Nic Parry yn ymddeol fel barnwr wedi 15 mlynedd

Mae Nic Parry hefyd yn adnabyddus am ei waith fel sylwebydd chwaraeon ar S4C a Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Nic Parry yn ymddeol fel barnwr wedi 15 mlynedd yn y swydd.
Cafodd ei dderbyn fel cyfreithiwr yn 1982 cyn cael ei benodi yn farnwr cylchdaith yn 2010.
Fe dreuliodd gyfnod hefyd fel cofiadur ar ddechrau'r ganrif, ac roedd yn gyfarwyddwr ar bwyllgor hyfforddiant Cymru yn y Coleg Barnwrol rhwng 2013 a 2017.
Er iddo weithio am ddegawdau yn y byd cyfreithiol, efallai ei fod yn fwy adnabyddus am ei yrfa yn y byd chwaraeon.
Mae Nic Parry yn wyneb ac yn llais cyfarwydd i wylwyr Sgorio ar S4C a gwrandawyr Chwaraeon BBC Radio Cymru.
Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mae'n byw yn Llanbedr Dyffryn Clwyd gyda'i deulu.
Mewn datganiad brynhawn Llun, fe gadarnhaodd y farnwriaeth fod "ei anrhydedd y barnwr Niclas Iorwerth Parry yn ymddeol fel barnwr cylchdaith ar 7 Ebrill 2025".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2022