Rhoi blas ar lyfrau Cymraeg yn Ffair Lyfrau Frankfurt

  • Cyhoeddwyd
llyfrau

Mae cyhoeddwyr o Gymru yn hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg yn ffair lyfrau fwyaf y byd yn y gobaith o ddenu prynwyr newydd ar draws y byd.

Mae 13 o gwmnïau o Gymru ymhlith y miloedd o gyhoeddwyr a phrynwyr o dros 100 o wahanol wledydd sydd yn Ffair Lyfrau Frankfurt rhwng 18 a 22 Hydref.

Mae'r daith yn cael ei harwain gan y corff Cymru Creadigol, sy'n sbarduno twf ar draws y diwydiannau creadigol.

Y nod medden nhw yw "creu ffenest siop i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar y llwyfan rynwgladol".

'Mwy na ffair lyfrau'

Mae Cyngor Llyfrau Cymru'n cefnogi'r daith. Fel un a gafodd ei geni a'i magu yn Yr Almaen mae'r prif weithredwr, Helgard Krause, sydd yn Frankfurt ar ran y cyngor, yn cofio mynychu'r ffair pan yn blentyn.

"Mae'n fwy na ffair lyfrau, mae'n ŵyl ddiwylliannol," dywedodd. "Mae lot o fwrlwm o gwmpas y ffair.

"Mae'r byd yn dod at ei gilydd i ddathlu beth sydd ganddyn nhw, ond wrth gwrs mae ochr galed - gwerthu, gwerthu llyfrau i ddosbarthu ledled y byd, gwerthu hawliau hawlfraint… ac i sicrhau bo' ni'n cyrraedd cynulleidfa newydd ledled y byd."

Ffynhonnell y llun, Helgard
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor yn gobeithio y bydd y ffair yn gyfle i weisg Cymru gyrraedd cynulleidfa newydd

Wrth ymweld â'r ffair mae Ms Krause yn cyfaddef fod yna 'chydig o ansicrwydd ynglŷn â beth fydd yr ymateb.

"Mae blas pob gwlad a'i phobl yn wahanol a 'dach chi byth yn gwybod. Os ydan ni'n gwybod yn bendant byddwn ni gyd wedi ymddeol i Barbados!

"Ond beth sy'n ddiddorol dwi'n meddwl ydy i ffeindio partneriaid ledled y byd sydd gyda diddodeb mewn straeon gyda lleisiau authentic o Gymru."

Mae taro bargen yn sialens ynghanol cystadleuaeth ffyrnig, ond mae Ms Krause yn hyderus fod cynnyrch y gweisg o Gymru yn mynd i ennill sylw.

"Mae llenyddiaeth yn y Gymraeg yn hollol newydd i'r mwyafrif o'r byd achos dyw nhw ddim wedi gallu darllen e.

"Mae iaith pontio yn bwysig… mae'n rhaid i rai llyfrau yn y Gymraeg gael eu cyfieithu i'r Saesneg fel iaith pontio fel bo' modd i bobl allu 'neud asesiad a ydyn ni'n licio'r stori hwn."

'Cymryd Cymru o ddifri'

Mae stondin Cymru drws nesaf i Estonia, Sweden a Norwy. Mae sicrhau presenoldeb Cymru yn y ffair yn "hanfodol", medd Ms Krause, ac mae pobl, o'r herwydd, "yn cymryd chi o ddifri fel gwlad".

Ychwanegodd: "Mae yn bwysig iawn hefyd ein bod ni yn mynd yn rheolaidd i ffeiriau fel hyn. Dyw perthynas a partneriaethau ddim yn cael eu creu dros nos. Dyw e ddim fel gwerthu ffenestri gwydr dwbl!

"Yn ogystal â'r iaith, mae'n teimlo y bydd diddordeb gan bobl hefyd yn ein traddodiad llenyddol sy'n mynd nôl dros y canrifoedd.

"Mae hyn yn rhoi hygrededd i ni ymysg gweldydd er'ill y byd ein bod ni yn genedl sy' yn gwerthfawrogi llenyddiaeth."

Disgrifiad,

Rachel Lloyd, pennaeth cyhoeddi Atebol: 'Cyfle arbennig o dda' yn ffair lyfrau mwyaf y byd

Un peth arall allai helpu gwerthiant, yn ôl Helgard Krause, yw pêl-droed.

"Mae pobl yn nabod yr enw," dywedodd. "O'r foment pan bydd y ffair yn agor fe fydd y criw o Gymru yn ceisio dal sylw y cyhoeddwyr."

Mae yna amrywiaeth eang o brynwyr posib a byddan nhw'n gobeithio dod o hyd i bartneriaid mewn gwledydd yn amrywio o Ffrainc i China

"Ry'n ni yn mynd i'r ffair yn hyderus ac yn barod i 'neud cytundebau a dangos be' sy' gyda ni i'w gynnig i'r byd."

'Cyfle euraid' i weisg

Un o'r cwmnïau cyhoeddi sydd wedi teithio i Frankfurt gyda'r ddirprwyaeth o Gymru yw Atebol, sy'n cynhyrchu llyfrau, gemau ac apiau Cymraeg a dwyieithog i blant, pobl ifanc ac athrawon.

Mae'r achlysur yn gyfle euraid, medd Rachel Lloyd, pennaeth cyhoeddi'r cwmni.

"Mae'n bwysig iawn bo' ni yno. Mae Ffair Lyfrau Frankfurt yn enfawr ac fe fydd pawb o'r diwydiant yno o ar draws y byd, felly mae'n gyfle arbennig o dda i ni arddangos ein llyfrau a'r cynnyrch sydd gyda ni yma yng Nghymru ar lwyfan rhyngwladol."

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r gweisg sydd wedi mynd i Frankfurt yw Atebol ac yn ôl pennaeth cyhoeddi y cwmni, Rachel Lloyd, mae'n gyfle euraid

Mae bod yn weladwy a chael cyfle i siarad â phobl wyneb yn wyneb yn help enfawr, yn ôl Ms Lloyd.

"Byddwn ni yn gallu hyrwyddo ein llyfrau, creu cysylltiadau pwysig a pherthynas newydd… er mwyn i bobl wybod am ein llyfrau ni.

"Mae'n bwysig bo' ni'n cael y cyfle i gyfleu yr egni a'r brwdfrydedd wyneb yn wyneb, fel bo' ni yn gwerthu'r hawliau i wledydd eraill a bo' nhw wedyn yn addasu ein llyfrau ni i ieithoedd eraill, er mwyn bod ein cynnyrch ni yn mynd tu hwnt i Gymru, i wledydd eraill ac i ddarllenwyr a chynulleidfaoedd newydd."

Cenedl 'nerthol'

Mae'r ffigyrau diweddaraf o 2022 yn dangos bod gan sector cyhoeddi Cymru drosiant o dros £429m bob blwyddyn, ac mae 965 o fusnesau yn rhan o'r diwydiant, llawer o rhain yn gwmnïau bach.

Rhwng 2021 a 2022 roedd cynnydd o bron i 20% yn nifer y bobl sy'n gweithio yn y sector yng Nghymru, gan gyflogi 11,000 o bobl erbyn hyn.

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Dawn Bowden yn falch fod cynrychiolaeth gref o Gymru yn y digwyddiad i gynrychioli sector cyhoeddi Cymru.

"Efallai ein bod yn fach ond rydyn ni'n genedl nerthol, wedi'i llunio gan ein pobl, wedi'n hysbrydoli gan ein lleoedd ac yn gyfochrog o ddoniau creadigol," dywedodd.

"Rydym am gefnogi busnesau creadigol a rhoi hwb i'r diwydiant drwy gynnig mynediad i weithlu medrus a'r isadeiledd gorau, wrth greu cyfleoedd i gael mynediad i farchnadoedd byd-eang trwy deithiau masnach rhyngwladol fel Ffair Lyfrau Frankfurt."