Anaf difrifol i blentyn yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanrwst

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd y Bont, ger y bont yng nghanol Llanrwst
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn yn cael triniaeth yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl yn dilyn gwrthdrawiad brynhawn Gwener yn Sir Conwy.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn gwrthdrawiad ychydig cyn 17:20 ar Ffordd y Bont, ger y bont yng nghanol Llanrwst.
Roedd y digwyddiad, medd Heddlu'r Gogledd, "yn cynnwys plentyn a fan Ford Transit Custom wen".
Ychwanegodd llefarydd y bu'n rhaid cludo'r plentyn i'r ysbyty mewn hofrennydd "gydag anafiadau difrifol" a bod yr A470 trwy'r dref yn dal ar gau nos Wener wrth i swyddogion ymchwilio i'r achos.
Mae'r Ditectif Sarjant Katie Davies o o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol "yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad sydd heb siarad â ni hyd yn hyn, i gysylltu â ni ar y cyfle cyntaf".
Mae'r llu hefyd yn gofyn am luniau dashcam gan unrhyw un oedd yn gyrru ar hyd Ffordd y Bont adeg y gwrthdrawiad.