Gruff Rhys i chwarae yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Dyma fydd y tro cyntaf i Gruff Rhys chwarae yn ystod wythnos yr Eisteddfod ers 2002, yn ôl Cymdeithas yr Iaith
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Gruff Rhys yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam fel rhan o ddigwyddiadau Cymdeithas yr Iaith.
Bydd prif leisydd y Super Furry Animals yn chwarae gyda band llawn yn y digwyddiad yn Neuadd William Aston ar gampws Prifysgol Wrecsam ar nos Wener 8 Awst.
Fe fydd Griff Lynch, Ynys a Wrkhouse hefyd yn perfformio ar y noson.
Dywedodd Nia Marshall, aelod o Bwyllgor Trefnu Lleol y Gymdeithas: "Dyma'r tro cyntaf ers 2002 i Gruff chwarae'n ystod wythnos yr Eisteddfod, a tydi o erioed wedi chwarae efo'r band llawn o'r blaen."
Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu bysiau o Neuadd William Aston ar ddiwedd y noson i faes carafanau yn Eisteddfod.
Fe fydd tocynnau yn mynd ar werth am 10:00 ar ddydd Mawrth 13 Mai.