Llewyrch yr Arth - neu'r aurora borealis - yn goleuo'r nos ledled Cymru

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 7, Llandegla, Roedd y goleuadau i'w gweld yn glir yn Llandegla, Sir Ddinbych
  • Cyhoeddwyd

Unwaith eto eleni, mae Llewyrch yr Arth - yr aurora borealis - wedi cynnig gwledd o ddelweddau ar draws Cymru.

Mae'r golygfeydd i'w gweld oherwydd cyfuniad o'r golau gogleddol arferol a gweithgaredd anghyffredin ar wyneb yr haul - stormydd solar.

Mae sawl enw gwahanol am yr aurora borealis yn Gymraeg - Gwawl y Gogledd, Goleuadau'r Gogledd ac i eraill Ffagl yr Arth neu Lewyrch yr Arth.

Dyma galeri luniau uchod o'r golygfeydd trawiadol ledled y wlad nos Iau.

Pynciau cysylltiedig