'Plismyn ddim o ddifri' am droseddau homoffobaidd'
- Cyhoeddwyd
Mae yna gynnydd o 75% yn nifer y troseddau casineb ar sail rhywioldeb sydd wedi'u hadrodd i heddluoedd Cymru yn y bum mlynedd ddiwethaf, yn ôl gwaith ymchwil gan BBC Cymru.
Ddwy flynedd yn ôl roedd Ollie Gall a’i bartner Tomek yn cerdded adre o ganol Caerdydd pan wnaeth grŵp o ddynion boeri arnyn nhw a bygwth taflu asid i’w hwynebau.
"Mi ddywedon nhw wrthon ni nad oedden ni'n haeddu byw na cherdded yn yr ardal yma a'n bod yn haeddu cael asid wedi'i daflu i'n hwynebau," meddai Mr Gall.
“Aethon ni adre yn syth ond roedden nhw wedi’n dilyn ni i’r tŷ ac roedden nhw’n gweiddi eto: ‘I am going to throw acid on you if you come out of this house again’.”
'Aros, ac aros ac aros'
Ar ôl ffonio’r heddlu fe gafodd y pâr gyngor i aros yn y tŷ tan bod heddweision yn cyrraedd.
“Mi wnaethon ni aros,” meddai, “ac aros, ac aros, ac aros... a dim. Daeth neb.”
Er iddo ffonio eto i ofyn lle’r oedd yr heddlu, daeth neb.
Y diwrnod canlynol fe benderfynodd Mr Gall fynd i orsaf Heddlu Bae Caerdydd er mwyn cofnodi’r digwyddiad.
“Dwi’n gweithio o adre fel arfer, felly mi wnes i benderfynu mod i am weithio o dderbynfa’r orsaf heddlu,” meddai.
“Doedden nhw ddim eisiau i mi fod yna, ond doeddwn i ddim am adael tan bod rhywun yn dod ata i i siarad. Ro’n i yno am oriau tan ganol y prynhawn.”
Fe wnaeth swyddog ddod ato i siarad ar ôl i’w fam roi neges ar dudalen Facebook Heddlu’r De yn cwyno.
“Mi wnaeth hi fuss a sgwennu fy mod i wedi bod yn eistedd yn yr orsaf heddlu yn disgwyl i ddweud wrth rywun am y profiad a fy mod i wedi bod yn aros am 24 awr i weld plismon.”
Nes ymlaen y diwrnod hwnnw fe gafodd alwad ffôn yn gofyn iddo fynd i orsaf heddlu Trelái i wneud datganiad.
“Mi es i, ond aros oedd yr hanes yno hefyd - aros ac aros.
“Yn y diwedd fe wnaethon ni gael larymau yn y tŷ a rhai personol. Do’n i ddim rili isio nhw, ond mi gymeron ni nhw, ond ar ôl hynny, wnaethon nhw ddim byd arall rili.”
'Ddim yn cymryd yr achos o ddifri'
Chwe mis yn ddiweddarach fe gafodd alwad ffôn gan blismon yn dweud er bod ganddyn nhw luniau CCTV o’r digwyddiad a datganiadau llygad-dystion, bod yr heddlu’n cau’r achos.
“Dywedodd y plismon nad oedden nhw’n gallu gwneud unrhyw beth arall gan ‘nad oedd y dyn oedd yn gyfrifol yn fodlon agor ei ddrws i swyddogion a bod dim modd ei arestio.
“A dyna ni.”
Mae’n teimlo nad yw'r heddlu wedi cymryd yr achos o ddifri' a bod diffyg cefnogaeth wedi cael gwared ar unrhyw ffydd oedd ganddo mewn plismyn.
“Dwi dal yn teimlo’n let down. Absolutely let down.”
Dywed Heddlu De Cymru bod delio â throseddau casineb yn flaenoriaeth iddyn nhw.
1,329 o droseddau yn 2021-22
Mae nifer y troseddau casineb homoffobaidd gafodd eu cofnodi yng Nghymru bum gwaith yn uwch nag yr oedden nhw ddegawd yn ôl - roedd yna 1,329 o droseddau yn 2021-22.
Mae hyn dri chwarter yn uwch na chyn y pandemig.
Heddlu Dyfed-Powys welodd y naid gyfrannol fwyaf mewn troseddau ar sail rhywioldeb o 9 achos ddegawd yn ôl i 147 yn 2021-22.
Yng Nghymru mae un ym mhob pump o holl droseddau casineb yn rhai ar sail rhywioldeb.
Beth yw troseddau casineb?
Pan mae person yn profi gelyniaeth ar sail hil, crefydd, anabledd, rhywioldeb neu hunaniaeth drawsryweddol mae’n cyfri' fel trosedd casineb.
Gall hyn gynnwys bygythiadau, niwed corfforol, difrod i eiddo, aflonyddu a bwlio.
Mae hawl gan ynadon a barnwyr roi dedfrydau hirach i droseddwyr os oes cymhelliant o gasineb i’r troseddau.
Yn 2021-22 dim ond 9% o’r holl droseddau casineb a adroddwyd i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr a arweiniodd at gyhuddiad neu orchymyn i fynd i’r llys.
Yn ôl elusen LHDTC+, GALOP, mae profiad Mr Gall yn un cyffredin.
Mae'r elusen yn gweithredu llinell gymorth sy’n cynnig cefnogaeth i unigolion sy’n dymuno cofnodi cwyn gyda’r heddlu.
Maen nhw wedi gorfod ehangu’r ddarpariaeth oherwydd y galw "sy’n cynyddu’n barhaus", gyda galwadau ynglŷn â throseddau casineb homoffobig a thrawsffobig ar eu huchaf yn ystod Mis Balchder.
Mae gwaith ymchwil GALOP yn awgrymu mai dim ond 1 o bob 8 o ddioddefwyr sy’n mynd at yr heddlu gyda’u cwynion, ac o'r rheiny, roedd llai na hanner (46%) yn hapus gyda’r ymateb.
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
“Mae pobl LHDTC+ yn dod aton ni ac yn dweud yn aml nad ydy eu hunaniaeth yn cael ei drin â pharch na’i ddeall,” meddai Amy Roach, dirprwy brif weithredwr GALOP.
“Maen nhw’n teimlo nad ydy eu profiadau’n cael eu hystyried fel rhywbeth difrifol na phwysig ac nad ydyn nhw’n cael eu hymchwilio’n iawn.
“Pan maen nhw’n cael profiad gwael gan yr heddlu, mae’n treiddio i lawr i’r gymuned ehangach.
"Mae pobl yn clywed am y profiadau hynny. Mae’n atgyfnerthu’r diffyg ymddiriedaeth sydd gan y gymuned am blismona.”
Mae GALOP yn annog unrhyw un sydd wedi profi trosedd casineb i gysylltu â nhw gan eu bod nhw’n gallu cyfeirio unigolion at wasanaeth sy’n gallu eu helpu i lywio’r system cyfiawnder troseddol.
'Y gwir ffigwr yn llawer uwch'
“Mae’n ymddangos fel bod pethau wedi gwaethygu oherwydd ychydig yn ôl roedd pobl yn teimlo bod yr heddlu’n cymryd y mater o ddifri' ac yn llwyddo i ddod a phobl i’r llys,” yn ôl Dr Hefin Gwilym, darlithydd mewn polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.
“Ond yn fwy diweddar ma' pobl yn teimlo nad ydy’r heddlu efallai wedi bod mor effeithiol a ddim yn rhoi digon o adnoddau i edrych i mewn i’r achosion yma a dod â phobl i’r llys yn llwyddiannus."
Mae’r cynnydd yn nifer yr adroddiadau i'r heddlu ond y gostyngiad yn nifer yr erlyniadau, yn awgrymu bod gan yr heddlu broblem, yn ôl Dr Gwilym.
“Mae canran uchel o bobl - tua 95% - ddim yn fodlon mynd at yr heddlu gan nad ydyn nhw’n teimlo y byddan nhw’n delio efo’r mater yn y ffordd briodol.
“Dim ond tip of the iceberg sy’n cael ei adrodd i'r heddlu mewn gwirionedd, ac mae’r gwir ffigwr yn uwch o lawer mae’n debyg.
“Mae’r heddlu angen adennill trust pobl i fynd atyn nhw ac i gymryd yr achosion o ddifri'. Dyna sut ma' pobl yn mynd i ymddiried eto yn yr heddlu.”
'Ymchwiliad llawn'
Mewn datganiad dywedodd Heddlu’r De eu bod nhw wedi gweithredu cynllun ymateb i drosedd casineb wedi’r gŵyn gan Ollie Gall.
“Fe wnaethon ni gynyddu patrolau yn ardal Glan-yr-afon a gosod larymau ar ddrws a ffenestri tŷ Mr Gall.
“Fe gafodd yr achos ei ymchwilio’n llawn, ond yn anffodus, er gwaethaf ymchwiliadau pellach, chafodd yr unigolyn oedd yn gyfrifol ddim ei adnabod."
Mae Mr Gall yn dweud bod hynny’n groes i’r wybodaeth a gafodd e gan Heddlu’r De ar y pryd.
Mae datganiad yn ychwanegu: “Does dim rhagor o ddigwyddiadau wedi eu reportio.”
Symudodd Mr Gall a’i bartner i ran arall o’r brifddinas yn fuan wedi’r bygythiadau.
“Mae’n gwneud i mi deimlo na fydda i’n mynd atyn nhw tase rhywbeth fel hyn yn digwydd eto achos dwi ddim yn meddwl y byddan nhw’n gneud unrhyw beth significant amdano fe,” meddai.
Mae hefyd yn teimlo bod ei brofiad ef a’i bartner Tomek yn un cyffredin i aelodau’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
“Dwi’n teimlo yn flin yn fwy nag unrhyw beth arall a dwi ddim yn meddwl bod yr heddlu yn allies - yn sicr dydyn nhw ddim wedi gneud digon i mi deimlo eu bod nhw.
“Dwi wedi gweld y ffigyrau bod cwynion yn codi ond bod erlyniadau’n disgyn, a dwi’n gwybod bod rhai achosion yn anodd i’w profi, ond yn fy achos i, roedd ‘na CCTV, roedd ‘na dystion, ac roedden nhw’n gwybod pwy oedd yn gyfrifol, ond wnaethon nhw ddim byd.”
'Troseddau casineb yn flaenoriaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De: “Does dim lle o fewn cymdeithas ar gyfer troseddau casineb ac maen nhw'n flaenoriaeth gan Heddlu’r De.
"Rydym yn annog dioddefwyr a thystion i siarad gyda ni gan bod gennym swyddogion arbenigol all helpu.”
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020