Ysgol Llanrug yn 100: Yr un yw'r weledigaeth ers 1925

Llun o ddyddiau cynnar Ysgol LlanrugFfynhonnell y llun, Ysgol Llanrug
Disgrifiad o’r llun,

Llun o ddyddiau cynnar Ysgol Llanrug yn y 1920au

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol gynradd yng Ngwynedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed yr wythnos hon.

'Nôl ym mis Tachwedd 1925 agorwyd drysau Ysgol Gynradd Llanrug am y tro cyntaf.

Ond maen nhw'n dweud mai'r un ydy'r weledigaeth i'r pentref yn 2025 - yr iaith Gymraeg yn greiddiol, a safonau uchel.

"Mae'n rhan o'r weledigaeth i Lanrug, ei bod yn holl bwysig edrych ar ôl yr iaith Gymraeg," meddai'r pennaeth Nia Puw.

"Wrth gwrs, mae safon uchel a dydy hynny ddim byd newydd - mi ydan ni'n parhau i wneud hynny o fewn yr ysgol."

Nia Puw
Disgrifiad o’r llun,

Wrth edrych ymlaen i'r 100 mlynedd nesaf, mae Nia Puw yn gobeithio am "dyfodol llewyrchus"

Bu Robin Williams yn bennaeth Ysgol Llanrug am chwarter canrif, ac fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y dathliadau 100 oed, fe aeth yn ôl i'r ysgol i bori trwy hanes ei sefydlu 'nôl yn y 1920au.

Dywedodd: "Y lle i ddechrau oedd efo llyfr log yr ysgol, sydd yn gofnod o'r diwrnod cyntaf yn 1925 ac yn dod ymlaen i 1991 - ar ôl i newidiadau sylweddol ddigwydd dan lywodraeth Margaret Thatcher, a newid y drefn a'r ffordd oedd ysgolion yn cael eu rhedeg."

Robin WilliamsFfynhonnell y llun, Ysgol Llanrug
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robin Williams wedi bod yn pori trwy llyfrau hanes yr ysgol yn ddiweddar

Mae'r llyfr cyntaf o 1925 yn cofnodi bob diwrnod o'r flwyddyn gyntaf, sy'n wahanol iawn i flwyddyn ysgol y plant a'r athrawon yn 2025.

Saesneg oedd yr iaith bryd hynny wrth gofnodi, ond mae'n newid o 1965 ymlaen, wrth i'r cofnodi droi i'r Gymraeg.

Ychwanegodd Mr Williams: "Mae 'na gyfnodau hanesyddol allweddol a diddorol i'r plant - y ffaith fod rhai oedd ar ffermydd yn cael colli ysgol i godi tatws ac yn y blaen."

Nyfain, Beca a William
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nyfain, Beca a William yn dweud y byddai'n hwyl cael profiad o fynd i Ysgol Llanrug 'nôl yn 1925

Mae pethau'n wahanol iawn yn 2025 o'i gymharu â dyddiau cynnar yr ysgol, fel y mae'r disgyblion presennol yn nodi.

"Dwi'n meddwl byddai'n reit hwyl cael chware yn yr eira, a dal mynd i'r ysgol yng nghanol eira," yn ôl William.

Ychwanegodd Nyfain a Beca: "Fysa fo dal yn cŵl, fel mewn lluniau - gweld pobl yn dod i'r ysgol ar gefn ceffylau."

Wrth edrych ymlaen i'r 100 mlynedd nesaf, mae Nia Puw yn gobeithio am "dyfodol llewyrchus, gan obeithio datblygu safle'r ysgol i ymateb i anghenion cyfredol yr ysgol er mwyn datblygu'r Cwricwlwm i Gymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig