Gething yn 'parhau â fy ngwaith' er gwaethaf beirniadaeth

Vaughan Gething Ffynhonnell y llun, BBC images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r prif weinidog wedi mynnu ei fod yn parhau â gofynion ei swydd er gwaetha'r ffrae ddiweddaraf wedi iddo ddiswyddo ysgrifennydd, a'r feirniadaeth ynghylch y rhoddion ariannol i'w ymgyrch arweinyddol.

Dywedodd Vaughan Gething bod tystiolaeth fod llun o ffôn Hannah Blythyn wedi ei yrru i wefan wnaeth gyhoeddi'r stori a arweiniodd at ei diswyddo.

Fe wnaeth gwefan Nation Cymru ddefnyddio'r llun i ddatgelu fod Mr Gething wedi dweud ei fod yn dileu negeseuon mewn grŵp ffôn oedd yn cynnwys gweinidogion ym mis Awst 2020, yn ystod y pandemig.

Fe ymddangos o flaen pwyllgor seneddol ddydd Gwener - ddiwrnod ar ôl i'r wefan ddweud nad Ms Blythyn oedd ffynhonnell y stori.

'Cwestiynu fy niffuantrwydd yn anodd'

Dywedodd Mr Gething wrth y pwyllgor nad oedd erioed wedi awgrymu fod Ms Blythyn wedi cysylltu'n uniongyrchol â Nation Cymru ond bod llun o'i ffôn hi wedi'i anfon atyn nhw.

Roedd y trafodaethau yn llawn tensiwn ar adegau wrth i Mr Gething gael ei holi ac fe gododd ei lais pan wnaeth rywun dorri ar ei draws.

"Dwi erioed wedi honni fod Hannah Blythyn wedi cysylltu'n uniongyrchol â Nation Cymru," meddai.

"Dwi'n dweud yn glir, gan fy mod wedi cael cadarnhad, bod llun o'i ffôn wedi ei ddarparu i Nation Cymru."

Dywedodd Mr Gething ei fod yn "anodd i mi wrth i bobl gwestiynu fy niffuantrwydd yn gyson", a'i fod o hyd wedi ceisio gwneud "y peth cywir, hyd yn oed pan oedd yn anodd i mi yn bersonol".

"Dyna be dwi'n neud eto," meddai. "A dyma ni eto, mwy o gwestiynau a mwy o awgrymiadau, sy'n cwestiynu diffuantrwydd a gweddustra."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Vaughan Gething gwrdd â phrif weinidog newydd y DU yr wythnos hon

"Mae'r llywodraeth yn parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith," meddai.

Wrth nodi enghrefftiau o hynny cyfeiriodd at y rhaglen ddeddfwraiethol a gyhoeddwyd yn y Senedd yr wythnos hon, y datrysiad wedi anghydfod tâl meddygon ysbyty a'i gyfarfod gyda phrif weinidog newydd y DU, Keir Starmer.

Cafodd y pwyllgor sy'n craffu ar waith y prif weinidog ei gynnal ym Mharc y Scarlets yn Llanelli ac mae'n cynnwys cadeiryddion pwyllgorau'r senedd.

'Parhau i osgoi cwestiynau pwysig'

Yn dilyn y sesiwn, dywedodd aelod Plaid Cymru Llyr Gruffydd: “Roedd hi braidd yn eironig bod Vaughan Gething wedi gwneud popeth posib i osgoi craffu yn sesiwn graffu’r Prif Weinidog.

“Mae’r Prif Weinidog yn parhau i osgoi cwestiynau pwysig.

"Pam wnaeth o ddileu negeseuon, yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru, a pham ei fod wedi methu â darparu negeseuon i ymchwiliad Covid y DU.

“Po hiraf mae’r Prif Weinidog yn gwadu maint y sgandal sydd o’i amgylch, yr hiraf y bydd pobl Cymru yn dioddef oherwydd anallu ei lywodraeth Lafur.”

Ychwanegodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies: “Gall y Prif Weinidog roi stop ar gwestiynau lletchwith trwy ryddhau’r dystiolaeth oedd yn sail i ddiswyddo Hannah Blythyn o’i lywodraeth.

“Ni ellir disgwyl i bobl Cymru ei gymryd ar ei air."