Manon Steffan Ros: 'Syniadau'n dod o ofn'

  • Cyhoeddwyd
Manon Steffan Ros a Llyfr y Flwyddyn 2019
Disgrifiad o’r llun,

Manon Steffan Ros yn ennill Llyfr y Flwyddyn 2019

"Dwi'n meddwl bod rhaid i ni fel bobl greadigol ddefnyddio ein sgiliau a'n cryfderau ni i weithredu yn wleidyddol yn y ffyrdd 'da ni'n gallu."

Mae Manon Steffan Ros yn un o leisiau mwya' amlwg Cymru yn y byd llenyddol ac yn defnyddio ei gwaith fel nofelydd, dramodydd a cholofnydd, i archwilio'r byd ac i archwilio ei hofnau.

Ar ôl blwyddyn lwyddiannus pan mae wedi ennill Gwobr Carnegie yn ogystal â chael babi, mae Manon yn sôn fod y blynyddoedd diwethaf cythryblus o ran y pandemig a gwleidyddiaeth y wlad wedi bod yn ysbrydoliaeth iddi yn ei gwaith: "Dwi'n meddwl erioed ers i fi ddechrau ysgrifennu mod i'n berson gwleidyddol iawn ond dwi ddim yn teimlo fod y system wleidyddol wir yn effeithiol iawn a dwi ddim yn meddwl fod pobl yn gwrando ar wleidyddion ddim mwy.

"Mae ysgrifennu yn help mawr i fi brosesu y pethau nad ydw i'n cytuno a nad ydw i'n deall."

Ofnau

Mae Manon, sy'n byw gyda'i theulu ym Meirionnydd, yn dweud taw ei phrif ysbrydoliaeth yw ei hofnau: "Dwi'n tueddu i ysgrifennu am y pethau dwi ofn neu ddim yn deall - mae syniadau wastad yn dod o ofn mewn ffordd, neu dwi'n sgwennu am bethau sy'n rhoi yr ofn sy' genna'i i gymeriad ffuglennol.

"Mae sgwenwyr yn gorfod bod (yn empathetig) - dwi wastad wedi bod yn boenwr a dwi'n meddwl fod ysgrifennu am hynny yn beth defnyddiol iawn. Dwi'n gallu ysgrifennu am y pethau dwi'n pryderu amdanyn nhw a gallu archwilio nhw o rhyw bellter ffuglen."

Gwaith diweddar

Wedi i'w chyfieithiad o Lyfr Glas Nebo ennill gwobr Yoto Carnegie eleni mae Manon wedi troi ei llaw yn ddiweddar at drosiad arall, sef y ddrama absẃrd Ffrangeg Rhinoseros ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru, gwaith sy' wedi dod â phleser mawr iddi: "Bob tro o'n i'n darllen y ddrama o'n i'n syrthio mewn cariad efo hi dipyn bach mwy ac yn gweld rhywbeth newydd ynddi bob tro.

"Mae addasu gwaith rhywun arall yn gallu bod yn anodd achos mae rhaid bod yn driw i iaith y dramodydd a ddim fy llais i 'ydach chi fod i glywed. O'n i'n ffeindio pethau newydd ynddi bob tro ac yn synnu pa mor fodern oedd o'n teimlo.

"Mae gen i gymaint mwy o edmygedd tuag at abswrdiaeth ac yn meddwl 'swn i'n licio falle cael tro ar wneud rhywbeth fel 'na yn y dyfodol.

"Un o'r pethau gwych am y ddrama 'ma ydy mae'n ddigri ac mae 'na lot o ysgafnder ynddi hi, ond y prif haen ydy'r haen am ddirywiad cymdeithas. Mae'r neges yn eitha' trwm heb fod y ddrama ei hun yn drwm ac mae hynny'n goblyn o gamp.

"I rywun fynd i'r theatr a chwerthin ar yr hyn maen nhw'n ei weld ac wedyn ar y diwedd meddwl 'o mam bach, oedd hwnna am gymaint mwy na 'da ni wedi gweld'."

Ydy ennill gwobr Carnegie wedi gweddnewid ei gyrfa felly? "Dwi'n meddwl fod o wedi rhoi lot o gyfleoedd ychwanegol i fi," meddai Manon. "Mae pobl mwy chwilfrydig am beth dwi'n mynd i fod yn ysgrifennu nesa'.

"Y gwir amdani ydy dwi 'di bod yn lwcus ofnadwy i fedru 'neud bywoliaeth allan o ysgrifennu creadigol a fwy na dim allan o ysgrifennu yn greadigol yn Gymraeg.

"Fy uchelgais i ydy i allu cario mlaen i 'neud beth dwi wedi bod yn 'neud - mae cydnabyddiaeth fel y Carnegie mor braf a dwi mor freintiedig i gael o ond does dim uchelgais enfawr tu hwnt i'r pethau dwi digon lwcus i gael gwneud yn barod."

Yn ei haraith ddiolch wrth ennill y wobr, soniodd Manon am bwysigrwydd trosi nofelau i ieithoedd eraill gan daeru fod 'na fydoedd newydd i'w darganfod drwy ddarllen llyfrau mewn ieithoedd eraill.

Meddai: "Ges i fy siomi ar yr ochr orau efo Llyfr Glas Nebo achos dwi'n cofio pan o'n i'n ysgrifennu The Blue Book of Nebo a 'neud y penderfyniad i gadw hi wedi'i lleoli yng Nghymru ac i gadw'r holl gyfeiriadau at y Gymraeg, o'n i'n meddwl mod i'n ynysu'r llyfr oddi wrth cynulleidfa sy' ddim yn 'nabod Cymru - ond dydy hynna ddim yn wir.

"Mae pobl efo lot mwy o ddiddordeb yng Nghymru a'r Gymraeg nag o'n i wedi rhagweld - mae pethau yn newid ac mae pobl efo agweddau mwy agored tuag at lyfrau.

"Mae angen i'r neges yna fynd yn ôl at gyhoeddwyr mawr Prydeinig."

Disgrifiad o’r llun,

Manon Steffan Ros yn ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Mae bod yn rhan o'r byd celfyddydol Cymreig yn ysbrydoliaeth pellach i'r awdures, sy' wedi ysgrifennu dros ugain o lyfrau ac wedi ennill Gwobr Tir na n-Og dair gwaith: "Dwi ddim yn darllen llyfrau Cymraeg am bod nhw'n Gymraeg, a dwi ddim yn gwylio teledu Cymraeg am fod o'n Gymraeg - dwi'n 'neud y pethau yna achos bod nhw'n dda ac achos bod nhw'n cystadlu efo'r pethau Saesneg. Mae hwnna'n hyfryd ac yn llwyddiant mawr i'r celfyddydau.

"Gynno ni dueddiad achos bod ni wedi bod yn brwydro mor hir dros ein hawliau ni efo'r Gymraeg, mae'n hawdd i ni anghofio cael y sgyrsiau 'na am fod y Gymraeg yn dod â chymaint o lawenydd i ni ac yn dod â chyfoeth i'n bywydau celfyddydol ni a'n bywydau cymdeithasol ni.

"'Da ni'n wirioneddol lwcus o gael yr iaith hyfryd yma."

Ysbrydoliaeth

Dyw'r awdur byth yn brin o syniadau - y gwrthwyneb yw'r sialens, meddai: "Y broblem fawr ydy gormod o syniadau a fan 'na dwi rŵan - mae gen i rhyw saith neu wyth pennod cyntaf o wahanol bethau a dwi methu setlo ar un peth."

Gwaith nesaf Manon yw ysgrifennu llyfr arall i blant ac mae digon o ysbrydoliaeth adref wedi iddi eni ei thrydydd plentyn eleni: "Mae gen i dri o blant, mae'r hynaf yn 18 a beth sy'n grêt am gael plant o unrhyw oed ydy 'da chi'n cael sgyrsiau efo nhw ac yn dod i 'nabod eu byd nhw tu hwnt i'ch byd chi.

"Mae wastad yn ysbrydoliaeth i fod o'u cwmpas nhw a gweld sut mae meddyliau plant yn gweithio. Dwi wrth fy modd yn ysgrifennu i blant a phobl ifanc a dwi'n gorfod atgoffa fy hun o hyd bod fi ddim yn blentyn. Mae'n bwysig i fi gario mlaen i fedru deall eu bywydau nhw a'r pethau sy' wedi newid rhwng cenedlaethau."

Pryder

Un newid mae Manon wedi gweld yw fod cenhedlaeth heddiw o blant yn darllen llai am bleser erbyn hyn: "Un o'r pethau pwysigaf ydy darllen am bleser ac mae'r gair pleser yn ofnadwy o bwysig.

"Mae pawb sy' wedi bod i'r ysgol yn gwybod fod astudio llyfr yn yr ysgol yn brofiad gwahanol iawn i fod yn darllen llyfr adre a'm mhryder i yw fod plant ddim wir efo'r cyfle i ddarllen am bleser.

"'Da chi'n gallu dysgu unrhyw beth drwy ddarllen ffuglen - mae'r gallu yna i ymgolli yn stori rhywun arall a byw bywyd rhywun arall drwy'r tudalennau a dod i adnabod cymeriad sy' ddim yn debyg i ti, mae'n dysgu cymaint o empathi i ti.

"Ac mae'r teimlad 'na o golli yn llesol iawn yn feddyliol. Mae'n bryder ond mae cyfrifoldeb arno ni fel oedolion i rhoi y llyfrau iawn yn eu dwylo nhw.

"Mae'n hawdd iawn troi at sgrin ffôn yn hytrach na chodi llyfr ond mae'r profiadau yna'n bethau mor wahanol.

"Dwi'n gwybod pa un sy'n 'neud i fi deimlo'n well."

Bydd drama Rhinoseros i'w weld ar Hydref 24 a 25 yn Theatr y Sherman, Caerdydd ac wedyn ar daith o amgylch Cymru.

Pynciau cysylltiedig