Teyrngedau i gyn-bennaeth Bwrdd Croeso Cymru
- Cyhoeddwyd
Yn 75 oed bu farw Jonathan Jones, cyn-Brif Weithredwr Bwrdd Croeso Cymru wedi salwch byr.
Wedi'i gyfnod yn y Bwrdd Croeso bu'n gyfarwyddwr yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Llundain gan fod yn gyfrifol am hybu buddsoddi mewnol, masnach, twristiaeth a thrafodaethau rhwng llywodraethau ac yna bu'n ymgynghorydd annibynnol.
Bu'n gysylltiedig â maes twristiaeth am hanner canrif gan siarad yn gyson am y maes ar raglenni radio a theledu.
Yn 2012 fe dderbyniodd y CBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines a dywedodd ar y pryd ei fod wedi derbyn yr anrhydedd ar ran "pawb sy'n gweithio mor galed yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru".
"Heb eu cefnogaeth nhw, fe fyddai'n amhosib i gyflawni'r yr hyn rwy'n ei wneud," ychwanegodd.
Ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul mae nifer wedi bod yn diolch iddo am ei gefnogaeth hael, ei barodrwydd i helpu a'i uchelgais i osod Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
'Ei golli'n fawr'
Cafodd Jonathan Jones ei eni yng Nghrymych ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf roedd yn byw ym Mhenarth - yn ystod ei yrfa fe dreuliodd chwe blynedd yn gweithio yn Amsterdam ac roedd yn siarad Iseldireg a Ffrangeg yn rhugl.
Wedi graddio o goleg Wycliffe yn Stroud aeth i weithio i gwmni Ford yn Dagenham cyn dechrau ar yrfa oes ym myd twristiaeth.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei nai, y darlledwr Rhodri Ogwen Williams, y bydd yn ei golli'n fawr.
"Dim ond teulu bach y'n ni ond ni'n deulu hynod o agos. Mae'n ergyd anferth i Mam (Jenny Ogwen Williams) golli ei brawd ac yn golled enfawr i'r perthnasau agos eraill - ro'n ni gyd yn meddwl y byd ohono.
"Rwy'n falch i fi lwyddo i deithio o Doha i'w weld ddechrau wythnos diwethaf. Mae'n anodd meddwl ei fod wedi'n gadael wedi salwch mor fyr.
"Roedd e'n ŵr, yn dad, yn frawd ac yn ewythr arbennig iawn."