Gyrfa oes o argraffu yn Y Lolfa yn 'un hynod hapus'

  • Cyhoeddwyd
Geraint Jenkins ar y wasg 'berffeithio' sy'n galluogi argraffu dwy ochr ar yr un prydFfynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Jenkins ar y wasg 'berffeithio' sy'n galluogi argraffu dwy ochr ar yr un pryd

Mae gyrfa oes o weithio fel argraffydd yng ngwasg Y Lolfa yng Ngheredigion "wedi bod yn gyfnod hynod hapus" i Geraint Jenkins, sydd newydd ymddeol wedi 49 mlynedd yn yr un swydd.

Mae wedi gweld newidiadau mawr yn y cwmni yn Nhal-y-bont dros y cyfnod, a'r busnes yn mynd "o nerth i nerth".

Yn y cyfamser dywed sefydlydd Y Lolfa, Robat Gruffudd, bod cyfraniad Geraint wedi bod "yn eithriadol" a bod "cyhoeddi ac argraffu o dan yr un to" yn gyfrifol am lwyddiant y cwmni.

Cafodd Y Lolfa ei sefydlu fel gwasg fasnachol yn 1967 a hynny ar adeg pan oedd deffroad gwleidyddol ac ieithyddol yng Nghymru, a rhan o'r weledigaeth gynnar oedd creu deunyddiau bywiog, heriol, lliwgar a phoblogaidd.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Gwasg Y Lolfa yn ystod y dyddiau cynnar

Ymunodd Geraint Jenkins yn 1974 o bentref cyfagos Llan-non - roedd newydd gwblhau cwrs ffotograffiaeth yn y Coleg Addysg Bellach yn Aberystwyth ac yn chwilio am waith.

"Mae'r cwmni a'r gwaith argraffu wedi newid llawer ar hyd y blynyddoedd," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

"Mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth - cwmni teuluol wrth gwrs, sydd bellach yn cael ei redeg gan ddau fab Robat.

"Ychydig iawn o staff ro'n i ar y dechrau ac ro'n i wedi'n lleoli yn yr Emporiwm yng ngwaelod Tal-y-bont, a fy job i oedd trin y peiriant offset-litho - sef proses argraffu lle mae inc yn cael ei drosglwyddo o blât neu garreg i arwyneb rwber ac o'r arwyneb hwnnw i bapur.

O bosteri gwleidyddol i bapurau bro

"Ro'dd y cyfan yn hynod ddiddorol a'r dull yma o argraffu yn allweddol i lwyddiant y cwmni - fe ddaeth y syniad yn sgil cyhoeddi cylchgronau gwrth-sefydliadol fel Private Eye. Dim ond teipiadur a Letraset oedd ei angen i gynhyrchu cylchgrawn.

"Ro'dd 'na gryn gynnwrf wrth i ni argraffu mwy a mwy o gylchgronau a llyfrau - drwy ddefnyddio'r dull hwn o argraffu roedd modd bod yn fentrus ac ro'n i'n gallu argraffu deunyddiau anturus a gwahanol."

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Warws Y Lolfa lle dechreuodd Geraint Jenkins fel argraffydd

Yn y dechrau roedd gan y Lolfa gysylltiad anffurfiol â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu'n argraffu'r cylchgrawn misol - Tafod y Ddraig - am gyfnod a'r Lolfa, yn 1969, a greodd logo presennol y gymdeithas.

"Roedd 'na nifer fawr o bosteri gwleidyddol a deunydd ar gyfer grwpiau pop ar y dechrau ac yn eu tro fe ddaeth y papurau bro ac mae'r Lolfa yn argraffu 17 o bapurau bro bellach.

"Erbyn hyn mae'n broses gyfrifiadurol a llawer iawn cyflymach gyda'r cwmni yn cynnig gwasanaeth argraffu ar beiriant pump lliw.

"Ond rwy'n credu mai'r hyn fydd yn aros gyda fi ar ôl bron i hanner canrif yw'r gwmnïaeth arbennig - mor braf oedd cael gweithio i gwmni lleol ymhlith ffrindiau oes, a braf oedd gweld y cwmni yn datblygu a symud i'w gartref presennol yn yr Hen Orsaf Heddlu yn Nhal-y-bont," ychwanegodd Mr Jenkins.

'Wedi safio ffortiwn'

Roedd cael person fel Geraint yn gwbl allweddol i lwyddiant y cwmni, meddai Robat Gruffudd a sefydlodd Y Lolfa gyda'i wraig Enid.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Jenkins newydd ymddeol o'i waith fel argraffydd yn Y Lolfa wedi 49 mlynedd

"Rwy'n cofio'n iawn o'dd enw da gan Geraint pan o'dd e'n helpu mas yn y garej yn Llan-non a doedd 'na neb tebyg iddo am newid gearbox!

"Ro'dd Geraint, heb os, yn beirannydd hynod o dda. Ro'dd e'n amyneddgar ac yn gallu datrys unrhyw broblem o'dd yn golygu bo ni fel cwmni yn gallu safio ffortiwn.

"Doedd dim rhaid ffonio pencadlys y cwmni yn Lloegr a thalu £1,000 am anfon peiriannydd - ro'n i'n gallu 'neud e i gyd yn lleol."

Ychwanega Mr Gruffudd, sydd bellach yn 80 a sy'n parhau i fynd mewn i swyddfa'r Lolfa yn achlysurol, bod argraffu popeth yn fewnol yn un o gryfderau'r cwmni.

"Ma' hanner ein trosiant ni yn dod o gyhoeddi a'r hanner arall o argraffu - ni'n argraffu i bob math o gwmnïau a sawl papur bro bellach gan gynnwys rhai ym Môn a Meirionnydd.

"Ychydig iawn o gwmnïau sy'n cyhoeddi ac argraffu ond o wneud popeth yn fewnol mae modd rheoli costau ac ansawdd ac mae'n destun balchder ein bod yn gallu cyflogi pobl lleol fel Geraint drwy'u hoes."

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Rob Davies ac Euros Davies, argraffwyr presennol Y Lolfa gyda'r wasg pum lliw ar gyfer argraffu lliw llawn

Roedd y cyfnod cychwynnol yn un llawn cyffro, ychwanega Mr Gruffudd, gyda dyfodiad y peiriannau offset-litho bach ac er bod sawl chwyldro wedi bod yn y byd argraffu dyw'r dechnoleg ddim wedi newid llawer.

"'Nes i ambell gamsyniad, cofiwch, yn y dyddiau cynnar gan brynu un peiriant gwael iawn ond mae rhywun yn dysgu ac yn elwa o brofiad argraffwyr eraill.

"Mae'r peiriannau erbyn hyn yn llawer mwy soffistigedig, wrth gwrs, ac mae'r peiriant pump lliw sy'n globyn 15 tunnell wedi gwneud bydysawd o wahaniaeth ac hefyd y peiriant 'perffeithio' sy'n galluogi ni i argraffu dwy ochr ar yr un pryd."

Dau fab Robat ac Enid Gruffudd sy'n rhedeg y cwmni bellach - Garmon yn rheolwr gyfarwyddwr a Lefi yn bennaeth cyhoeddi - a'r hyn sydd wastad wedi bod yn bwysig yw "peidio sefyll yn llonydd", medd Mr Gruffudd.

"Mae yna ddatblygiadau yn y maes o hyd ac mae'r llyfr, er bod nifer wedi darogan bod ei oes ar ben, dal yn boblogaidd, diolch byth.

"Be 'da ni'n ei weld ar hyn o bryd yw bod llyfrau twristiaeth, llyfrau dysgu Cymraeg a llyfrau cenedlaetholgar yn boblogaidd ond mae mwy mae rhywun yn gallu ei wneud o hyd i hyrwyddo gwerthiant - rhaid peidio bod yn segur!"

Ond a fydd Geraint yn segur wedi ei ymddeoliad?

"Dwi ddim wedi meddwl rhyw lawer eto am y dyfodol," meddai, "ond gan fod gen i 'fotor home' dwi'n debygol felly o deithio ychydig fan hyn a fan draw a mynd nôl i Dal-y-bont i ymweld â ffrindiau oes."