Rosie Hughes: Y swyddog carchar sy'n seren ar y Cae Ras
- Cyhoeddwyd
Rosie Hughes yw un o ymosodwyr mwyaf llwyddiannus tîm pêl-droed Merched Wrecsam.
Aeth o chwarae am ddim i arwyddo cytundeb lled-broffesiynol gyda'r clwb, a rhwydo 97 gôl yn ystod ei 41 gêm i'r tîm.
Yn ddiweddar mae hi wedi chwarae o flaen torfeydd o filoedd ar y Cae Ras, a chyfarfod y sêr Hollywood sy'n berchen y clwb.
Ond i Hughes, 27, mae 'na ochr wahanol iawn i'w bywyd hefyd - gan ei bod yn gweithio fel swyddog yng Ngharchar y Berwyn yn y ddinas.
Mae'r ddwy swydd yn cyfuno llawer o sgiliau, meddai, ond dim ond yn ddiweddar mae carcharorion wedi dod i wybod am ei bywyd y tu allan i'r gweithle.
"Ddim fy mod i erioed yn swil am chwarae i Wrecsam, ond mi o'n i yn ei gadw i mewn," meddai.
"Ond roedd yna gyfweliad ges i pan oeddwn i ar y Cae Ras gyda Ryan Reynolds aeth ar Football Focus ar y teledu.
"Dechreuodd y peth gael ei drafod, ac unwaith mae rhywbeth yn cael ei drafod yn y carchar mae'n gyffrous, mae'n rhywbeth newydd i siarad am.
"O'dd carcharorion yn dod i fyny ata i a gofyn 'Wyt ti'n chwarae i Wrecsam?' a doeddwn i'n methu ei guddio yn y diwedd."
Roedd tîm y merched yn rhan o'r fargen pan brynodd y sêr Hollywood, Reynolds a Rob McElhenney y clwb yn 2021.
Ac mae'r merched wedi profi llwyddiant ers hynny hefyd, gan ennill eu lle yn haen uchaf pêl-droed Cymru a symud i fodel lled-broffesiynol.
Cafodd Hughes gyfarfod Reynolds am y tro cyntaf ar ôl i'r tîm ennill cynghrair Adran Gogledd ym mis Mawrth.
"Roeddwn i'n teimlo fel seren," dywedodd.
"Oherwydd o'n i newydd sgorio'r gôl dyngedfennol ar faes y Cae Ras o flaen bron 10,000 o bobl, felly pan wnaeth o [Reynolds] fy nghyflwyno i'w wraig a'i blant roedden i'n teimlo fel mai fi oedd y seren!"
Yn ôl ar safle'r carchar, mae Hughes yn manteisio ar gyfleusterau'r safle mawr er mwyn ymarfer yn ystod ei hamser cinio.
Mae wedi bod yn gweithio yno ers chwe blynedd ac mae'n dweud bod tipyn o sgiliau sy'n berthnasol i'w ddwy swydd.
"Mae'n bendant angen rhywfaint o wydnwch, sgiliau cyfathrebu da, bod yn wrandäwr gwych a thipyn o ddeallusrwydd emosiynol i wneud y swydd," dywedodd.
"Mae cyfathrebu a gweithio fel rhan o dîm yn hollbwysig ar gyfer pêl-droed a bod yn swyddog carchar.
"Mae angen hyder yn y swydd yma... mae'r un peth gyda phêl-droed, mae'n rhaid i chi fod yn hyderus ar y bêl.
"Dwi'n dda ar sgorio goliau a rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd oherwydd dwi'n hyderus wrth wneud hynny."
Cyn i'r clwb ddechrau cynnig cytundebau lled-broffesiynol yn yr haf, dywedodd Hughes ei bod wedi ystyried cynigion i chwarae i glybiau eraill.
Ond fe wnaeth sgwrs gyda therapydd y clwb ei helpu i wneud penderfyniad.
Dywedodd: "Roedd rhywbeth oedd yn fy nghadw i yn Wrecsam, dwi ddim yn siŵr falle ei fod oherwydd o'dd fy nhad yn eu cefnogi.
"Dwi mor falch a hapus wnes i aros hefo Wrecsam er nad oeddwn i'n cael fy nhalu... dyna oedd y penderfyniad cywir."
Lleihau oriau gwaith
Bellach ar gytundeb lled-broffesiynol ac yn cael ei thalu, mae Hughes yn gobeithio y bydd ganddi fwy o amser i ganolbwyntio ar ei phêl-droed.
"Tymor diwethaf mi oedd o ychydig yn anodd," meddai.
"Roedd hi'n anodd cael amser i ffwrdd ar gyfer pob gêm felly roedd cwpl [o gemau] 'nes i eu colli yn ystod y tymor."
"Dwi wedi gofyn i leihau fy oriau fel swyddog carchar - mae'r Gwasanaeth Carchardai yn gallu bod yn dda fel yna.
"Felly dwi wedi gofyn i wneud hynny a gobeithio rhywbryd yn y dyfodol alla' i ganolbwyntio mwy ar fy mhêl-droed, dyna fyswn i'n caru ei wneud."
Mae Wrecsam wedi cael dechrau da yn yr Adran Premier y tymor hwn, gan eistedd ar frig y gynghrair wedi tair gêm.
Mae Hughes wedi sgorio saith gôl hyd yma, gan gynnwys pob un o goliau Wrecsam yn eu buddugoliaeth o 5-1 yn erbyn Y Barri.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2023