Lluniau gorau'r wythnos o'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Wedi dechrau wythnos eithaf glawog, fe ddaeth yr haul - a gyda hynny bu nifer fawr yn mwynhau'r gigs ar Lwyfan y Maes yn ystod y dydd a gyda'r nosau. Ac oedd, roedd teilyngdod yn yr holl seremonïau hefyd.
Dyma gasgliad o luniau Cymru Fyw sydd wedi ymddangos yn ein horielau yn ystod yr wythnos i roi cip ar stori'r ŵyl ym Moduan.

Gwen a Margaret o gangen Merched y Wawr Chwilog yn brysur yn gwneud paneidiau ar stondin y mudiad ddydd Sadwrn agoriadol yr Eisteddfod.

Nerys, Branwen, Twm a Ceri oedd yn croesawu eisteddfodwyr i stondin Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Perfformiad Y Curiad: Ddoe, Heddiw, Fory yn y Pafiliwn Mawr

Bwncath, ar ôl perfformio o flaen 11,000 o bobl ar Lwyfan y Maes nos Sul - y dorf fwyaf erioed ar faes yr Eisteddfod

Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn urddo aelodau newydd i Orsedd y Beirdd fore Llun

Anni Llŷn, Cyflwynydd y corn hirlas cyn Seremoni'r Coroni

Roedd yna ddrygioni ar y maes ddydd Mawrth... diolch i Kiri Pritchard-McLean a Maggi Noggi

Roedd Tomos, Moi a Iago o Ddyffryn Conwy wedi casglu dros fil o bethau am ddim ar y Maes yn ôl pob sôn!

Aeth ambell i Eisteddfodwr ar fordaith o Bwllheli i'r Barri heddiw gyda chriw Kitch n Sync fel rhan o arlwy'r Theatr Stryd a Dawns

Mwynhau ar y Maes ddyd Mercher - Howard Potter, o Ddinas Powys, sy'n aelod o Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Mwynhau'r Lle Celf mewn steil

Noa yn mwynhau ei hun

Gillian, Gwen a Deborah o gôr Lleisiau Mignedd wedi paratoi am ddywydd poeth dydd Iau.

Gwneud y mwya' o'r tywydd braf ar ddydd Iau yr Eisteddfod

Aelodau o Gymuned Dawnsfa Cymru yn perfformio dydd Gwener

Mae Tri Penyberth wedi bod yn amlwg drwy'r wythnos ym Moduan - o waith celf i ddarlithoedd i ysbrydoliaeth i brotestio // The Penyberth Three, were referenced during the week within performances, lectures and protests

Alan Llwyd yn cipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd brynhawn Gwener
Alan Llwyd yn cipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd brynhawn Gwener // Alan Llwyd, winner of this year's Eisteddfod Chair, one of the week's most prestigious awards

Gyda'r Pafiliwn Mawr yn wag fore Sadwrn olaf yr Eisteddfod, cafodd Tomos Boyles gyfle i arfer gyda'r piano cyn cystadlu am y Rhuban Glas offerynnol // A change to rehearse before competing begins on Saturday morning

Gwell lwc flwyddyn nesaf Tudur...

