Ysgol Abersoch: 'Pwysig iawn i ni ei defnyddio hi'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch wedi ei lansio i droi hen ysgol bentref a gaeodd ei drysau dair blynedd yn ôl yn ganolfan gymunedol gwerth £500,000.
Er gwaethaf ymgyrch i'w chadw ar agor fe gaeodd Ysgol Babanod Abersoch yn 2021 wedi i nifer y disgyblion syrthio i lai na 10.
Gydag Abersoch yn adnabyddus fel cyrchfan i dwristiaid ond hefyd â chyfran uchel o ail gartrefi, roedd pryder byddai cau'r ysgol yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg.
Ond bwriad Menter Rabar yw adfywio'r adeilad - a agorodd ei drysau union 100 mlynedd yn ôl - at ddiben y pentref a'r cymunedau cyfagos.
Pe bai'r cynllun yn cael ei wireddu fe fyddai'r ganolfan newydd yn cynnwys caffi a theras, gardd, arddangosfa ar dreftadaeth Abersoch ac unedau busnes i’w rhentu.
Anna Jones - cyn-brifathrawes yr ysgol ac aelod o'r fenter - ac Einir Wyn - yr ysgrifennydd - fu'n rhannu'r hanes â BBC Cymru.