Trystan Ellis-Morris: 'Bydd Dad yno efo fi'

Trystan yn cyflwynoFfynhonnell y llun, Trystan Ellis-Morris
  • Cyhoeddwyd

"Mae rhywun yn gorfod delio efo'r annhegwch a phob math o bethau sy'n dod yn sgil galar. Does 'na ddim sens i gael – dydy o ddim yn gwneud sens. Dydy o byth yn mynd i 'neud sens."

Mae’r cyflwynydd Trystan Ellis-Morris wedi bod yn rhan annatod o raglenni Eisteddfod yr Urdd ar S4C ers 14 o flynyddoedd.

Ond mae eleni yn mynd i fod yn brofiad gwahanol iawn iddo wedi iddo golli ei dad yn sydyn ar noswyl Nadolig 2023.

Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw cyn iddo gychwyn wythnos o’n tywys ni drwy gystadlu ac hwyl yr Urdd ym Meifod, mae Trystan yn rhannu pa mor bwysig oedd dylanwad ei dad, Ieuan Morris, ar ei fywyd a’i yrfa a rôl allweddol yr eisteddfod yn ei fagwraeth.

"Yn amlwg oedd Mam a Dad yn rhai oedd yn dod yn flynyddol i’r Urdd," meddai.

"Oedd Dad wrth ei fodd yn dŵad i weld fi a chael dod i’r stiwdio. Roedd o’n wirioneddol yn un o’r tadau balch 'na i gael dweud mod i’n gwneud yn o'reit.

"Mae meddwl am 'neud o [cyflwyno’r Eisteddfod] heb wybod fod o yno, heb y text bach dyddiol 'na yn dweud ‘da iawn heddiw mêt’ - mae’n wirioneddol yn od meddwl bod hwnna ddim yn mynd i ddigwydd.

Ffynhonnell y llun, Trystan Ellis-Morris
Disgrifiad o’r llun,

Trystan a'i dad Ieuan Morris

Galar

"'Da ni’n symud ymlaen ac yn addasu ac mae’n rhan o’r broses o fynd trwy alar – mae’n brofiad hollol estron i mi. Do, 'nes i golli Taid sawl blwyddyn yn ôl ond mae’r glec mae rhywun yn teimlo o golli rhiant wirioneddol yn rhywbeth anesboniadwy.

“Mae’n sicr yn rhywbeth sy’n chwarae ar fy meddwl i. Dwi wedi colli fy llais dros y dyddiau diwethaf - ella bod o’n elfen o alar yn dod allan mewn ffyrdd gwahanol.

“Ti’n sôn am noswyl Nadolig sy' cwta pedwar mis a hanner yn ôl, dydy o ddim yn ddim byd.

“Dwi ddim yn gwybod os ydw i wedi cychwyn ar y broses yn iawn eto - achos bod o 'di digwydd yn y ffordd wna'th o, achos bod o wedi digwydd mor sydyn gath neb amser i 'neud na deud dim byd.

“'Nath o ddigwydd fel switsh a do’n i digwydd bod ddim adra ac heb weld o ers mis Tachwedd.

“Mae rhywun yn gorfod parcio, a derbyn, addasu a trio symud ymlaen.

“Mae’n hitio chdi ar adegau pan ti ddim yn meddwl amdano fo - mae 'na arogl neu gerdyn pen-blwydd ti’n dod o hyd iddo fo.

“Ac mi fuasai Dad yn 70 mis nesaf. Mae’r cerrig milltir bach cyntaf 'na yn mynd i fod yn anodd.”

Magwraeth

Roedd ei dad yn eisteddfotwr brwd ac mae’n rhoi cysur i Trystan ei fod yn gweithio ar ŵyl oedd yn rhan mor bwysig o’i fywyd.

Bydd y cyflwynydd hefyd yn gwisgo rhywbeth arbennig er cof am ei dad.

"Mae gynna’i fodrwy briodas Dad a bydd honno ar fy mys i drwy’r cyfan so mae’n teimlo fatha bod o yno efo fi a’n gwneud yn siŵr bod fi’n oce.

"Pan dwi’n cael y foment yna pan dwi’n teimlo pwysau llethol ar fy ysgwyddau i, dwi’n meddwl fydd o yno i ysgafnhau ambell i beth ac i sychu ambell i ddeigryn.

"Achos bod fi wedi cael fy nwyn i fyny yn cystadlu ac yn mynd yn flynyddol mae’n syreal mod i’n 'neud y gwaith achos o’n i ddim yn methu dim o’r Urdd adra, oeddan ni wastad yn gwylio o’r tŷ so mae gwneud y job rŵan yn freuddwyd.”

Bu’n cystadlu fel plentyn efo Ysgol Brynrefail, Llanrug ac yn fwy diweddar efo Aelwyd yr Ynys, Ynys Môn ond ni fu’n cystadlu yn unigol.

"Oeddan ni’n gwneud ymgom a chystadlaethau torfol ond d’on i byth yn 'neud dim byd ar ben fy hun achos o’n i rhy swil," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Trystan a'i chwaer Jeni

"Be’ mae’r Urdd wedi 'neud ydy rhoi llwyfan i bobl fel fi oedd fymrym bach yn swil – yn gwneud y cystadlaethau torfol 'na ti yn magu hyder o fynd ar y llwyfan, perfformio efo dy ffrindiau, cael beirniadaeth.

"Nid yn unig mae o'n rhoi profiad ond mae o'n rhoi sgiliau sylfaenol bywyd i chdi hefyd o ran bod yn aelod o rhywbeth a gorfod cydymffurfio efo ymarferion.

“Dwi wedi elwa o ran profiad a magu hyder sy' wedi galluogi fi i astudio cwrs perfformio yn y Drindod. Oni bai am brofiadau fel yr Urdd dros y blynyddoedd dwi ddim yn meddwl buaswn i wedi dilyn gyrfa ym myd perfformio.

“Dwi’n meddwl bod fi wedi cael y blas a’r awch gan yr Urdd sy' wedi arwain fi i 'neud y job dwi’n 'neud heddiw.”

Llwyfan

Ac mae Trystan, sy' newydd symud i Abergele ar ôl 10 mlynedd yn Llundain, yn edrych ymlaen at wythnos brysur o gyflwyno Eisteddfod yr Urdd ym Meifod ar S4C.

“Mae’r egni a’r brwdfrydedd ti’n ennill o 'neud y gwaith ac hefyd o weithio efo’r pobl orau yn y diwydiant, mae’n cymaint o fraint cael dod â’r eisteddfod yn fyw.

“Rhan fechan dwi’n chwarae yn hynny oll. Dwi yno fel drych i’r Urdd i bobl adra sy' methu dod i Faldwyn. Mae’r fraint mae rhywun yn ei deimlo o allu gwneud hynny, mae’n gallu llorio rhywun weithiau.

“Hogyn cyffredin o Ddeiniolen ydw i, dwi ddim wedi cael magwraeth ym myd teledu – does neb o’n nheulu i erioed wedi gweithio yn y diwydiant.

“Mae’n gallu bod yn brofiad emosiynol i fi a Heledd – sawl gwaith 'da ni wedi cael ambell i ddeigryn, yn gyfuniad o flinder a falchder.

“Ond mae’n teimlo fel bod ti’n eistedd tu ôl y ddesg efo dy ffrind gorau di achos mae fi a Heledd yn ffrindiau mawr yn cael hwyl a jôc a joio beth yda ni’n 'neud.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Mae cydweithio gyda Heledd yn wirioneddol gymaint o trit. Mae hi yn berson sbeshal," meddai Trystan

“Pan ti’n eistedd yna am yr wythnos gyfan yn gwylio bob un cystadleuaeth – mae’n wirioneddol yn llorio ti, y talent sy'na. Mae’r bar wastad yn cael ei godi yn flynyddol yn enwedig yn y rhai offerynnol.

“Achos fod gen i gefndir offerynnol dwi’n rhyfeddu yn flynyddol at ddawn y bobl ifanc yn y maes offerynnau. Sna'm rhyfedd fod 'na gymaint o enwau a thalent yn dod allan o Gymru.

“Yn amlwg be' mae’r Urdd yn 'neud ydy rhoi llwyfan cyson i dalentau ifanc Cymru boed hynny yn dalent ar y llwyfan, talent ysgrifennu, llên, chwaraeon, coginio, brodwaith, hyd yn oed colur a gwallt – dydyn nhw ddim yn gadael neb allan. Mae’r Urdd i bawb.

“Dwi ddim yn meddwl bydden ni fel Cymry yn bodoli heb yr Urdd. Mae’n sefydliad sy’n agos iawn at fy nghalon i.”

Ffynhonnell y llun, Trystan Ellis-Morris

Pynciau cysylltiedig