Cais am do newydd i adeilad Coleg Harlech yn sgil pryder am ei gyflwr
- Cyhoeddwyd
Mae "pryder sylweddol" am gyflwr adeilad rhestredig Gradd II yng Ngwynedd a oedd yn arfer bod yn goleg addysg i oedolion.
Daeth Coleg Harlech yn adnabyddus fel coleg preswyl ar gyfer pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol gan ddarparu cyfleoedd iddyn nhw ailhyfforddi.
Ond yn sgil cau'r safle - oedd hefyd yn cynnwys Theatr Ardudwy - yn 2018, mae pryderon pellach wedi'u codi ynglŷn â chyflwr yr adeiladau.
Mae hynny wedi sbarduno cynlluniau i osod to dros dro ar yr hen goleg i'w amddiffyn rhag difrod pellach.
'Lladrad a fandaliaeth'
Cafodd gwaith atgyweirio brys ei wneud yn 2022 ac mae gwaith pellach ar y gweill y gaeaf hwn, gydag ailddatblygu safle Coleg Harlech yn parhau i fod yn uchelgais tymor hir.
Ond mae cais cynllunio sydd wedi ei gyflwyno i Barc Cenedlaethol Eryri yn datgan bod cyflwr safle Coleg Harlech, sy'n "sefyll yn wag a heb ei ddefnyddio", wedi gwaethygu ac "yn dioddef o ladrad plwm, fandaliaeth, mynediad gorfodol, a phrawf amser".
Gyda storfa'r theatr yn cael ei disgrifio fel "pryder sylweddol", mae cynlluniau wedi eu cyflwyno ar gyfer to dros dro "sydd ei angen ar frys" i atal dŵr pellach rhag treiddio i mewn.
Mae'r to presennol, yn ôl y cais, "wedi methu'n llwyr".
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021
Roedd y safle'n cael ei weithredu gan Addysg Oedolion Cymru o 2015 tan iddo gau fel canolfan addysg oedolion yn 2017.
Caeodd y theatr yn fuan wedyn ym mis Ebrill 2018, "ar ôl glynu mor hir â phosib, hyd yn oed pan gafodd blancedi eu dosbarthu i'r gynulleidfa i'w cadw'n gynnes pan dorrodd system y boiler".
Cafodd y safle ei werthu yn ddiweddarach mewn lotiau ar wahân ac mae bellach yn cael ei rannu rhwng amryw berchnogion gwahanol.
Addewidion 'twyllodrus' am y theatr
Yn 2021 fe gafodd cynlluniau i ailagor Theatr Ardudwy eu datgelu, gan gynnwys gwario £500,000 ar waith adnewyddu, gyda thalp o'r arian i fod i ddod gan Gyngor y Celfyddydau a'r Loteri Genedlaethol.
Ond yn ddiweddarach daeth i'r amlwg na fyddai'r cynlluniau hyn yn cael eu gwireddu, gydag ymchwiliad BBC Cymru a Newyddion S4C yn clywed bod y cynhyrchydd theatr ifanc oedd yn addo gwneud y gwaith wedi cael ei ddisgrifio fel "twyllodrus" ac yn "siarlatan".
Mae disgwyl i adran gynllunio Parc Cenedlaethol Eryri drafod y cais am do newydd dros dro yn ystod yr wythnosau nesaf.