3,000 o gwynion yn erbyn swyddogion heddlu y llynedd
- Cyhoeddwyd
Cafodd dros 3,000 o gwynion eu gwneud yn erbyn swyddogion heddlu Cymru yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Mawrth y llynedd yn ôl yr ystadegau diweddaraf i'w cyhoeddi gan y Swyddfa Gartref.
Roedd y cwynion yn cynnwys cyfanswm o 7,060 o honiadau gwahanol, yn ymwneud â 4,684 o swyddogion heddlu.
Ac o'r 5,318 o honiadau arweiniodd at ymchwiliad gan y pedwar llu Cymreig, dim ond naw honiad - llai na 0.2% o'r holl achosion - wnaeth arwain at wrandawiad disgyblaethol ffurfiol.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru am ymateb i'r ystadegau.
Ffyrdd amgen o ddisgyblu
Mae'r canlyniadau yng Nghymru yn debyg iawn i'r darlun ar draws holl luoedd Cymru a Lloegr, gyda mwyafrif llethol yr ymchwiliadau yn arwain at ganfyddiad nad oedd achos i'w ateb, a llai na 0.2% o'r achosion neu 158 ar draws Cymru a Lloegr yn arwain at wrandawiadau ffurfiol.
Does dim ystadegau penodol i Gymru o ran faint o swyddogion gafod eu diarddel o'u swydd nac ychwaith am natur yr honiadau yng Nghymru, ond dim ond naw o swyddogion gafodd eu diswyddo ar draws Cymru a Lloegr.
Er hynny mae 'na ffyrdd eraill o ddisgyblu yn cael eu rhestru ymysg ystadegau'r Swyddfa Gartref, gyda swyddogion yn dilyn cyrsiau neu raglenni i ddysgu, neu i ddysgu drwy 'fyfyrdod'.
Mae data'r Swyddfa Gartref yn dangos bod saith o swyddogion Heddlu Dyfed Powys wedi'u rhoi ar gyrsiau o'r fath, 158 yng Ngogledd Cymru a 588 ar draws ardal Heddlu'r De.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2022