'Plant yn llwglyd ar ôl bwyta cinio ysgol'

Plant yn y ffreutur yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Guto, Cari, Hanna a Cleo yn cael cinio rhost yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan

  • Cyhoeddwyd

Mae angen edrych eto ar faint prydau ysgol, wrth i ddisgyblion ddweud yr hoffen nhw gael mwy o fwyd, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Dywedodd Rocio Cifuentes bod holiadur gan ei swyddfa ar farn plant am ginio ysgol, yn awgrymu mai lleiafrif oedd yn teimlo'n llawn ar ôl eu bwyta.

Mae hi felly'n dweud bod angen newid y canllawiau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fyddan nhw'n edrych eto ar yr argymhellion iechyd diweddaraf ar faeth plant, gan gynnwys maint prydau.

Disgrifiad o’r llun,

Cinio rhost yn Ysgol Bro Pedr

Porc, tatws, stwffin, llysiau a grefi oedd ar y fwydlen yn Ysgol Bro Pedr, ac mae'n llond bol i Cari sydd ym mlwyddyn 6.

Ond dydy pob pryd ddim yn ei llenwi, meddai.

"Ma' rhai prydau, ma' digon o fwyd ynddyn nhw. Fel heddi ni’n cael cinio rhost i ginio, a ma' digon o fwyd gyda hwnna.

"Ond gyda rhai pethe ni’n cael.... s'dim digon i fi, achos fi’n bwyta lot."

Cyri yw hoff fwyd Cari yn yr ysgol yn Llanbedr Pont Steffan - ac mae'n ffefryn i Cleo hefyd.

Mae Cleo'n credu bod digon o fwyd i gael.

"I fi yn bersonol, ydw, achos fi ddim yn bwyta llawer, ond fi’n gwbod bod pobl arall yn bwyta mwy,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai prydau'n llenwi'r plant yn fwy nag eraill, a rhai o'r disgyblion yn bwyta mwy na'i gilydd

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru'n awgrymu y dylai plant cynradd a phlant uwchradd dderbyn prydau maint gwahanol.

Ond yn ôl y Comisiynydd Plant, fe glywodd ei harolwg gwynion gan ddisgyblion hŷn mewn ysgolion cynradd eu bod yn cael yr un maint o fwyd â phlant pedair a phump oed.

Fe atebodd 490 o blant rhwng saith a 18 oed yr holiadur.

Cymerodd 1,250 yn rhagor o blant ran mewn sesiynau grŵp, a staff yn cofnodi a nodi barn y disgyblion.

Mwy o fwyd oedd yr ymateb mwyaf cyffredin pan oedd plant yn cael eu holi sut allai cinio ysgol wella, yn ôl y comisiynydd.

Mae hynny'n bryder i Rocio Cifuentes yn enwedig "yn yr argyfwng costau byw presennol" gan fod "cymaint o blant yn dibynnu ar y cinio ysgol hwnnw fel eu prif bryd bwyd".

'Angen ychydig bach yn fwy o fwyd'

Mae casgliadau'r holiadur yn rhywbeth sy'n cydfynd â'r hyn mae pennaeth cynorthwyol, Ysgol Bro Pedr, Nia Lloyd-Evans yn ei weld ar brydiau.

"Mae’r plantos bach yn amlwg ddim yn bwyta gyment a beth fydde disgyblion blwyddyn 5 a 6 hŷn yr ysgol, a ma’r gegin yn ofalgar iawn ac yn ymwybodol o pwy sydd yn hoffi’u bwyd ac maen nhw’n ymwybodol o’r plant sydd gyda ni 'ma."

Mae'n bwysig addasu'r ciniawau, meddai.

"Yn amlwg does dim pwrpas codi llond plât i ddisgybl bach tair oed, ond os y’n nhw am fwy o fwyd yna ma' 'na gyfle iddyn nhw gael ychydig yn rhagor os dy'n nhw wedi bennu y plât cynta’."

Disgrifiad o’r llun,

Nia Lloyd-Evans yw pennaeth cynorthwyol Ysgol Bro Pedr, Llambed

Fel rhan o'u cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cinio ysgol am ddim i holl ddisgyblion cynradd Cymru.

Yn ôl y Comisiynydd Plant, mae hynny'n "wych" ond mae'n rhaid iddo "gwrdd ag anghenion plant, er mwyn cyflawni ei lawn botensial".

"Os yw plant neu deuluoedd yn penderfynu peidio â chymryd y cynnig cinio ysgol am ddim oherwydd nad ydyn nhw'n teimlo bod y pryd yn ddigonol o ran maint neu ansawdd, fe allai hynny danseilio'r cynllun," meddai Ms Cifuentes.

Mae ei geiriau yn adleisio barn swyddogion Cyngor Sir Fynwy, sydd eisoes wedi codi pryderon bod y prydau'n rhy fach i ddisgyblion hŷn ac yn rhy fawr i'r rhai ieuengaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r canllawiau ar gyfer prydau ysgol "yn fuan"

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n adolygu canllawiau ar brydau ysgol yn fuan.

Yn ôl llefarydd mae'r canllawiau presennol yn awgrymu "maint prydau sy'n wahanol rhwng lleoliadau cynradd ac uwchradd".

Ychwanegodd y byddai'r broses ymgynghori yn holi barn plant, pobl ifanc a rhieni am unrhyw newidiadau ar gyfer bwydydd ysgol ac yn "ystyried y canllawiau iechyd diweddaraf ar gyfer maeth plant, gan gynnwys maint prydau bwyd".