Sêr ifanc pêl-droed: 'Da ni'n teimlo'r balchder'
- Cyhoeddwyd
Dywed dau o sêr ifanc pêl-droed Cymru bod gweld Cymru yn chwarae ar lwyfan y byd yn "annog ac yn ysbrydoli pobl ifanc" fel nhw.
Mae Hari, 15 wedi chwarae i dîm ieuenctid Clwb Pêl-droed Pwllheli, yn aelod o Academi Wrecsam ac wedi chwarae i Gymru 10 gwaith.
Ar drothwy gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau ddydd Llun dywedodd bod y tîm yn ysbrydoliaeth enfawr.
Mae Ania, 15 o Ben Llŷn wedi cynrychioli tîm merched Cymru o dan 15,16 a 17 oed.
Mae hi'n dweud bod "llwyddiant Cymru wedi cael effaith yn barod."
Wrth siarad gyda Cymru Fyw dywedodd Hari "Mae'n special oherwydd mewn pedair blynedd mae'n bosib i fi fod yng Nghwpan y Byd. Mae'r cyfan yn 'neud i fi weithio fy ngorau ac i drïo cyrraedd y tîm cyntaf," meddai.
"Gobeithio awn ni drwodd i'r quarter finals ond 'dan ni wedi ennill yn barod wrth gyrraedd Cwpan y Byd, felly dwi'n hapus.
"Mae'r tîm yn ysbrydoli ac yn annog pobl ifanc. Mae cystadlu ar y lefel uchaf yn rhoi Cymru ar fap y byd, a fel cenedl 'dan ni'n teimlo'r balchder."
Wrth gael ei holi am bwy yw ei hoff chwaraewr dywedodd ei fod yn edmygydd mawr o Daniel James - ag yntau'n gwisgo crys rhif 20 fel Hari.
"Mae Daniel James yn sydyn, yn weithgar ac mae'n role model i fi. Pan dwi'n gwylio fo'n chwarae - mae'r petha' mae'n 'neud yn anhygoel.
"Yn ystod y qualifiers i Gwpan y Byd dwi'n meddwl bod o'n un o'r players sydd wedi sefyll allan fwyaf - mae'n arwr."
Ond dywed fod y tîm i gyd yn ysbrydoliaeth enfawr.
"Mae'r cyfan jyst yn 'neud fi isio chwarae mwy o bêl-droed. Tu ôl i bob pêl-droediwr mae athrawon a theulu wrth gwrs."
Mae Ania wedi bod yn chwarae pêl-droed ers yn bedair oed a dywed ei bod wrth ei bodd yn cael cynrychioli Cymru fel ymosodwr.
Mae hi'n chwarae i Academi Bêl-droed Merched Gogledd Cymru, gan chwarae yn erbyn academi bechgyn y gogledd o Gaernarfon i TNS ar benwythnosau.
"Dwi'n hapus iawn fel pawb arall, mae'n siŵr, bod Cymru yng Nghwpan y Byd a 'nai supportio nhw yr holl ffordd. Gobeithio 'neith nhw fynd yn reit bell yn y twrnament."
Mae Ania yn ddisgybl yn ysgol Botwnnog, ac wrth siarad gyda Cymru Fyw bu'n son am ei balchder o chwarae dros Gymru.
"Mae'n brofiad anhygoel. Mae o'n freuddwyd i bob merch a bachgen ifanc sy'n hoffi pêl-droed chwarae i'w gwlad ac mae o'n brofiad anhygoel rŵan.
"Mi ges i gôl yn fy ngêm gynta' i Gymru a ges i gôl yn fy ngêm ddwetha' hefyd. Ro'n i'n Israel wythnos yn ôl mewn cystadleuaeth yr Ewros o dan 17.
'Breuddwyd i bawb'
Wrth gael ei holi am bwy o'r garfan sy'n ei hysbrydoli, dywed mai Gareth Bale yw'r un amlycaf.
"Mae o jyst yn troi fyny i bob gêm ac yn arwain ei dîm allan," meddai.
"Mae llwyddiant Cymru wedi cael effaith yn barod cyn i'r twrnament gychwyn, achos mae o'n freuddwyd i bawb bod Cymru yng Nghwpan y Byd."
Mae mam Ania, Elin, yn edrych ymlaen at gael gweld campau'r tîm hefyd, ac mae'n hynod o falch o lwyddiant ei merch yn y maes.
"Mae'n anhygoel cael Ania yn chwarae pêl-droed. Mae wedi gweithio mor galed ar hyd y blynyddoedd. Mae o'n fraint mawr a 'da ni'n falch iawn ohoni fel teulu.
"Mae'r ymroddiad mae rhywun yn ei wneud i gyrraedd y safon yma yn anhygoel - mae'n ymroddi bob diwrnod, bob wythnos a dydi hi ddim yn stopio.
"Mae'n fraint gweld plant o Ben Llŷn yn cael mynd mor bell. Dydi o ddim yn beth hawdd oherwydd 'dan ni'n byw yng nghefn gwlad Cymru - yn bell iawn o'r cyfleoedd sydd allan yna."
Yn y cyfamser, breuddwyd Ania yw chwarae pêl-droed yn llawn amser a pharhau i gynrychioli Cymru.
"Dwi'n gobeithio bod yn broffesiynol yn chwarae pêl-droed yn llawn amser a ennill cyflog, wedyn chwarae i glwb reit fawr ac wrth gwrs cario 'mlaen chwarae efo Cymru."
"Mae'n freuddwyd i fi gael chwarae yng Nghwpan y Byd rhyw ddiwrnod," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd5 Mai 2022