Cyfraith optio allan o roi organau heb gael 'llawer o effaith'

Mae trafod rhoi organau yn dal i fod yn bwnc tabŵ ac mae angen mwy o addysg ynglŷn â'r gyfraith, meddai'r nyrs arbenigol Kathy Rumbelow
- Cyhoeddwyd
Prin yw effaith cyfraith gafodd ei chyflwyno er mwyn ceisio cynyddu nifer y bobl sy'n rhoi organau ar ôl marw - dyna farn elusen ac ymchwilwyr o Brifysgol Bangor.
Mae'r Ddeddf Trawsblannu Dynol [Cymru] yn tybio bod person yn cytuno i roi organau ar ôl iddyn nhw farw, oni bai eu bod yn 'optio allan'.
Dywedodd mam i ddyn ifanc a gafodd ei lofruddio, er ei bod yn torri ei chalon, bod y profiad o allu cytuno i ddymuniad ei mab o roi organau yn un "diymhongar".
Fe gynyddodd nifer y bobl a gytunodd i roi organau 15% ar y dechrau, ond mae'r nifer wedi disgyn dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae cynlluniau ar y gweill i geisio cynyddu'r nifer unwaith eto.
Athrawes a gafodd ei golwg yn ôl mewn un llygad yn annog trafod rhoi organau
- Cyhoeddwyd29 Medi 2024
'Lle o hyd i annog sgyrsiau am bwysigrwydd cofrestru i roi organau'
- Cyhoeddwyd23 Medi
Cynnydd yn y nifer sy'n rhoi organau
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2018
Mae'r ddeddfwriaeth wedi helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn trafod rhoi organau ac mae hynny'n "hanfodol" meddai'r nyrs arbenigol, Kathy Rumbelow.
Ond, ychwanegodd bod yna dal "rhywfaint o ddryswch" ynglŷn â beth yn union mae'r gyfraith yn ei olygu.
"Pan ddaeth y gyfraith i fewn deg mlynedd yn ôl roedd lot o ymwybyddiaeth amdano fe," meddai.
"Odd e yn y papur, odd e ar y teledu a roedd lot o bobl yn siarad amdano fe achos roedd y gyfraith yn newid."
Ond fe esboniodd er bod rhai'n ymwybodol o'r broses bellach, dyw pawb ddim yn sylweddoli bod dal yn rhaid "ymuno â'r rhestr".
Wrth gyfeirio at y broses o siarad â theulu'r person a fu farw ynghylch rhoi organau'r ungiolyn hwnnw, dywedodd ei fod yn llawer haws i bawb os ydy'r teulu eisoes wedi trafod dymuniadau'r unigolyn yn ystod ei fywyd.
Beth yw manylion y ddeddf?
Ar 1 Rhagfyr 2015, fe gyflwynodd Cymru gyfraith newydd oedd yn cynnwys opsiwn i 'optio allan' - Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno hyn.
O dan y ddeddfwriaeth, mae pawb yn cael eu hystyried yn fodlon i roi organau heblaw eu bod wedi 'optio allan' o'r gofrestr.
Os nad oes penderfyniad wedi cael ei gofrestru yna mae gan berthynas yr unigolyn a fu farw yr hawl i wrthod y rheol sy'n cymryd yn ganiataol bod yr unigolyn dan sylw'n hapus i roi organau.
Cyfraith 'meddal' yw hon - felly, hyd yn oed os wnaeth yr unigolyn a fu farw ddewis 'optio mewn' i roi organau yn ystod ei fywyd, mae gan y teulu'r hawl i wrthod hynny hefyd.

Gan fod Conner wedi penderfynu optio mewn cyn iddo farw mae tri o bobl wedi cael ei organau
Pan gafodd Conner Marshall ei lofruddio yn 18 oed, fe wynebodd ei rieni gwestiynau ynglŷn â rhoi organau.
Fe wrthodon nhw'r drafodaeth gyda nyrs arbenigol i ddechrau ond roedd ei fam, Nadine, yn gwybod beth oedd dymuniad ei mab.
Roedd wedi siarad â Conner am y peth pan roedd yn gwneud cais am drwydded beic modur pan yn 16 oed.
Dywedodd bod Conner wedi cwestiynu "pwy fyse ddim eisiau rhan o hwn?"
Gan "ddangos ei oedran e", meddai.
"Yr unig beth 'wedodd e odd bod e ddim eisiau i nhw gymryd ei lygaid e a dywedais i bo' fi'n deall a bo' fi'n rili prowd o ti'n cymryd y cam yna."
'Deall pam na fyddai pawb yn hapus'
Ychwanegodd Ms Marshall ei bod hi'n deall pam na fyddai rhai teuluoedd yn hapus i'w perthnasoedd roi organau.
Yn enwedig os nad oedden nhw wedi siarad am y peth â'r unigolyn ymlaen llaw, neu os nad oedden nhw'n deall y broses.
Iddyn nhw fel rhieni roedd y broses wedi bod yn "hawdd" meddai ac mae pob cam yn cael ei esbonio.
"Roedd pob dim yn cael ei wneud gyda pharch tuag at Conner. Hwnna odd y peth pwysig - dangos parch i fe, a'i ofynion e."
"Fi'n gwybod bod e wedi helpu tri o bobl gyda'r arennau a'i afu. So mae hwna'n beth positif iawn," meddai.

Mae Carwyn Jones o Geredigion wedi gwella'n sylweddol ar ôl cael aren a phancreas ond mae'n synnu faint o bobl sydd angen trawsblaniad
Ar ôl i nifer y bobl oedd yn cytuno i roi organau gynyddu yn ystod y dair blynedd ar ôl cyflwyno'r ddeddf newydd yng Nghymru, fe benderfynnodd gwledydd eraill y DU wneud yr un peth.
Ond erbyn hyn mae canran y bobl sy'n cydsynio i roi organau wedi gostwng i'r lefel isaf mewn degawd, er i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyflwyno cyfreithiau tebyg o 2020 ymlaen.
Mae nifer y bobl yn y DU sydd ar y rhestr trawsblaniad wedi cyrraedd y nifer mwyaf erioed.
Ar hyn o bryd mae mwy na 2,800 o bobl yn aros am organ neu feinwe newydd.
Mae'r oedi'n gallu cael effaith mawr ar iechyd meddwl, meddai un sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg.
Bu rhaid i Carwyn Jones, 39, o Bontsiân yng Ngheredigion, aros bedair blynedd cyn cael aren a phancreas newydd.
"Mae fel disgwyl cael y loteri numbers" meddai, "mae'n rhaid just cadw fynd gyda bywyd.
"Ar y dechrau roeddwn i'n meddwl bydde fe'n digwydd yn eitha' cloi."
Ond yr hiraf yr oedd yn rhaid iddo aros a'r holl "alwadau i fynd lawr a dim byd yn digwydd, dechreuais i fynd i le tywyll wedyn, a meddwl sai byth yn mynd i fod yn well a mae'r amser gorau wedi mynd" meddai.

Mae Dr Leah McLaughlin yn rhan o dîm o academyddion sydd wedi bod yn astudio effeithlonrwydd y ddeddf optio allan ar draws y DU
Mae astudiaethau diweddar o'r gyfraith 'optio allan' yng Nghymru a Lloegr wedi dod i'r casgliad bod y polisi ddim wedi cael yr effaith yr oedd e'n gobeithio cael.
Mae'n sefyllfa debyg iawn yng Nghymru, yn enwedig yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf, meddai Dr Leah McLaughlin sy'n wyddonydd gofal iechyd ym Mhrifysgol Bangor.
"Rwy'n credu bod effeithiau'r pandemig wedi dylandwadu ar yr hyn rydyn ni'n gweld.
"Ond yn gyffredinol does yna ddim digon o adnoddau ar gael i gefnogi'r system yn enwedig o gymharu â'r sefyllfa yng Nghymru yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl i'r gyfraith newid."
Mae astudiaethau yn Lloegr wedi darganfod bod cefnogaeth i'r syniad o roi organau 20% yn llai ymysg cymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Mae'n batrwm tebyg yng Nghymru, ond mae'r niferoedd tipyn yn llai.
"Yr hyn o'n i'n ei weld oedd ymgyrchoedd camwybodaeth niweidiol yn targedu grwpiau penodol o fewn ein cymunedau," meddai Dr McLaughlin.
"Y peth trist am hynny yw bod pobl o gefndiroedd du ac Asiaidd yn fwy tebygol o fod angen trawsblaniad, felly maen nhw'n cael eu gorgynrychioli ar y rhestr aros am drawsblaniad, ac maen nhw'n cael eu gorgynrychioli wrth edrych ar y niferoedd sy'n dewis optio allan."
Ychwanegodd gwasanaeth gwaed a thrawsblannu'r Gwasanaeth Iechyd fod nifer y bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol sy'n llofnodi'r gofrestr rhoi organau wedi cynyddu ychydig yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ond bod "mwy o waith i'w wneud o hyd".
Dywedodd llywodraeth Cymru: "Mae'n naturiol bod y gwaith marchnata'n cael ei gyflwyno ar gyflymder mwy cyson, yn enwedig nawr bod gwledydd eraill y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth debyg.
"Fe gafodd y pandemig effaith ar agweddau'r cyhoedd a chyfraddau rhoi organau, ond mae arwyddion eleni y gallai'r gyfradd gydsynio yng Nghymru fod yn gwella, ac mae cryn dipyn o waith wedi'i gynllunio i barhau i'w gwella."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.