Aberth merched Cymru i gyrraedd Cwpan Pêl-rwyd y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch tîm pêl-rwyd Cymru yng Nghwpan y Byd yn dechrau nos Wener, ac mae'r capten wedi bod yn sôn am yr ymdrechion mae'r chwaraewyr rhannol broffesiynol yn gorfod eu gwneud er mwyn cystadlu mewn pencampwriaeth o'r fath.
Mae'r gystadleuaeth yn digwydd yn Ne Affrica, gyda'r Cymry yn wynebu gêm agoriadol yn erbyn y tîm cartref am 17:00 nos Wener.
Ar hyn o bryd mae aelodau'r garfan yn rhannu eu hamser rhwng chwarae, hyfforddi a gweithio mewn swyddi eraill o ddydd i ddydd.
Yn achos y capten, Nia Jones, roedd cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi yn y cyfnod yn arwain at y bencampwriaeth yn golygu dibynnu ar haelioni ffrindiau.
"Ar hyn o bryd dwi'n actually cysgu ar soffa ffrindiau fi, achos nes i chwarae yn Leeds tymor yma.
"Mae dal gen i fflat i fyny yn Leeds, o'n i just eisiau bod lawr yng Nghaerdydd i fod ym mhob sesiwn ymarfer - 5, 6 diwrnod yr wythnos - ac i wneud hynny o'dd rhaid i fi adael popeth a symud i lawr a dibynnu ar ffrindiau a chyd-chwaraewyr.
"Dyna'r ysbryd sydd ganddon ni yn y tîm a mae pawb yn gwneud dewisiadau a sacrifices eu hunain."
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Mae aelodau'r garfan yn derbyn rhywfaint o arian tra'n chwarae dros eu clybiau, ond mae'n golygu penderfyniadau anodd i gadw'r cydbwysedd rhwng pêl-rwyd a bywyd teuluol a'r gwaith
"Dyma'r stad mae'r gamp ynddi yn y wlad yma," meddai Nia, "di'o ddim yn broffesiynol - dwi'n gobeithio gall e fod.
"Pan dwi'n gwylio sut mae pêl-rwyd yn cael ei gefnogi a'i chwarae yn Awstralia a Seland Newydd, mae ganddon ni obaith.
"Ond wrth gwrs mae'n really anodd pan da chi'n gorfod gweithio jobs eraill trwy gydol y diwrnod - ar ôl gweithio 9-5 mae'n rhaid i chi fod ar eich gorau o ran egni, ac ysbryd a chanolbwyntio o 8-10.
"Ac mae gan bobl teuluoedd a demands eraill hefyd felly, wrth gwrs, mae'n really anodd ond yn y diwedd dyma be sy'n neud e werth e."
Mae Nia wedi cynrychioli Cymru ar y cae pêl-droed hefyd, ac mae'n gwneud gwaith sylwebu i BBC Cymru ar gemau pêl-droed yn rheolaidd.
Mae'n gweld llwyddiant diweddar y gamp honno i fenywod yn arwydd o'r hyn all ddigwydd gyda phêl-rwyd hefyd.
"Mae'n really cool actually, a mae Cwpan y Byd Pêl-droed ar yr union un amser â'r un pêl-rwyd a mae'r ffordd dwi wedi gweld cymaint o hysbysebion ar y teledu, a sut mae pob gwlad yn hysbysebu chwaraewyr a thimau nhw... mae'n wych."
Ond gwahaniaeth amlwg rhwng y ddwy, meddai, yw mai camp i fenywod yn unig yw pêl-rwyd, ac felly does dim modd cael cefnogaeth timau dynion, na manteisio ar brofiad camp sydd wedi bod yn broffesiynol ers blynyddoedd - fel sy'n digwydd gyda phêl-droed.
"Mae na pros and cons i hynny," yn ôl Nia.
"Mae'n gret bod just menywod ar hyn o bryd yn chwarae pêl-rwyd, a da ni'n gallu ownio hynny, a mae pawb yn gallu relatio i'r gamp ar ôl bod yn ei chwarae yn yr ysgol, so mae'n rhoi real gobaith i fi am ddyfodol pêl-rwyd."
Mwy o sylw nag erioed
Fe fydd na fwy o sylw i Gwpan Pêl-rwyd y Byd ar y teledu eleni, gyda gemau'n cael eu dangos gan y BBC a Sky.
Mae S4C wedi darlledu gemau Cymru yn ddiweddar hefyd.
"Mae'n massive just i gael gweld genod yn cynrychioli eu gwledydd - genod cryf, genod hyderus.
"Mae'n wych i bawb allu gweld, ond hefyd bod 'na barch i'r gamp a sut mae wedi newid dros y blynyddoedd.
"Mae'n gorfforol, mae'n gyflym a 'da ni really yn edrych ymlaen at roi product allan sydd werth gwylio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Awst 2015