Prydau ysgol: £2.90 fesul disgybl i gynghorau 'ddim yn ddigon'

  • Cyhoeddwyd
Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles bod £260m wedi'i ymrwymo i weithredu'r cynllun dros dair blynedd

Mae arlwywyr ysgolion yn dweud bod cost gynyddol bwyd yn golygu eu bod yn ei chael hi'n anodd cyflawni polisi prydau ysgol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Athro Kevin Morgan, arbenigwr bwyd ysgol o Brifysgol Caerdydd, fod angen i Lywodraeth Cymru ystyried cynyddu'r pris fesul pryd sy'n cael ei roi i awdurdodau lleol.

Ar hyn o bryd mae cynghorau Cymru yn cael £2.90 y plentyn fesul pryd ar gyfer prydau ysgol gynradd.

Gosodwyd y pris hwn gan Lywodraeth Cymru pan gyflwynwyd y polisi prydau ysgol newydd fis Medi diwethaf.

Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Kevin Morgan: 'Nid yw £2.90 erbyn hyn yn gyfradd hyfyw'

Bydd y cam nesaf o ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd yn dechrau ym mis Medi 2023, a'r nod yw cynyddu'r cynnig i'r rhan fwyaf o ddysgwyr ym mlynyddoedd tri a phedwar.

Bydd y cynllun wedyn yn ehangu ymhellach ym mis Ebrill 2024, gan gyrraedd blynyddoedd pump a chwech.

Dywedodd yr Athro Morgan nad yw £2.90 "erbyn hyn yn gyfradd hyfyw yn fy marn i".

"Yn amlwg mae angen edrych ar hynny eto," meddai.

Dywedodd ei bod yn bwysig bod y bwyd sydd ar gael i blant yn ddeniadol ac o safon uchel er mwyn lleihau gwastraff.

Dywedodd Brad Pearce, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas Arlwywyr Awdurdodau Lleol, bod y sefyllfa yn anodd i arlwywyr ysgolion ledled Cymru.

Esboniodd fod eu haelodau wedi gweld cynnydd o 20% ar bris pethau fel llaeth, caws, cig a ffrwythau a llysiau.

"Yn gronnol byddwn wedi gweld cynnydd rhwng 50 a 70% ers mis Mai y llynedd."

'Ansawdd gorau'

Dywedodd Mr Pearce fod angen i'r cyllid fesul pryd godi gyda chwyddiant er mwyn galluogi arlwywyr i brynu cynnyrch o ansawdd da.

"Mae angen i ni adolygu'r rheini... i gymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn costau bwyd fel y gallwn brynu'r cynnyrch lleol, ffres i gynhyrchu prydau o'r ansawdd gorau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Siân Gwenllian AS: "Cynllun sydd ei angen rŵan yn fwy nag erioed"

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae chwyddiant bwyd wedi cynyddu bron i 5% ers mis Medi (o 14.6 i 19.2%).

Erbyn mis Ebrill, roedd pob plentyn yn y dosbarth derbyn, blwyddyn un a blwyddyn dau i fod i fod wedi cael cynnig pryd ysgol am ddim.

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion Cymru wedi cyrraedd y targed hwnnw ond nid pob un ohonynt.

Yn Ysgol Gynradd Blaenhonddan yng Nghastell-nedd Port Talbot, bu'r cyflwyniad yn waith caled ond yn llwyddiant.

Dywedodd y pennaeth Gayle Major fod rhieni "wrth eu bodd" gyda'r polisi newydd ond bod "heriau sylweddol" i'w roi ar waith.

"Roedd angen iddo fod yn ddull ysgol gyfan, gyda'r llwyth gwaith ychwanegol y mae'n dod i'r ysgol, ac mae parodrwydd y staff yn y gegin ac o fewn fy staff fy hun i gymryd y cyfrifoldeb ychwanegol wedi ei alluogi i fod yn llwyddiant."

Mae'r ysgol wedi cyflogi dau aelod ychwanegol o staff parhaol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw.

'Canolbwyntio ar ddysgu'

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Rydyn ni'n gweithio ar gyflymder i sicrhau bod pob plentyn ysgol gynradd yn elwa ar bryd ysgol maethlon ac nad oes yr un plentyn yn llwgu.

"Rydyn ni'n gwybod pa mor anodd yw hi i deuluoedd ar hyn o bryd yn ystod yr argyfwng costau byw.

"Mae'r cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i deuluoedd, gan ddarparu pryd maethlon i helpu plant i ganolbwyntio ar ddysgu."

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Siân Gwenllian: "Rydyn ni wedi darparu miliynau o brydau ysgol am ddim ers dechrau cyflwyno'r cynllun hwn sy'n newid bywydau. Cynllun sydd ei angen rwan yn fwy nag erioed.

"Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cyhoeddi rhagor o fanylion ynglŷn ag ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2024, gan ddangos sut mae cydweithio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."

Pynciau cysylltiedig