Eisteddfod: Bryn Fôn ar lwyfan Maes B gyda Bwncath
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Bryn Fôn ymddangosiad arbennig ar lwyfan Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol, wrth gloi perfformiadau'r wythnos gyda Bwncath.
Fe wnaeth y canwr adnabyddus ymuno â'r band i berfformio Coedwig ar Dân a Strydoedd Aberstalwm, o flaen torf o filoedd ym Moduan.
Dyma oedd ei ymddangosiad cyntaf ar lwyfan ers iddo gyhoeddi y byddai Bryn Fôn a'r Band yn rhoi'r gorau i berfformio, yn sgil salwch eu drymiwr Graham 'La' Land.
"'Swn i'n licio diolch i Bwncath am y cyfle i gael bod yma heno," meddai o'r llwyfan yn oriau mân bore Sul.
"Fel 'da chi'n gwybod 'da ni wedi gorfod rhoi'r gorau iddi oherwydd amgylchiadau trist iawn ein drymiwr hoff.
"Ond mae cael y cyfle yma wedi codi calon dyn - diolch i'r hogia'."
Roedd y perfformiad hefyd yn nodi diwedd bywiog i'r wythnos i Bwncath, a ddenodd 11,000 o bobl i Lwyfan y Maes nos Sul hefyd gyda'u gwesteion arbennig, Eden.
Bwncath o bosib yw'r band Cymraeg mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd, ac roedd pob tocyn i Maes B nos Sadwrn wedi'i werthu.
Yn cloi Llwyfan y Maes nos Sadwrn oedd Candelas, ond dywedodd eu prif leisydd Osian Huw Williams o'r llwyfan mai Bryn Fôn a'r Band oedd i fod i chwarae bryd hynny yn wreiddiol.
Fe roddodd deyrnged i'r band a Graham Land, cyn i Candelas chwarae fersiwn o Brengain gan Sobin a'r Smaeliaid.
'Fyddwn ni ddim yn perfformio eto'
Wrth siarad ym mis Mehefin dywedodd Bryn Fôn fod ei fand wedi canslo pob un o'u perfformiadau o fis Gorffennaf ymlaen.
Gan nodi ar y dudalen codi arian fod y drymiwr Graham Land yn wynebu "cyfnod hir o ffisiotherapi" cyn iddo allu drymio eto, ychwanegodd Bryn Fôn fod y band wedi penderfynu yn erbyn "trio na rhygnu ymlaen hebddo".
"Felly fyddwn ni ddim fel Bryn Fôn a'r Band yn perfformio eto beryg," meddai.
Yn ogystal â bod yn brif leisydd Bryn Fôn a'r Band, mae Bryn Fôn hefyd yn perfformio gigs Bryn Bach, sef setiau acwstig gyda Rhys Parry a John Williams.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023