Pencampwriaethau Euro dan-17: Sêr y dyfodol yn barod i greu argraff

cymruFfynhonnell y llun, CBDC
  • Cyhoeddwyd

Mae tîm pêl-droed Cymru dan 17 yn paratoi ar gyfer Pencampwriaethau Euro 2024 yng Nghyprus.

Bydd y Cymry ifanc yn chwarae yn erbyn Denmarc ar 20 Mai, Awstria ar 23 Mai a Croatia ar 26 Mai.

Yma, mae Dylan Griffiths o adran chwaraeon y BBC yn trafod y bencampwriaeth, a'r Cymry disglair a all greu argraff:

Y gobaith oedd y byddai cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru yn gwneud eu paratoadau ar hyn o bryd i dreulio rhai wythnosau yn Yr Almaen ar gyfer rowndiau terfynol Euro 2024 fydd yn dechrau fis Mehefin.

Yn anffodus, o ganlyniad i’r golled ar giciau o’r smotyn yn erbyn Gwlad Pwyl fydd 'na ddim trydedd rownd terfynol yn olynol i’r rheolwr Rob Page a’i chwaraewyr.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru yn wynebu Denmarc, Awstria a Croatia yn eu grŵp

Ond does dim eisiau digalonni gormod oherwydd mi fydd 'na gynrychiolaeth o Gymru yn rowndiau terfynol Ewrop yr haf yma gyda’r tîm dan 17 yn paratoi i chwarae yng Nghyprus yr wythnos nesaf.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r tîm dan 17 gyrraedd y rowndiau terfynol, a’u gwrthwynebwyr nhw yn y grŵp fydd Denmarc, Awstria a Croatia, ac yn ôl y rheolwr Craig Knight mae o’n edrych ymlaen at y gystadleuaeth a’r blynyddoedd nesaf:

“Mae’n gyfnod mor gyffrous”, dywedodd Knight.

“‘Da ni am weld y chwaraewyr yma yn cael y profiadau hyn, ac wrth edrych ymlaen at 2026, Cymru fydd yn cynnal Rowndiau Terfynol dan 19 oed, ac yna yn 2028, Y Deyrnas Unedig ac Iwerddon fydd yn cynnal Rowndiau Terfynol Euro 2028 – pam na all y chwaraewyr yma fod yn rhan o’r garfan honno?

“Mi fyddai wedi cyffroi cymaint os bydd rhai o’r garfan bresennol yma yn y brif garfan mewn pedair blynedd.”

Oliver Bostock - ymosodwr West Bromwich Albion.

Mae’r capten Bostock yn gymwys i Gymru oherwydd bod ei nain yn Gymraes, a fo oedd y capten trwy’r gemau yn ystod y rowndiau rhagbrofol.

Ffynhonnell y llun, West Bromwich Albion
Disgrifiad o’r llun,

Capten Cymru ar gyfer y bencampwriaeth, Oliver Bostock

Luis Gardner – chwaraewr canol cae Everton.

Nid yn unig y mae Gardner yn gorfod gweithio’n galed i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth, mae o hefyd yng nghanol ei arholiadau TGAU.

Mae o’n ddisgybl yn Ysgol Dinas Brân yn Llangollen, yr un ysgol lle fuodd Harry Wilson yn ddisgybl, ac yn ôl Gardner, mae athrawon yr ysgol yn ei atgoffa yn aml am Wilson sydd wedi ennill 54 o gapiau dros ei wlad.

“ Mae o hyd [Wilson] yn cael ei grybwyll gan yr athrawon,” meddai Gardner wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru.

“Maen nhw’n deud wrtha i yn aml i mi geisio ei efelychu, felly gawn ni weld os fydd hyn yn digwydd!”

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewr Everton sydd yn gwneud dipyn o enw i'w hun, Luis Gardner

Elliot Myles - ymosodwr Norwich City

Myles sgoriodd yr ail gôl yn y fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Hwngari i selio lle Cymru yn y rowndiau terfynol.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Myles wedi chwarae i Loegr dan 16 a 17, a Chymru dan 16 a 17

Brayden Clarke – amddiffynnwr Arsenal

Clarke ydy’r unig aelod o’r garfan chwaraeodd yn y rowndiau terfynol y llynedd, ac mae hi wedi bod yn gyfnod cyffrous iddo fo’n bersonol yn ddiweddar ar ôl ymuno gyda chewri Uwch Gynghrair Lloegr Arsenal.

Mae Arsenal yn gobeithio cael eu coroni’n Bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr y penwythnos yma, ac mae Clarke yn mawr obeithio y bydd hyn yn digwydd.

“Mae’r clwb wedi datblygu gymaint dros y blynyddoedd diwethaf ond mae Manchester City sydd ar frig y gynghrair ar hyn o bryd yn un o dimau gorau’r byd.

“ O weld y chwaraewyr yn ymarfer yn rheolaidd, mae’n gwneud i mi feddwl, be allai ddysgu gan y chwaraewyr yma?”

“ Fydd ei gêm yn erbyn Everton ddim yn tarfu gormod arna i gobeithio, ond yn amlwg mi fydd o yng nghefn fy meddwl.”

Bydd Cymru yn wynebu Denmarc yn y gêm agoriadol ddydd Llun, a gobeithio y bydd y chwaraewyr yma yn serennu yn y gystadleuaeth yma ac am flynyddoedd i ddod.

Ffynhonnell y llun, Arsenal.com
Disgrifiad o’r llun,

Brayden Clarke yn arwyddo i Arsenal

Pynciau cysylltiedig