Taliadau aer glân ar rai o ffyrdd prysuraf Cymru?

  • Cyhoeddwyd
A470Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhannau o'r A470 ger Pontypridd wedi cael eu hystyried fel parthau aer glân posib

Bydd cyfraith a allai olygu taliadau aer glân ar rai o ffyrdd prysuraf Cymru yn cael ei thrafod yn y Senedd ddydd Mawrth.

Dywed Llywodraeth Cymru y byddai ond yn codi tâl ar yrwyr os ydy parthau 50mya yn methu â thorri allyriadau niweidiol.

Mae'r Ceidwadwyr yn galw ar aelodau'r Senedd i ddileu'r syniad o gyfraith i leihau llygredd.

Mae 'na alwadau hefyd am osod targedau ar gyfer un o'r nwyon mwyaf niweidiol sy'n dod o gerbydau.

Mae pwerau i gyflwyno taliadau ar yr M4 a phrif ffyrdd A wedi'u cynnwys ym Mil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau).

'Dim codi tâl oni bai bod 50mya yn methu'

Mae rhannau o'r draffordd ger Casnewydd a'r A470 ger Pontypridd wedi cael eu hystyried fel parthau aer glân posib.

Mae'r terfyn cyflymder wedi'i dorri i 50mya yn y ddau safle - ac ar dri darn arall o ffordd - er mwyn lleihau'r nitrogen deuocsid (NO2) yn yr awyr.

Mae'r llywodraeth yn dweud nad oes unrhyw gynlluniau ar gyfer codi tâl - ac y bydden nhw ond yn gwneud hynny pe bai'r cyfyngiadau cyflymder yn methu creu newid "parhaus, hirdymor".

Mae gwelliant a osodwyd gan y Ceidwadwyr yn dileu'r rhan o'r mesur sy'n ymwneud â chodi tâl ar y ffyrdd.

Does dim disgwyl iddo gael ei gymeradwyo yn y Senedd ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r M4 yng Nghasnewydd yn ardal arall allai gael ei wneud yn barth aer glân posib

Dywedodd Janet Finch-Saunders, llefarydd yr wrthblaid ar newid hinsawdd, bod ei phlaid eisiau cael gwared ar daliadau ffyrdd a chyflwyno swyddfa fonitro newydd "fel na all Llafur osgoi craffu" ar aer glân. Mae newidiadau eraill yn galw am dargedau ar NO2.

Mae'r bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i weinidogion osod targed i leihau gronynnau bach, a elwir yn PM2.5, sy'n niweidiol i iechyd pobl.

Ond mae elusennau amgylcheddol a phwyllgor newid hinsawdd y Senedd yn dweud dylai'r un peth ddigwydd ar gyfer NO2.

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd can Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2018, roedd PM2.5 yn gyfrifol am 1,604 o farwolaethau a NO2 yn gyfrifol am 1,108 bob blwyddyn.

Dywedodd AS Plaid Cymru Delyth Jewell: "Rydym yn sylweddoli mai PM2.5 yw'r gwaethaf ond byddent yn colli cyfle petai'r mesur dim ond yn cynnwys hynny.

"Dyna mae'r arbenigwyr yn ei ddweud wrthym ni, felly mewn gwirionedd mae'n gwneud synnwyr iddo (targed NO2) fod ar wyneb y bil."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.