Y cyn-AS Nathan Gill wedi ei gyhuddo o droseddau llwgrwobrwyo

Nathan GillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Gill yn arweinydd UKIP Cymru am gyfnod

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-AS Nathan Gill wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau llwgrwobrwyo gan Heddlu'r Met.

Mae wedi ei gyhuddo o un cyhuddiad o gynllwynio i gyflawni llwgrwobrwyo o dan Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977, ac o wyth achos o lwgrwobrwyo o dan Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Llun, 24 Chwefror.

Mae'r ymchwiliad wedi'i arwain gan dditectifs o adran gwrthderfysgaeth y Met. Fe gafodd ei gyfweld yn flaenorol ym mis Mawrth 2022 mewn cysylltiad â honiadau o lwgrwobrwyo.

Roedd Mr Gill, sy'n 51 oed, yn arweinydd UKIP Cymru am gyfnod, ac fe gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru yn 2016.

Gadawodd ei sedd yn y Cynulliad yn Rhagfyr 2017, wedi i Neil Hamilton ei ddisodli fel arweinydd y grŵp.

Bu hefyd yn un o Aelodau Senedd Ewrop Cymru ar ran UKIP.

Yn ddiweddarach ymunodd â phlaid Brexit, ac wedyn plaid Reform cyn gadael y blaid honno hefyd.

Pynciau cysylltiedig