud y bydd Cymru yn croesawu un o'u "chwaraewyr gorau" yn ôl pan fydd David Brooks yn dychwelyd fis nesaf.

Bydd Brooks yn cael ei gynnwys pan fydd Page yn enwi ei garfan ddydd Mawrth ar gyfer gemau rhagbrofol Euro 2024 yn erbyn Armenia a Thwrci.

Mae'r chwaraewr canol cae, 25, wedi dychwelyd i chwarae dros Bournemouth yn ddiweddar ar ôl cael diagnosis o Hodgkin Lymphoma ym mis Hydref 2021.

Chwaraeodd Brooks yn erbyn Manchester United ddydd Sadwrn diwethaf, ei ddechreuad cyntaf i'w glwb ers mis Medi 2021 a'i gyntaf yn y Premier League ers 598 diwrnod.

Cyhoeddodd cyn chwaraewr Sheffield United ei fod yn rhydd o ganser ym mis Mai 2022.

Treuliodd Brooks amser gyda charfan Cymru pan oedden nhw gyda'i gilydd ar gyfer gemau rhagbrofol Ewrop yn erbyn Croatia a Latfia ym mis Mawrth, er na chafodd ei ystyried ar gyfer ei ddewis.

"Es i ychydig yn gyffrous ym mis Mawrth," meddai Page.

"Nes i geisio ei gael yn rhan o'r camp bryd hynny oherwydd chi am gael eich chwaraewyr gorau o'ch cwmpas. Mae'n bendant yn perthyn i'r categori hwnnw."

Tra bydd Brooks yn rhan o garfan Cymru ar gyfer gemau gartref yn erbyn Armenia nos Wener, 16 Mehefin ac oddi cartref yn Nhwrci dridiau'n ddiweddarach, nid yw'n glir a fydd Neco Williams yn cymryd rhan.

Mae amddiffynnwr Nottingham Forest wedi bod allan ers mis Ebrill gyda gên wedi torri.

"Rwy'n credu bod sgyrsiau i'w cael gyda'n hunain a'r clwb, y ddau dîm meddygol," meddai Page.