Diwrnod y Llyfr: Hoff lyfrau siopau Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Pa lyfrau Cymraeg mae darllenwyr ar draws y wlad yn eu prynu a'u darllen?
Ar Ddiwrnod y Llyfr, Cymru Fyw aeth i holi Selwyn Evans yn Siop y Siswrn, Yr Wyddgrug, Angharad Thomas yn Siop Inc, Aberystwyth a Janet Francis-Jones yn Siop Tŷ Tawe, Abertawe.
Siop y Siswrn, Yr Wyddgrug
Mae Selwyn Evans o Siop y Siswrn, Yr Wyddgrug a'i wraig Anne yn rhedeg Siop y Siswrn ers dros ddeugain o flynyddoedd. Pa lyfrau sy'n boblogaidd gyda darllenwyr Yr Wyddgrug a'r ardal?
"Heb os, y llyfr mwyaf poblogaidd i ni yn Siop y Siswrn llynedd fu Gwynt y Dwyrain; nofel gan Alun Ffred ac enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. Cafwyd gwerthiant cyson am fisoedd wedi ei lwyddiant ym mis Awst 2023.
"Dros y blynyddoedd diweddar y llyfrau sy'n dod i'r meddwl fel gwerthwyr abennig yw Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros, Geiriadur Lliwgar (llyfr poblogaidd iawn i blant a rhieni sy'n dysgu y Gymraeg) a straeon neu gasgliadau i ddysgwyr fel Agor y Drws a Ffenest.
"Gan ein bod yn genedl fusneslyd, mae cofiannau wedi gwerthu yn dda dros y blynyddoedd e.e cofiant Dai Jones, John Ogwen ac eleni Dafydd Iwan a Cefin Roberts.
"Mae unrhyw lyfr sydd â blas lleol arno bob amser yn boblogaidd a chafwyd ymateb arbennig i gasgliad o hen luniau o'r Wyddgrug a gyhoeddwyd cyn y Nadolig.
"Agorodd Siop y Siswrn yn Yr Wyddgrug yn 1973. Mae Anne a fi (Selwyn) wedi bod yma am dros 40 o flynyddoedd, ac wedi cael cefnogaeth arbennig dros y blynyddoedd. Braint yw croesawu dysgwyr y Gymraeg a phawb sydd am brynu llyfr a nwyddau Cymreig.
"Yn yr hinsawdd economaidd anodd yma mae angen cefnogaeth ar lyfrwerthwyr ar y stryd fawr, mae'n bwysig cofio ein bod yn allweddol i ddenu a chynyddu y nifer o siaradwyr Cymraeg a chyrraedd nod y llywodraeth o filiwn o siaradwyr.
"Beth am fynd at y llyfwerthwyr i brynu llyfr yn y dyddiau nesaf?"
Siop Inc, Aberystwyth
Angharad Morgan o Siop Inc sy'n sôn am y llyfrau sy'n hedfan oddi ar silffoedd ei siop hi a'i brawd, Thomas yn Aberystwyth:
"Sefydlwyd Siop Inc 'nôl yn 2004 a dros y blynyddoedd rydym wedi gweld miloedd o lyfrau yn cael eu cyhoeddi a'u gwerthu yma, ond mae 'na rai teitlau sy'n sefyll allan ac erbyn hyn yn deitlau sydd bob amser ar ein silffoedd.
"Nofelau yw'r rhan fwyaf o'r rhain gan rai o awduron amlycaf Cymru. Mae'n hyfryd gweld darllenwyr yn dal i gael mwynhad allan o glasuron fel Un Nos Ola Leuad, Cysgod y Cryman, Martha Jac a Sianco, Sgythia a Llyfr Glas Nebo.
"Llynedd ein prif werthwr yma oedd Hallt gan Meleri Wyn James, awdur lleol, enillydd Y Fedal Ryddiaith a nofel wedi'i lleoli yma yn Aber - cyfuniad perffaith i ni fel siop!
"Yn fwy diweddar mae cyfrolau fel Capten gan Meinir Pierce Jones a Pridd gan Llŷr Titus wedi bod yn deitlau poblogaidd ac rydym yn rhagweld mae clasuron y dyfodol fydd rhain.
"Mae 'na ambell lyfr sydd wedi ein synnu dros y blynyddoedd hefyd, engraifft da yw'r llyfrau Teach Your Dog Welsh a Teach Your Cat Welsh. Doeddwn erioed wedi rhagweld y fath werthiant!
"Yma yn Aberystwyth rydym yn cael nifer o dwristiaid yn crwydro drwy'r siop ac un llyfr sydd bob amser yn ennyn diddordeb yw The History of Wales in Twelve Poems, cyfrol hyfryd sy'n tywys y darllenydd ar daith hanesyddol a llenyddol fendigedig.
"Ac fel pob siop lyfrau arall ar draws Cymru, mae'r bytholwyrdd Sali Mali yn dal i werthu ynghŷd a'r anfarwol Rala Rwdins."
Siop Tŷ Tawe, Abertawe
Menter Cymdeithas Tŷ Tawe sy'n berchen ar siop lyfrau Tŷ Tawe ers ei sefydlu yn 1985. Yno'n rheoli'r siop ers 2018 mae Janet Francis-Jones. Pa lyfrau mae Janet wedi mwynhau dros y flwyddyn ddiwethaf a beth sy'n boblogaidd gyda thrigolion Abertawe a'r ardal?
"Dros y flwyddyn ddiwethaf wnes i fwynhau Sut i ddofi corryn gan Mari George yn fawr. Dwi'n tueddu i ddarllen llyfrau ysgafnach. Hefyd ges i flas ar Y Gwyliau gan Sioned Wiliam a Dal Arni gan Iwcs.
"Mae nofelau newydd wastad yn boblogaidd iawn gyda ni yn y siop yn enwedig nofelau ditectif; rhai Alun Davies fel Ar Drywydd Llofrudd a rhai John Alwyn Griffiths fel Dan Gysgod y Coed.
"Mae'r sylw mae'r llyfrau sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn ei gael a nofelau buddugol Gwobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith yn hwb mawr i werthiant. Ond y llyfrau sy'n gwerthu orau i ni yw llyfrau y gyfres Amdani i ddysgwyr. Maen nhw'n hedfan!
"Dros y blynyddoedd mae cyfrol Yr Erlid gan Heini Gruffudd wedi gwerthu'n dda, awdur lleol i ni yma'n Abertawe. Mae'r gyfrol farddoniaeth Cyfnos gan Alan Llwyd, awdur lleol arall hefyd yn boblogaidd.
"Ry'n ni'n croesawu llawer o bobl sy'n edrych am lyfrau i grwydro o gwmpas Abertawe i'r siop neu bobl sydd eisiau llyfr am hanes y ddinas.
"Mae llyfrau plant bach yn boblogaidd iawn. Huwcyn Puw gan Charlotte Middleton yw'r ffefryn ar hyn o bryd a Geco yr Eco, addasiad Eurig Salisbury. Mae'n braf gweld llawer o lyfrau dwyieithog a lliwgar i blant bach erbyn hyn a nifer o lyfrau ABC a rhifo yn Gymraeg.
"Ond mae'r hen gymeriadau'n dal i gydio yn nychymyg plant. Mae llyfrau Smot y ci ffyddlon dal i wneud yn dda. Roedd Smot mas o brint am sbel ond mae e nôl ar y silffoedd erbyn hyn."
Hefyd o ddiddordeb: