Urdd: 9,000 wedi manteisio ar gynllun tocynnau am ddim
- Cyhoeddwyd
Mae 9,000 o bobl wedi manteisio ar gynllun tocynnau am ddim yr Urdd ar gyfer teuluoedd incwm isel er mwyn cael mynediad i faes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Wrth adlewyrchu ar wythnos sy'n cael ei chyfri'n arbennig o lwyddiannus, dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Yr Urdd bod "pobl ifanc, plant a rhieni a theuluoedd yn gyffredinol wedi cael profiadau unigryw o gael blasu celfyddydau Cymru ar eu gorau yma, diolch i'r grant yma gan Lywodraeth Cymru".
Wrth gydnabod mai'r cystadlu sy'n denu'r sylw mawr yn ystod wythnos yr Eisteddfod ychwanegodd Siân Lewis: "Na'th rhywun ddweud ar ddechrau'r wythnos mai nid Llanymddyfri ond Llanymlyfli yw'r Steddfod.
"A dwi'n ddiolchgar iawn i bobl Sir Gâr a hefyd i'r gwirfoddolwyr.
"Ond hefyd, dydyn ni ddim yn diolch digon i athrawon Cymru. Mae nhw yma gydol wythnos tu allan i'w swyddi arferol nhw. Felly diolch mawr iawn i athrawon Cymru."
Yn y cyfamser mae'r golygon yn troi tuag at Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
'Pwysig gwrando ar bobl ifanc'
Wrth siarad ar Dros Frecwast, ddydd Sadwrn, dywedodd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, Bedwyr Fychan, fod Eisteddfod eleni wedi bod yn "un arbennig".
"Mae'r lleoliad yn odidog, a 'da ni wedi cael wythnos wrth ein bodd yma... yn dysgu o'r hyn sy'n digwydd ar y maes wrth i ni droi'n golygon at flwyddyn nesa'."
Wrth ymateb i gwestiwn yn gofyn beth oedden nhw wedi ei ddysgu yn benodol, dywedodd Mr Fychan: "'Da ni wedi bod yn siarad efo pobl, crwydro ac yn gweld yr hyn sy'n digwydd - y pethau newydd arloesol sydd wedi bod yn digwydd - fyddwn ni'n mynd ati rwan i weld sut allwn ni roi stamp Maldwyn ar 'Steddfod flwyddyn nesa'."
Yn dilyn pryderon rhai am y prif seremonïau gwahanol eleni, dywedodd: "Byddwn ni fel pwyllgor gwaith yn ei drafod rwan, ac yn gweld beth fyddwn ni wedi dysgu o'r maes, does dim trafodaeth wedi bod eto - fydd hynny i ddod.
'Safle Meifod yn braf'
"O ran y chwe awen a chwedl Taliesin a Gwion Bach, mae gennym ni ym Maldwyn berchnogaeth dros y chwedl honno wrth gwrs, mae hi wedi'i lleoli yn ein hardal ni... beth sy'n bwysig cofio ydi mai mudiad ieuenctid ydy o.
"Mi allwn ni fel pwyllgor gwaith a chriw fod yn ystyried y peth, ond mae'n hollbwysig ein bod ni'n gwrando ar beth mae'n hieuenctid ni isio."
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gaeau fferm Mathrafal, Meifod sef safle yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 a 2015.
Wrth gael ei holi a oedd hi'n deg bod yr Eisteddfod yn mynd i'r fan honno yn hytrach na lleoliad arall yn y sir dywedodd Mr Fychan: "Mae cael safle addas ar gyfer Eisteddfod yn anoddach na fyddai rhywun yn ei ddisgwyl, mae angen digon o le, digon o le sych, digon o le gwastad, angen ystyried traffig a phopeth felly, a 'da ni'n gwybod fod safle Meifod yn un sy'n gweithio - mae'n safle braf."
Nos Sadwrn cyhoeddwyd mai Branwen Medi Jones o Ysgol Brynhyfryd, Rhanbarth Dinbych, sy'n derbyn Ysgoloriaeth yr Eisteddfod eleni - ysgoloriaeth sy'n cael ei rhoi i'r cystadleuwyr mwyaf addawol yn yr oedran blwyddyn 10 a dan 19 oed.
Cystadlodd Branwen yng nghystadleuaeth yr unawd cerdd dant, deuawd cerdd dant, perfformiad theatrig o gân o sioe gerdd, yn ogystal ag ensemble lleisiol a chôr aelwydydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2023