Rhybudd ynglŷn â bod yn gaeth i ddefnyddio apiau canlyn

- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes sydd wedi rhannu ei phrofiad o ddefnyddio apiau canlyn wedi rhybuddio ynglŷn â pheryglon dod yn gaeth iddyn nhw.
Mae Lowri Rose, 26 oed, o Gaerdydd wedi cyfrannu at raglen ddogfen i'r BBC yn trafod twf aruthrol apiau o'r fath, a'r peryglon all fod ynghlwm â nhw.
Bu Lowri'n eu defnyddio'n rheolaidd rhwng 18 a 24 oed gan fynd i'r hyn y mae hi'n ei alw'n gylch o lawrlwytho'r ap a'i ddefnyddio am gyfnod yna'i ddileu, cyn wedyn dychwelyd ato rhai wythnosau yn ddiweddarach.
"Dwi'n meddwl o'n i'n hoffi'r attention, ond pan o'n i wedi logio allan o'n i'n teimlo'n waeth amdano fy hun - o'n i'n teimlo fel bod pobl yn 'lustio' drosto' fi a ddim eisiau dod i 'nabod fi fel person," meddai.

Mae Lowri Rose bellach wedi dyweddïo, ar ôl cwrdd â'i phartner trwy ffrindiau rhyw bythefnos ar ôl iddi ddileu'r apiau
Mae'n dweud ei bod wedi'i denu at apiau yn y lle cyntaf oherwydd bod "pawb" yn eu defnyddio ac mai dyna'r "ffordd mwya' normal i gwrdd â phobl".
"Mae pawb ar yr apps, ac mae pawb yn defnyddio nhw yn lle mynd allan a chwrdd â phobl."
Ond roedd y profiad o gwrdd â phobl ar ôl siarad gyda nhw ar apiau yn rhyfedd, meddai, oherwydd bod pobl "yn wahanol iawn" mewn bywyd go iawn o gymharu â'r ffordd maen nhw'n ymddangos ar-lein.
Mae'r rhaglen ddogfen yn trafod pryderon rhai o gyn-weithwyr y cwmni mwyaf yn y maes, nad ydyn nhw'n gwneud digon i gadw defnyddwyr yn ddiogel.
Mae Match Group yn berchen ar safleoedd Tinder a Hinge a dwsinau o apiau tebyg, ac maen nhw'n mynnu eu bod wedi cymryd sawl cam i sicrhau diogelwch y degau o filiynau o ddefnyddwyr sydd ganddyn nhw.
Ond mae nifer o gyn-uwch swyddogion fu'n gweithio yno dros gyfnod o ddeng mlynedd yn dweud bod yna dipyn o siarad yn gyhoeddus am ddiogelwch, ond nad oedd digon o staff i ddelio â'r nifer uchel o achosion o dreisio, ymosod yn rhywiol a thwyll gododd ymhlith defnyddwyr yr apiau.
'Diogelwch yn brif flaenoriaeth'
Mewn datganiad, dywedodd Match Group bod diogelwch "yn brif flaenoriaeth iddyn nhw" a'u bod wedi "buddsoddi'n helaeth mewn mesurau diogelwch newydd, o dechnoleg deallusrwydd artiffisial [AI], i gyflwyno'r dewis i ddilysu defnyddwyr mewn rhai gwledydd fel y DU".
Mae Lowri Rose yn dweud bod ganddi hi deimladau cymysg ynglŷn âg apiau canlyn, ar ôl ei phrofiad hi o'u defnyddio.
Mae'n dweud ei bod yn falch o fod wedi cael y profiad o gwrdd â phobl, ond ei fod wedi effeithio arni yn negyddol yn feddyliol mewn sawl ffordd.
Mae hi bellach wedi rhoi'r gorau i'w defnyddio, gan ei bod hi wedi dyweddïo, ac wedi cwrdd â'i phartner trwy ffrindiau - a hynny rhyw bythefnos ar ôl iddi ddileu'r apiau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2020

- Cyhoeddwyd11 Mawrth
