Rhybudd y bydd cwmnïau'n symud dramor yn sgil oedi cyflwyno tanwydd hydrogen

Ceir tanwydd Hydrogen ym Mae Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae ceir sy'n rhedeg ar danwydd hydrogen yn allyrru dŵr yn unig

  • Cyhoeddwyd

Fe allai busnesau symud dramor oherwydd gweithredu araf wrth gyflwyno tanwydd hydrogen i’r DU, yn ôl un cwmni dosbarthu nwy.

Dywedodd Wales and West Utilities (W&WU) y gallai elfen gystadleuol y wlad fod o dan fygythiad.

Yn ôl cyfarwyddwr rheoleiddio W&WU, Sarah Williams, fe allai cwmnïau mawr chwilio am ffynonellau tanwydd glanach dramor "os na fyddwn ni, fel gwlad, yn gwneud rhai penderfyniadau ynghylch hydrogen yn fuan".

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn asesu diogelwch hydrogen a’i gwerth am arian, ac y byddai'n cyhoeddi’r canfyddiadau maes o law.

Mae hydrogen yn cael ei ystyried yn danwydd glân oherwydd nid yw'n rhyddhau nwyon niweidiol pan gaiff ei ddefnyddio.

Mae cerbydau sy'n rhedeg ar hydrogen, er enghraifft, yn allyrru dŵr yn unig.

Gallai cynhyrchu hydrogen hefyd fod yn dda i'r amgylchedd os caiff y broses ei bweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, fel tyrbinau gwynt neu baneli solar.

'Angen bod ar flaen y gad'

Fel perchennog 35,000km o bibellau nwy, mae gan W&WU fudd masnachol o unrhyw gynllun i gyflwyno hydrogen fel tanwydd.

Dywedodd Ms Williams mai dyfodiad tanwydd hydrogen ar raddfa eang oedd "yr amser mwyaf cyffrous erioed" i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant ynni.

Ond ychwanegodd bod oedi wrth wneud penderfyniadau yn peri pryder.

"Rwy’n meddwl bod risg y bydd rhai busnesau yn dewis mynd dramor, os na fyddwn ni, fel gwlad, yn gwneud rhai penderfyniadau ynghylch hydrogen yn fuan.

"Rwy'n credu y gallai ein helfen gystadleuol fod mewn perygl," meddai Ms Williams.

Ffynhonnell y llun, Wales & West Utilities
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sarah Williams bod angen i'r llywodraeth wneud penderfyniad ar hydrogen yn fuan iawn

Un dechneg sy’n cael ei ystyried gan Lywodraeth y DU yw galluogi hydrogen i gael ei gymysgu gyda nwy yn y pibellau presennol, gyda’r posibilrwydd y gall busnesau a phrosesau diwydiannol ei dynnu a’i defnyddio.

Ond mae angen i'r llywodraeth wneud penderfyniad ynghylch caniatáu hydrogen cymysg i mewn i rwydweithiau pibellau presennol, ychwanegodd Ms Williams.

"Os gallwn ni gael hyd at 20% o hydrogen i mewn i’n pibellau presennol, fe allen ni arbed chwe miliwn o dunelli o garbon, sy’n cyfateb i gymryd dwy filiwn a hanner o geir oddi ar y ffordd."

Gallai cymorthdaliadau tebyg i’r rhai a rhoddwyd i’r diwydiant ynni gwynt helpu i ddod â chostau cynhyrchu hydrogen i lawr "oddeutu 60%" dros y degawd nesaf, meddai Ms Williams.

'Amser mwyaf cyffrous'

I'r rhai sy'n hyrwyddo posibiliadau hydrogen ar gyfer busnes, mae angen bachu’r cyfle.

Dywedodd Sarah Williams: "Hoffwn yn fawr i'n gweld ni ar flaen y gad.

"Ar ôl gweithio ym maes ynni am bron i 30 mlynedd, i mi yn bersonol, dyma’r amser mwyaf cyffrous erioed i ni ym myd ynni," ychwanegodd.

"Ac rydw i mor awyddus i weld hydrogen yn rhan o’r dyfodol hwnnw."

Mae'r rhan fwyaf o hydrogen yn cael ei echdynnu ar hyn o bryd gan ddefnyddio proses ynni-ddwys sy'n allyrru carbon deuocsid i'r atmosffer, er ei bod yn bosib dal rhywfaint o’r carbon a'i storio.

Ond gellir cynhyrchu hydrogen ‘gwyrdd’ trwy ddefnyddio gwynt neu baneli solar i bweru electrolyswyr sy’n hollti moleciwlau dŵr yn hydrogen ac ocsigen.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae lle i hydrogen gael ei ddefnyddio fel tanwydd trafnidiaeth trwm," meddai George Dodd

Mae cefnogwyr hydrogen yn hyrwyddo’r defnydd o hydrogen gwyrdd fel rhan o drawsnewidiad y DU i economi sero net.

Bydd gwaith Hybont ym Mrynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr yn creu hydrogen i'w ddefnyddio mewn cerbydau a phrosesau diwydiannol.

"Bydd ein prosiect yn cymryd pŵer adnewyddadwy o brosiect solar, ac yn cynhyrchu hydrogen - a’r hydrogen wedyn yn cael ei ddefnyddio fel tanwydd carbon isel," esboniodd George Dodd.

Fel uwch is-lywydd Marubeni Europe, cwmni sydd â’i bencadlys yn Japan, mae wedi goruchwylio datblygiad y gwaith cynhyrchu hydrogen ar ystâd ddiwydiannol Brynmenyn.

Mae'n un o nifer o brosiectau ar raddfa fach sy'n ceisio cynhyrchu tanwydd at ddefnydd masnachol.

"Mae lle iddo gael ei ddefnyddio fel tanwydd trafnidiaeth trwm. Felly ar gyfer bysiau, cerbydau nwyddau trwm, loriau casglu sbwriel," meddai Mr Dodd.

"Ond gall ei ddefnyddio hefyd mewn rhai prosesau diwydiannol sy’n defnyddio hydrogen… neu fel tanwydd ar gyfer gwresogi."

Protestio

Mae Marubeni yn gobeithio y gall busnesau lleol ddefnyddio’r hydrogen o Ben-y-bont ar Ogwr.

Mae’r cwmni wedi cyflwyno cerbydau sy’n cael eu pweru gan hydrogen yn ystod treial yn yr ardal leol i ddangos y posibiliadau.

Nid yw cymdogion agos i’r gwaith arfaethedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gyd wedi croesawu’r ffocws ar danwydd hydrogen, ac maen nhw wedi protestio yn erbyn ei adeiladu.

Roedd Mr Dodd yn derbyn bod "rhai pryderon yn y gymuned".

Ond dywedodd eu bod yn rhan o "broses o ymgysylltu â’r gymuned" i dawelu meddwl pobl am y mesurau diogelwch sy’n cyd-fynd â chynhyrchu hydrogen.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Chris Foxall, cwmni Hyppo, mae Hydrogen "wedi cael ei ddefnyddio yn y farchnad, yn ddiogel iawn, ers blynyddoedd"

I efengylwyr hydrogen fel Chris Foxall, mae'n hen bryd cyflwyno'r tanwydd yn eang.

"Rwy’n credu mai silver bullet yw hydrogen, mewn gwirionedd," meddai Mr Foxall wrth BBC Cymru mewn digwyddiad i hybu pŵer hydrogen.

Mae ei gwmni, Hyppo, wedi ei leoli yn Abertawe ac yn cynhyrchu tanwydd hydrogen ar gyfer trafnidiaeth a phŵer.

"Y gwir amdani yw y gallwch chi ei wneud o ddŵr ac ynni adnewyddadwy. Gallwch ei storio'n ddiogel. Gallwch ei ailddefnyddio, ac mae'n mynd yn ôl i ddŵr.

"Ac mae wedi cael ei ddefnyddio yn y farchnad, yn ddiogel iawn, ers blynyddoedd."

Mewn datganiad dywedodd yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net eu bod yn "adeiladu’r sylfaen dystiolaeth angenrheidiol i benderfynu a yw cymysgu hydrogen yn cynnig gwerth strategol ac economaidd ac yn bodloni safonau diogelwch.

"Bydd gwerth am arian yn ffactor allweddol wrth benderfynu p’un ai i alluogi’r gwaith o gyfuno’n ehangach ar y rhwydwaith nwy, a byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau maes o law."