Y freuddwyd 'gam yn nes' i bêl-droedwraig o Ben Llŷn
- Cyhoeddwyd
"Hon ydi'r freuddwyd 'da ni gyd wedi bod yn disgwyl amdani... y pellter, y petrol mae o'i gyd wedi bod werth o."
Dyna ymateb Elin Denham o Ben Llŷn i'r ffaith bod ei merch newydd arwyddo ei chytundeb llawn cyntaf gyda chlwb pêl-droed Wolverhampton Wanderers.
16 oed ydi Ania, ond ers dechrau'r haf mae hi wedi bod yn hyfforddi gyda thîm cyntaf merched Wolves, a bellach wedi cael ei gwobrwyo â chytundeb llawn gyda'r clwb.
Dywedodd Ms Denham: "Mae hi wedi gweithio mor ofnadwy o galed, wedi rhoi 100% i'r peth, ond rŵan mae'r gwaith 'go iawn' yn dechrau mewn ffordd".
Mae Ania, sy'n chwarae fel ymosodwr neu yng nghanol cae, wedi bod yn chwarae pêl-droed ers yn bedair oed.
Dros y blynyddoedd mae hi wedi chwarae i Gaernarfon ac Academi Bêl-droed Merched Gogledd Cymru, yn ogystal â threulio cyfnod yn hyfforddi gyda Manchester City.
"Heb os yr her fwyaf oedd y teithio. Dwy awr i Wrecsam, dwy awr ar y cae, wedyn dwy awr yn ôl," meddai Ms Denham.
"Mi oedd Ania yn gwneud ei harholiadau TGAU ar y pryd hefyd, ond does dim amheuaeth ei fod o werth bob ceiniog.
"Ers iddi droi'n 12, chwarae i glwb proffesiynol oedd y freuddwyd fawr iddi."
'Llygad am gôl a dawn arbennig'
Mae tîm merched Wolves yn chwarae yn yr FA Women's National League Northern Premier Division, sef y drydedd haen ym mhyramid pêl-droed Lloegr.
Mewn datganiad, dywedodd rheolwr y clwb, Dan McNamara bod Ania yn "dalent ifanc a chyffrous".
"O'r cychwyn cyntaf, roedd hi'n amlwg pa mor dda oedd hi. I feddwl ei bod hi ond 16 oed, 'da ni wrth ein boddau ein bod ni wedi llwyddo i ddod a hi mewn," meddai.
"Mae ganddi lygad am gôl a dawn arbennig, ond y peth gorau i mi yw'r ffaith ei bod hi'n berson hyfryd hefyd."
Fe sgoriodd Ania gyda'i chyffyrddiad cyntaf i dîm cyntaf Wolves mewn gem gyfeillgar yn erbyn Oxford United.
Yn ôl Elin roedd ymateb Ania a'r teulu i gyd i'r ffaith ei bod hi wedi cael cynnig cytundeb yn "anhygoel".
"Mi oedd 'na lot o ddagrau, ac wedyn dyma realiti yn 'cicio fewn' mewn ffordd.
"Mae o i gyd wedi dod yn gynt na'r disgwyl. Gobeithio cael lle yn y garfan dan 21 oedd y nod i ddechrau, ac wedyn roedd cael hyfforddi gyda'r tîm cyntaf yn ystod y treialon yn fonws.
"Hi ydi'r ieuengaf yn y tîm o bell, ond mae'r merched eraill wedi bod yn ffantastig efo hi. Mae hi'n deall bo' 'na lot fawr o waith o'i blaen, ond mae hi'n barod i wrando ac i ddysgu.
"Be nesa? pwy a ŵyr. Y nod ydi gweithio ei hun i mewn i'r tîm cyntaf yn Wolves, sefydlu ei hun yn y garfan, a gwneud y mwyaf o bob munud mae hi'n ei gael ar y cae.
"Ond yn sicr, mae'r freuddwyd fawr gam yn nes."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022