'Pobl mewn perygl' yn sgil methiannau Heddlu Dyfed-Powys
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwella'r ffordd mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin gyda dioddefwyr trais yn y cartref, yn ôl adroddiad newydd gan yr Arolygiaeth Cwnstabliaeth.
Fe wnaeth y tîm ymchwilio graffu ar 230 o achosion, ac roedd nifer wedi cael eu gosod yn y categori risg anghywir.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio at achosion o "ymosodiadau difrifol, bygythiadau i ladd, tagu, treisio a digwyddiad pan gafodd menyw ei bygwth gyda lamp losgi (blowtorch)" yn cael eu hasesu fel "risg arferol".
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad, gan ddweud eu bod "eisoes wedi dechrau ar raglen o waith er mwyn gwneud gwelliannau".
Yn ôl yr arolygydd, Wendy Williams, mae'r methiant i "adnabod risg, a darparu mesurau diogelu yn golygu fod pobl fregus mewn perygl o gael eu niweidio".
Dywedodd bod nifer o droseddau difrifol wedi cael eu cam-asesu a'u gosod yn y categori anghywir, ac y byddai'n cadw golwg fanwl ar waith y llu yn y maes hwn.
'Angen mwy o gefnogaeth ar y gweithlu'
Yn yr adroddiad, mae'r llu yn gwneud ymrwymiad y bydd pob digwyddiad yn ymwneud â thrais yn y cartref yn cael ei ail-asesu gan staff arbenigol.
Fe ganfu'r ymchwilwyr nad oedd swyddogion trais yn y cartref wastad yn cael yr hyfforddiant priodol.
Mae'r adroddiad hefyd yn feirniadol o'r ffordd mae'r llu yn cefnogi'r gweithlu, ac yn nodi nad yw "bob tro yn ymdrin â lles staff a swyddogion" ac "nad ydyn nhw wastad yn derbyn y gefnogaeth briodol".
Dywedodd rhai swyddogion mewn adrannau arbenigol eu bod dan straen.
Cafodd y llu ei asesu mewn naw maes, gydag wyth yn derbyn gradd benodol, gyda'r graddau yn cael eu disgrifio fel; ardderchog, da, derbyniol, angen gwelliant neu annerbyniol.
Roedd chwech o feysydd llu Heddlu Dyfed-Powys yn dderbyniol ac roedd angen gwelliant mewn dau faes.
Graddau Heddlu Dyfed-Powys mewn 8 maes
Ardderchog - Dim
Da - Dim
Derbyniol - Ymchwilio i droseddau, Atal torcyfraith, Pwerau cyhoeddus ac ymdrin â'r cyhoedd, Ymateb i'r cyhoedd, Rheoli Troseddwyr, Rheolaeth ac arweiniad y llu
Angen gwella - Gwarchod pobl fregus, Datblygu gweithle positif
Annerbyniol - Dim
Mae'r adroddiad yn dweud bod angen i Heddlu Dyfed-Powys ateb mwy o alwadau 101 yn fwy prydlon.
Yng Nghymru a Lloegr, mae yna ddisgwyliad nad yw'r cyhoedd yn rhoi'r gorau i fwy na 10% o alwadau ffôn.
Ond rhwng Mai 2022 ac Ebrill 2023, roedd y cyhoedd yn ardal llu Heddlu Dyfed-Powys wedi rhoi'r gorau i 25.9% o alwadau 101.
Mae disgwyl hefyd i 90% o alwadau brys 999 gael eu hateb o fewn 10 eiliad.
Yn ardal Dyfed-Powys, 82.6% o alwadau brys gafodd eu hateb o fewn 10 eiliad yn y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023.
'Colli hyder a chyfleoedd'
Yn ôl yr arolygwyr, mae methiant i ateb y ffôn yn brydlon yn golygu y gellid "colli hyder y cyhoedd a chyfleoedd i ymchwilio".
Er bod safonau o ran ymchwilio i droseddau yn dderbyniol ar y cyfan, roedd yna oedi wrth astudio tystiolaeth fforensig ddigidol.
Ym mis Gorffennaf 2020, roedd 125 o ddyfeisiadau yn aros i gael eu harchwilio, ond roedd y nifer wedi cynyddu i 350 yn ystod cyfnod yr arolygiad.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Steve Cockwell eu bod yn derbyn canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad, a'u bod "wedi ymrwymo fel llu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posib i'n cymunedau".
"Ry'n ni'n falch bod yr adroddiad yn cydnabod y safonau ry'n ni wedi'u cyflawni o ran ymchwilio'n effeithiol i droseddau, a sut mae ein gwaith, ar y cyfan, yn cadw pobl yn ddiogel, yn lleihau troseddu a rhoi gwasanaeth effeithlon i ddioddefwyr.
"Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn seiliedig ar adolygiad a gynhaliwyd rhwng Ionawr a Mehefin 2023, ac rydyn ni eisoes wedi dechrau ar raglen o waith er mwyn gwneud gwelliannau yn yr ardaloedd a nodwyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023