'Angen gwella safon prydau ysgol am ddim'

Mae angen i ginio ysgol fod yn fwy cost-effeithiol, yn iachach, ac yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, medd academydd blaenllaw
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru "ymhell" o gael rhwydwaith bwyd lleol a allai helpu i ddarparu prydau ysgol, yn ôl academydd blaenllaw.
Yng Nghymru, mae pob plentyn ysgol gynradd yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim.
Fe ddaeth polisi Llywodraeth Cymru i rym ym mis Medi 2022.
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales, dywedodd Kevin Morgan, Athro yn Adran Ddaearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, fod angen i brydau ysgol am ddim fod yn "fwy cost-effeithiol, yn iachach, ac yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd".
"Pe baem yn dymuno cael bwyd cwbl leol fel pryd ysgol yfory fyddai hynny ddim yn bosib," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym eisiau'r cynnig bwyd ysgol gorau yn y DU i roi'r dechrau iachaf i fywyd i'n plant.
"Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn golygu bod pob plentyn yn cael cynnig pryd maethlon.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol i gynnig y bwyd gorau posib mewn ysgolion. Dros y flwyddyn nesaf rydym yn diweddaru ac yn gwella ein rheoliadau bwyta'n iach."

Roedd yr Athro Kevin Morgan yn siarad bron i ddegawd ar ôl ffurfio Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dywedodd yr Athro Morgan, sy'n awdur y llyfr Serving the Public - the good food revolution in schools, hospitals and prisons fod angen codi ansawdd y prydau sy'n cael eu darparu.
"Ni yw'r wlad gyntaf, a'r unig wlad yn y DU sy'n cynnig prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd.
"Mae Cymru wedi ennill clod rhyngwladol am wneud hynny – ond, mae angen i ni godi ansawdd y bwyd hwnnw."
Roedd yr Athro Morgan yn siarad bron i ddegawd ar ôl ffurfio Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.
Cafodd y ddeddf – sy'n manylu ar y ffyrdd y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus penodedig weithio, a chydweithio i wella llesiant Cymru – ei chyflwyno yn y Cynulliad (y Senedd bellach) ym mis Ebrill 2015, a daeth i rym y flwyddyn ganlynol.
Ar y pryd, roedd y Cenhedloedd Unedig yn ystyried y ddeddf fel un oedd yn torri tir newydd.
Dywedodd yr Athro Morgan ei bod yn "ddeddf sydd i'w chanmol yn fawr" ond bod yna fwlch rhwng yr hyn y dymunir ei wneud a'r hyn sy'n digwydd.
"Mae angen cysylltu polisïau â phobl," ychwanegodd.
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd11 Mai 2023
Dywedodd Jane Davidson, cyn Weinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai Llywodraeth Cymru – ac a oedd yn rhannol gyfrifol am y ddeddf – fod y ddeddf wedi creu "Cymru yr oedd pobl wedi ymrwymo iddi".
"Eu geiriau nhw [pobl Cymru] sydd yn y ddeddf - deddf sydd wedi ei chreu ar gyfer pobl Cymru, gan bobl Cymru," meddai.
"Mae pobl wrth eu bodd â'r syniad o gael fframwaith cyfansoddiadol sydd nid yn unig yn gofalu am eu dinasyddion, ond sy'n gofalu am yr amgylchedd hefyd, yn ogystal â chymdeithas, a diwylliant.
"Mae'r rhain i gyd wrth galon y ddeddf."