Darlun enwog yr artist Cymreig, Kevin Sinnott, ar werth

  • Cyhoeddwyd
Running Away with the Hairdresser painting
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r darlun yn ddelwedd eiconig i gynrychioli celf fodern Gymreig, yn ôl yr arwerthwr

Mae un o ddarluniau Cymreig enwoca'r 30 mlynedd diwethaf yn mynd o dan y morthwyl.

Mae darlun olew 'Running Away with the Hairdresser' gan Kevin Sinnott i'w weld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ac yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.

Mae'r ddelwedd o ddau ffigwr yn rhedeg ar hyd stryd teras yn un cyfarwydd iawn.

Nawr, mae ail ddarlun, digon tebyg, o'r un olygfa, yn mynd ar werth.

Does neb wedi gweld y darlun hwn ers dros 30 o flynyddoedd, gan ei fod wedi bod mewn casgliad preifat yn sir Sussex.

Yn ôl yr arwerthwr, Ben Rogers-Jones, o gwmni arwerthu Rogers Jones,"mae 'na wahaniaethau bychan rhwng y ddau lun, o ran maint a chyfansoddiad, ond heb graffu'n rhy fanwl, fe allech chi eu camgymryd am yr un llun".

Mae disgwyl i'r darlun gael ei werthu am rhwng £30,000 a £40,000 pan fydd yn mynd o dan y morthwyl yn Arwerthiant Cymreig y cwmni ar 18 Tachwedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kevin Sinnott yn cael ei ystyried fel yr arlunydd byw mwyaf blaenllaw yng Nghymru

"Dyma'r ddelwedd gelf Gymreig enwocaf o'r 30 mlynedd ddiwethaf," meddai Ben Rogers Jones.

"Petai rhaid dewis un ddelwedd eiconig i gynrychioli celf fodern Gymreig, dyma fyddai hi."

Fe gafodd y darlun gan Kevin Sinnott ei beintio yn y 90au.

Ychwanegodd yr arwerthwr: "Fe ddywedodd yr artist, Kevin Sinnott, un tro, bod y ddau ffigwr yn y llun yn rhedeg i ffwrdd o'u gwreiddiau, yn rhedeg i ffwrdd o'u tref enedigol, efallai mlaen i 'rywbeth gwell'.

"Mae'n ddelwedd o ddyheadau pobl ifanc yng nghymoedd y de yn y 90au.

"Mae wir yn ddarlun o'r oesoedd. Eicon celf Cymreig go iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Rhedeg i Ffwrdd gyda'r Torrwr Gwallt', o tua 1995, yn un o ddarluniau enwocaf Kevin Sinnott

Mae Kevin Sinnott yn dal i beintio heddiw ac mae'n cael ei ddisgrifio fel yr arlunydd byw mwyaf blaenllaw o Gymru.

Wedi'i eni yn Sarn, mae nawr yn byw ac yn gweithio yng Nghwm Garw, ger Penybont-ar-Ogwr.

Wedi'i hyfforddi yng Ngholeg Celf Brenhinol Llundain, fe fu'n llwyddiannus iawn yn yr 80au gydag arddangosfeydd mewn galerïau blaenllaw yn Llundain ac America.

Mae ei waith wedi cael ei brynu gan gasgliadau mawr megis y Metropolitan Museum of Art, Efrog Newydd, y Cyngor Prydeinig, Coleg Celf Brenhinol Llundain, yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Cenedlaethol Cymru.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol